Ydych chi’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) ac o gefndir du neu leiafrif ethnig (BME)?
Os felly, hoffem glywed oddi wrthych am y nodweddion da a’r anawsterau sy’n codi yn sgil y ddwy hunaniaeth, a sut brofiad yw byw yng Nghymru.
Mae Bys yn y Dŵr yn brosiect bychan i gasglu gwybodaeth yng ngogledd Cymru, gan Rwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru mewn cydweithrediad â Stonewall Cymru, ac yn darparu cyfle i bobl sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol ac o gefndir du neu leiafrif ethnig i rannu ac ystyried yr effeithiau cadarnhaol a negyddol o fod yn unigolyn o fewn y ddwy ‘gymuned’ leiafrifol, gyda’r posibilrwydd o ddatblygu prosiect mwy yn y dyfodol.
Lleolir y prosiect yng ngogledd Cymru, ond hoffem glywed gan bobl LHD BME ledled Cymru. Byddwn yn trin manylion personol â chyfrinachedd llwyr.
Gallwch gyfranogi drwy wneud un neu fwy o’r canlynol:
Mae Jenny a Tue yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.
Jenny Porter
Swyddog Cyswllt Cymunedol
Stonewall Cymru
jenny.porter@stonewallcymru.org.uk
01492 622202
www.stonewallcymru.org.uk
Tue Hong Baker
Swyddog Datblygu Prosiect
Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru
tue@nwren.org
01492 622233
www.nwren.org
Rydym yn rhannu’r un cyfeiriad post:
Y Ganolfan Cydraddoldeb
Ffordd Bangor
Penmaenmawr
Conwy LL34 6LF
Ariannir y prosiect hwn gan Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WEDHS) www.wedhs.org.uk
www.usersandcarers.co.uk
Mae 'Dweud eich dweud' yn gwahodd pobl sy'n byw yng Nghonwy a Sir Ddinbych i gymryd rhan mewn llunio a datblygu gwasanaethau iechyd meddwl lleol i oedolion. Trwy glicio llygoden, mae'r gwasanaeth rhyngweithiol newydd yn galluogi defnyddwyr gwasanaethau a chynhalwyr i ymuno â fforymau arbennig, i ddysgu am gyfleoedd i gymryd rhan ac i gael gwybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol, a llawer mwy …
Mae’r ymchwil hwn bellach wedi’i gwblhau. Am fwy o wybodaeth am y prosiect a chopi o’r adroddiad, cliciwch yma.
Ydych Chi’n Derbyn Gwasanaeth?
Triniaeth Deg ym myd Addysg, Cyflogaeth, Iechyd a Chartrefi.
Cliciwch yma i lwytho ymatebion ymgynghoriad Cynhadledd Flynyddol 2006.
Os na fedrwch ddod o hyd i'r wybodaeth angenrheidiol ar y wefan hon, gallwch ffonio swyddfeydd Stonewall Cymru ar 029 20 237744 neu 01492 622202 neu linell wybodaeth Stonewall ar 08000 50 20 20 (Llun - Gwener 9:30am - 5:30pm) ac fe geisiwn eich cyfeirio at y man cywir.
Sylwadau am y dudalen