Mae gan Caerdydd ei gwefan ei hun gyda manylion am ddigwyddiadau cyfoes yn y brifddinas ar www.gaycardiff.co.uk www.gaywales.co.uk a gwefan Mardi Gras www.cardiffmardigras.co.uk Ebost: info@cardiffmardigras.co.uk
Yn yr adran hon:
Mae grwpiau LHD yn cynnig cefnogaeth grŵp cymheiriaid, cyfeillgarwch a chymorth rhywun yn yr un sefyllfa ac sy'n wynebu materion tebyg, er mwyn ymdrin â'r teimladau o unigrwydd ac anawsterau cysylltiedig â 'dod allan' ac i ddelio gydag agweddau o gamwahaniaethu cymdeithasol. Mae egwyddorion a dyletswyddau hanfodol y grwpiau hyn yn debyg i sefydliadau grwpiau cymheiriaid eraill, megis Gingerbread, y sefydliad cefnogaeth ar gyfer teuluoedd un rhiant.
Cliciwch yma am wybodaeth ar Linellau Cymorth LHD.
www.BiWales.org.uk
Grŵp ar gyfer unrhyw un sydd yn cael ei ddenu at fwy nag un rhyw, neu sy’n amau hynny.
Mae Bi Caerdydd yn cyfarfod i drafod materion deurywiol, cymdeithasu a chyfarfod pobl deurywiol eraill. Mae cysylltiad gyda Bi Cymru/Wales wrth gynnal ymgyrchoedd a herio biffobia.
Cyfarfod yn fisol ar ddydd Iau cyntaf bob mis am 7pm yng nghanol Caerdydd.
Nosweithiau cymdeithasol o 8:15pm ymlaen, yn agored i unrhyw un sy’n cefnogi pobl ddeurywiol, beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol.
Ebost: BiCardiff@yahoo.co.uk
Testun: 08982 308812
www.BiWales.org.uk
Rhwydwaith cefnogaeth gymdeithasol Cymru ar gyfer pobl ddeurywiol a’r rhai sy’n meddwl efallai eu bod yn ddeurywiol.
Rhestr bost: http://uk.groups.yahoo.com/group/biwales
Ebost: bicymru@yahoo.co.uk
Testun: 07982 308812
www.borderwomen.org.uk
Rhwydwaith gymdeithasol yw Border Women ar gyfer lesbiaid yn ardal y ffin rhwng Cymru a Lloegr ger Llwydlo / Henffordd gyda chyfarfodydd, teithiau cerdded, nosweithiau cymdeithasol a chylchlythyr misol.
Cysylltwch drwy'r post: Border Women Blwch Post 42, Llwydlo, Swydd Amwythig SY8 1WD.
Mae LHDT Prifysgol Caerdydd yn cyfarfod bron bob dydd Mercher yn Undeb y Myfyrwyr, Park Place, Caerdydd.
Am fanylion, e-bostiwch lgbt@cardiff.ac.uk
www.gaybridgend.com
Noson Hoywon a Lesbiaid ym Henybont ar nos Sadwrn cyntaf bob mis, am fanylion pellach cysylltwch â'r ebost: gaybridgend@gmail.com neu drwy ffonio: 07005-942-644
Grŵp L&H Byddar - Clwb Dreigiau
Mae'r grŵp L&H Byddar yn cyfarfod ar Sadwrn cyntaf bob mis.
Am fanylion pellach cysylltwch â'r: Ysgrifennydd, DRAGONS 6 Wentloog Road, Rhymni, Caerdydd. CF3 3LP
http://proudincardiff.forumup.org
Fforwm ar y we ar gyfer unrhyw fenyw deurywiol neu hoyw sy’n byw yng Nghaerdydd neu’r cyffiniau. Gallwch fewngofnodi a thrafod unrhyw beth o’r clecs diweddaraf i wleidyddiaeth. Mae cyfarfodydd cymdeithasol yn cael eu hannog er mwyn i’r aelodau fedru sgwrsio arlein ac wyneb yn wyneb.
Grŵp cyfeillgar a chroesawgar ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a’u cefnogwyr strêt, sy’n dod o bob enwad Cristnogol – neu ddim un. Rydym yn cyfarfod i gynnig cyfeillgarwch, cefnogaeth, addoliad a digwyddiadau cymdeithasol. Daw ein haelodau o ystod eang o gefndiroedd ac o bob oed, ac maent yn cynnwys rhai sy’n mynychu eglwysi, a rhai sy’n dewis peidio. Rydym yn cyfarfod mewn lleoliadau ledled yr ardal ar ddau ddydd Gwener y mis/ Ffôn: 0774 977 5607 neu ebost: southwales@lgcm.org.uk
www.dynwales.org
Mae Prosiect Dyn yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer dynion yng Nghaerdydd sy'n dioddef trais yn y cartref gan bartner.
Nodwch - os ydych chi neu unrhyw un o'ch teulu mewn perygl o achos trais yn y cartref neu unrhyw achos arall, ffoniwch yr heddlu bob tro ar 999."
Helpline: 0808 801 0321
Email: info@dynwales.co.uk
Clwb Awyr Agored Hoyw
http://goc.uk.net/
Mae'r Clwb Awyr Agored Hoyw yn gweithredu ledled Cymru ac yn darparu ystod eang o weithgareddau chwaraeon a hamdden yn yr awyr agored ac o dan do ar gyfer dynion a menywod LHDT. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys cerdded, beicio, nofio, badminton, ayyb.
Am wybodaeth cysylltwch â: info@goc.uk.net
Ar gyfer De Cymru cysylltwch ag Ian ar 02920 612853. Eu patrwm cerdded yw 4ydd Sul bob mis, ewch at : www.southwalesgoc.com am fanylion pellach
Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg
Am fanylion cyfoes am gyfarfodydd y gymdeithas myfyrwyr LHDT cysylltwch â'r Swyddog LHDT drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol Morgannwg.
Post: Cymdeithas LHDT, Prifysgol Morgannwg, Pontypridd.
Cymdeithas LHDT Undeb Myfyrwyr Casnewydd, Prifysgol Cymru Casnewydd
www.newportunion.com
Mae cymdeithas LHDT Prifysgol Casnewydd yn darparu cyfle i gyd-fyfyrwyr LHDT Casnewydd i gwrdd a mwynhau cyfarfodydd cymdeithasol a chael cyngor defnyddiol.
Am fanylion pellach cysylltwch â: lgbtnewport@hotmail.com
Mae grwp cefnogaeth LHD Torfaen yn cwrdd ar ddydd Iau ola'r mis. Cysylltwch â Richard drwy ebost outintorfaen@hotmail.com neu 07707 398877 am fwy o fanylion
Mae'r Grŵp Cefnogaeth Cymdeithasol hwn ar gyfer Menywod Hoyw 30+ yn cyfarfod yn fisol, am fwy o fanylion anfonwch ebost: w2wgroup2002@yahoo.co.uk
www.womenzonewales.co.uk
Sefydliad lesbiaidd yw Womenzone, yn cael ei redeg gan fenywod lesbiaidd ar gyfer menywod lesbiaidd, yn cynhyrchu cylchlythyr deu-fisol. Mae Womenzone hefyd yn ysgogi, cefnogi ac yn trefnu digwyddiadau ee: gwersylloedd syrffio, dawnsfeydd a brecwastau lesbiaidd misol.
Cysylltwch drwy Ganolfan Menywod Abertawe, 25 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5SQ,
ffôn 01792 411119
ebost: Womenzone@hotmail.co.uk
www.wtuc.org.uk
Pwyllgor Undeb Llafur sy'n ymgyrchu ar ran bobl LHDT yn y gweithle.
Ebost: wtuc@tuc.org.uk
Gweler adran Cymorth a Chymdeithasu LHD am fanylion Cymdeithasau LHD Undebau Myfyrwyr lleol.
www.rainbow-club.org.uk
Grŵp cefnogaeth a chyfeillio yw'r Rainbow Club, ar gyfer unrhyw berson ifanc o fewn ardal ddaearyddol De Ddwyrain Cymru sy'n profi problemau gyda'u rhywioldeb, boed yn hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol. Bwriad y clwb yw i bobl ifanc gefnogi ei gilydd wrth ddeall eu rhywioldeb, cynnig cyfeillgarwch a bod yn le i gasglu gwybodaeth neu gyrraedd at ddeunydd perthnasol ynglŷn â rhwydweithiau cefnogol eraill. Maent yn cwrdd rhwng 6-8pm bob dydd Mercher yn ardal Pont-y-pŵl ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol, ac i drafod materion iechyd rhywiol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â rainbowtorfaengroup@yahoo.co.uk
www.youthlinkwales.org
Mae Youthlink Wales yn fudiad gwirfoddol wedi ei sefydlu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc er mwyn hybu Dewisiadau Bywyd Diogel drwy Addysg Cymheiriaid ar gyfer rhai rhwng 14 a 25 mlwydd oed yng Nghymru. Nid yw hwn yn grŵp penodol i gefnogi pobl LHD ond gall gefnogi wrth wynebu materion perthnasol.
Cysylltwch â'r Tîm Gweinyddol ar 02920 885711
Rydym yn cynnig cyngor a chefnogaeth o’r swyddfa ac allgymorth i bobl ifanc LHDT rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yng Nghaerffili. Hefyd rydym yn cynnal gweithdai codi ymwybyddiaeth gyda phobl ifanc, ac yn darparu hyfforddiant a chyngor i bobl broffesiynol. Mae’r holl wasanaethau yn rhad ac am ddim.
Rheolwr – Suzi Moore
Ffôn: 01633 612 712 neu 07876 036941
Ebost: diversityproject@barnardos.org.uk
Yn llinell ffôn 24 awr rhad ac am ddim sy’n wasanaeth cyfeirio a gwybodaeth i fenywod, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef, neu wedi dioddef, camdriniaeth gan rywun agos atynt.
0808 80 10 800
www.dynproject.org
Mae Prosiect Dyn yn gweithio ledled Cymru i gefnogi dynion sy’n dioddef trais yn y cartref.
Llinell Gymorth - 0808 801 0321 – yn cefnogi dioddefwyr gwrywaidd ledled Cymru drwy ddarparu clust i wrando heb feirniadu. Gall staff y llinell gymorth hefyd helpu i ddod o hyd i wasanaethau cefnogi lleol i’r sawl sy’n galw. Mae’r llinell gymorth yn gwbl gyfrinachol, a’r galwadau’n rhad ac am ddim.
Mae Prosiect Dyn hefyd yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth wyneb yn wyneb i ddynion yng Nghaerdydd sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref.
www.welshwomensaid.org/index.html
Cymorth i Fenywod Cymru yw’r prif fudiad sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol ledled Cymru. Mae eu grwpiau yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i fenywod a phlant sydd wedi dioddef trais yn y cartref yn y gorffennol, neu ar hyn o bryd. Gallant gynnig cyngor/lloches i fenywod mewn perthynas heterorywiol neu lesbiaidd / deurywiol, os ydynt yn dianc neu’n dioddef trais yn y cartref.
www.gwent.police.uk/info_point/hatecrimereporting.htm
Mae gan Heddlu Gwent swyddogion cyfathrebu hyfforddedig ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae Swyddogion Cyswllt LHDT wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddioddefwyr drwy gydol yr ymchwiliad. Gobeithir y bydd yr adnodd ychwanegol hwn i ddioddefwyr yn annog y rhai sydd wedi dioddef trosedd casineb i gael mwy o hyder i wneud cwyn. Yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent 2010 dosbarthodd Heddlu Gwent fatiau diod gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth gyhoeddus am droseddau casineb homoffobaidd ac annog dioddefwyr a thystion i wneud adroddiad am ddigwyddiadau wrth yr heddlu. Cliciwch yma am ddatganiad i’r wasg gan Heddlu Gwent www.gwent.police.uk/news.php?a=2860 a Cliciwch yma am Fatiau Diod
Deialwch 101 os nad yw’n argyfwng megis:
os oes angen presenoldeb yr heddlu i gynorthwyo mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng
os oes angen gwneud cwyn am drosedd neu ddigwyddiad
ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol, gofynnwch i gael siarad â Swyddog Troseddau Casineb.
Deialwch 999 os oes argyfwng megis
Anaf difrifol wedi’i achosi, neu fygythiad o anaf difrifol
Trosedd yn digwydd ar y pryd, a’r drwgweithredwyr yn bresennol neu gerllaw
Post: Pencadlys Heddlu Gwent, Croesyceliog, Cwmbrân NP44 2XJ
Mae Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru yn gweithio gyda staff llinell flaen a Swyddogion Troseddau Casineb i roi cymorth a chefnogaeth i aelodau o gymunedau lleiafrifol, yn arbennig dioddefwyr troseddau casineb a digwyddiadau argyfyngus. Blaenoriaeth sylfaenol i’r Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl gyda’r nod o sicrhau lefelau uchel o fodlonrwydd ymysg dioddefwyr wrth daclo troseddau casineb a digwyddiadau casineb. Cliciwch yma am daflen Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd Heddlu De Cymru (yn Cymraeg a Saesneg)
Deialwch 101 os nad yw’n argyfwng megis:
os oes angen presenoldeb yr heddlu i gynorthwyo mewn sefyllfa nad yw’n argyfwng
os oes angen gwneud cwyn am drosedd neu ddigwyddiad
ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Am gyngor a chefnogaeth cyfrinachol, gofynnwch i gael siarad â Swyddog Troseddau Casineb.
Deialwch 999 os oes argyfwng megis
Anaf difrifol wedi’i achosi, neu fygythiad o anaf difrifol
Trosedd yn digwydd ar y pryd, a’r drwgweithredwyr yn bresennol neu gerllaw
Post: Pencadlys Heddlu De Cymru, Cowbridge Road, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SU
www.victimsupport.org.uk/Contact us/Wales
Yng Nghymru yn 2010 datblygodd Cymorth i Ddioddefwyr brosiect mewn partneriaeth gyda Stonewall Cymru i annog mwy o ddioddefwyr a thystion troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd, boed yn ‘hoyw neu strêt’, i ddefnyddio gwasanaeth cefnogi gwell Cymorth i Ddioddefwyr¹. Mae Prosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri wedi sicrhau fod staff a gwirfoddolwyr Cymorth i Ddioddefwyr y deall rhai o’r materion sy’n codi ac anghenion cefnogi pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy’n dioddef troseddau casineb. Cliciwch yma am daflen Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen genedlaethol o wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n darparu cefnogaeth gyfrinachol, heb farnu, yn rhad ac am ddim i ddioddefwyr a’u teuluoedd, boed wedi gwneud cwyn wrth yr Heddlu am y drosedd neu beidio. Gallant ddarparu cefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol wrth newid cloeon ayyb, helpu tystion/dioddefwyr yn y llys, neu gynorthwyo wrth hawlio Iawndal Anafiadau Troseddol.
Lle bynnag yr ydych yng Nghymru, ffoniwch 0845 612 1900, mae ein swyddfeydd ar agor rhwng 8am a 8pm.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth Diogelwch.
www.citizensadvice.org.uk
Mae Canolfan Cynghori'r Cyhoedd yn darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol yn rhad ac am ddim gan swyddfeydd, meddygfeydd, ysbytai, colegau, carchardai a llysoedd. Mae'r cyngor yn cynorthwyo pobl i ddatrys eu problemau dyledion, budd-daliadau, cartrefi, cyfreithiol, camwahaniaethu, cyflogaeth, mewnfudiad, defnyddwyr a phroblemau eraill ac mae ar gael i bawb, beth bynnag fo'i hil, rhyw, rhywioldeb, oedran, cenedl, anabledd neu grefydd.
Am eich Canolfan leol cliciwch yma
Am gyngor CAB Arlein cliciwch yma
www.clsdirect.org.uk
Mae'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol yn cynorthwyo pobl sydd yn gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol er mwyn amddiffyn eu hawliau a chynorthwyo pobl sydd angen cyngor am dor-perthynas neu broblemau gyda dyledion, cartrefi, trais yn y cartref a budd-daliadau. Mae cymorth hefyd ar gael am loches a mewnfudo, addysg, cyflogaeth, materion iechyd meddwl a gofal cymunedol.
Ffôn: 08453454345
www.tht.org.uk
Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yw prif elusen HIV ac iechyd rhywiol y DG a'r mwyaf yn Ewrop. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer pobl sy'n byw gyda HIV/AIDS, ac yn ymgyrchu ar gyfer gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd o faterion iechyd rhywiol. Maent hefyd yn cynnig addysg ac adnoddau gwybodaeth.
Mae THT Cymru Caerdydd ar agor rhwng 10am-5pm Llun - Gwe yn Canton House, 435-451 Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd CF5 1JH.
Ffôn 029 20 666465
Ebost info.cymru@tht.org.uk
www.trothwy.com
Mae Triongl Cymru yn darparu cyngor a chefnogaeth Cartrefi ar gyfer pobl LHDT ledled Cymru.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth: 0808 801 0306
Ebost: triangle@gwalia.com
Post: Triongl Cymru, 4 Dock Chambers, Stryd Bute, Caerdydd CF10 6AG
www.mind.org.uk
Rhwydwaith iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw a phobl deurywiol sydd naill ai yn, neu wedi, dod i gysylltiad gyda gwasanaethau iechyd meddwl drwy fod yn ddefnyddwyr neu'n weithwyr, cyflogedig neu'n ddi-gyflog. Mae'r gr?p yn cefnogi datblygiad ymrwymiad Mind i raglen ymwybyddiaeth hawliau iechyd meddwl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).
Mae'r grŵp yn:
Cysylltiadau:
Ffôn: 02920 - 39 51 23
Ebost: mindoutcymru@mind.org.uk
Post: Mind Cymru
3ydd Llawr
Quebec House
Castlebridge
Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB
Amgylchedd Diogel a Chyfrinachol lle gall Pobl LHDTA Drafod eu Hiechyd Meddwl
Fel rhan o Bartneriaeth Cydraddoldeb Casnewydd, mae’r grŵp hwn yn cynnig lle diogel lle gall pobl LHDTA (18 oed a throsodd neu 16-17 yng nghwmni oedolyn) ddysgu mwy am boen meddwl sy’n deillio o homoffobia, ac am les ac iechyd meddwl da.
Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth i unigolion LHDTA â materion iechyd meddwl.
Cynhelir y grwpiau unwaith y mis, gyda’r hwyr yn ardal Casnewydd. Ebost: info@newportequitypartnership.co.uk,
Ffôn: 07599689231 (Dydd Llun 6-8pm yn unig),
Facebook: edrychwch am Mind OUT Newport
www.p2bmums.co.uk
Mae'r Grwp Cefnogaeth Cymdeithasol hwn ar gyfer Rhieni Lesbiaidd yn cyfarfod yng Nghaerdydd ar Sul olaf bob mis. Am fwy o wybodaeth anfonwch
Ebost at: hello@p2bmums.co.uk
Neu ffoniwch Helen ar 07974573693
www.SPLAGWales.org.uk
Llinellau cymorth cyfrinachol yn cael eu rhedeg ledled y DG yn wirfoddol gan rieni pobl LHD. Cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rieni sydd yn yr un sefyllfa.
Llinell gymorth ar gyfer Cymru - 0845 652 0321 neu 0845 652 0322
E-bost: janet.jeffries@btinternet.com
www.cardiffdragonsfc.co.uk
Ein bwriad yw hyrwyddo cyfranogaeth mewn pêl-droed o fewn y gymuned LHDT yng Nghaerdydd, De Cymru a thu hwnt. Byddwn yn cyflawni hyn drwy sefydlu timau pêl droed LHDT gyfeillgar, 5 ac 11 bob ochr.
Croesawn bobl o bob oed, gallu a rhywioldeb. Mae gennym adain gymdeithasol weithgar, felly mae croeso i rai nad ydynt yn chwaraewyr ymuno i fwynhau'r digwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan y Clwb (ee mynychu gemau pêl-droed, nosweithiau allan, prydau bwyd ayyb).
E-bost: info@cardiffdragonsfc.co.uk
Os ydych yn aelod o grŵp a’ch bod am i ni gynnwys eich sefydliad cliciwch yma i anfon ebost at y tîm.
*Ni all Stonewall Cymru warantu cywirdeb, cyfrinachedd, na rhoi achrediad sicrwydd safon ar gyfer unrhyw wasanaeth a restrir.
*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen