CWC11 - Header CYM

Archebwch le nawr - Prif siaradwyr - Hafan - Rhaglen - Adborth 2010 

Sesiynau grŵp

Bydd ein cynhadledd yn cynnwys amrywiaeth o drafodaethau penodol a dosbarthiadau meistr, gyda’r nod o’ch cyflwyno i arferion gorau cyflogwyr pwysig o bob cwr o Gymru a Phrydain. Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth.


Dyletswyddau Penodol Cymru

Beth fydd newid yn y gyfraith yn ei olygu i’ch mudiad chi? Bydd cyfle i ystyried y goblygiadau ymarferol ac i edrych ar arferion gorau.

 
Datblygu Gyrfa

Sut all eich sefydliad helpu staff lesbiaid, hoyw a deurywiol (LHD) i oresgyn rhwystrau personol sy’n eu hatal rhag datblygu eu gyrfa?


Lesbiaid Blaenllaw: Torri drwy’r nenfwd gwydr

Cyfle i glywed gan ferched blaenllaw ysbrydoledig sut y mae cyfeiriadedd rhywiol yn effeithio ar eu dull o arwain


Ymwybyddiaeth Rheolwyr Llinell

Edrych ar ffyrdd ymarferol o sicrhau bod Rheolwyr Llinell yn deall anghenion staff LHD ac yn cefnogi cynlluniau cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol.

Caffael 

Deall beth y bydd disgwyl i sefydliadau allu ei ddangos pan fyddant yn cynnig am fusnes o ganlyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


Amserau Anodd (Cadw’r pwyslais)

Sut mae cyflawni cydraddoldeb mewn cyfnod o gyni?

Beth yw nodweddion Hyrwyddwr Amrywiaeth?

Os yw ‘pobl yn perfformio’n well wrth ymddwyn yn naturiol’ sut all eich sefydliad ddatblygu amgylchedd gwaith cefnogol a chynhyrchiol ar gyfer eich staff LHD?


Gwerth Rhwydweithiau Cyflogeion

Sut allwch chi ddenu mwy o aelodau i’ch Rhwydwaith LHD a’i wneud yn werth chweil?

Lawrlwytho llawlyfr y gynhadledd (Saesneg / Cymraeg)

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb, cysylltwch â Dean Lloyd ar 02920 237 761 neu e-bost gweithle@stonewallcymru.org.uk 

 

 

 

 

 

 

CWC11 - WMC image

 

Cefnogwyd gan

barclaywp2010