Ochor yn Ochor: Adroddiad Cynhadledd 2007

Mae Stonewall Cymru yn lawnsio adroddiad  cynhadledd Stonewall Cymru 'Ochr yn Ochr' sy'n edrych ar ffyrdd o gynyddu hyder wrth wneud adroddiad am drosedd casineb homoffobaidd.

Cynhaliwyd y Gynhadledd ar 31ain Mawrth yn Abertawe, ac fe fynychodd bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) a chynrychiolwyr o’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymorth i Ddioddefwyr o bob cwr o Gymru. Rhoddodd gyfle i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol glywed am yr hyn y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ei wneud i wynebu troseddau casineb homoffobaidd, a chynnig awgrymiadau am ffyrdd i gynyddu hyder yn y broses o wneud adroddiadau.

Cafodd ei ddisgrifio gan un cynadleddwr fel: “Cyfle gwych i ddysgu mwy a rhwydweithio gyda chyrff cyhoeddus, unigolion tebyg eu meddwl, gan uno er mwyn canolbwyntio ar fater pwysig sy’n cael ei rannu gan gymaint o bobl amrywiol!”

Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru “Roedd yn ddiwrnod ardderchog, ac mae wedi cynhyrchu nifer o argymhellion ar gyfer y camau nesaf i ddatblygu partneriaethau a chynyddu hyder a nifer yr adroddiadau am droseddau casineb homoffobaidd.”

Am fwy o gwybodaeth:


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth


Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.