Mae meini prawf Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2011 a chanllawiau i gyfranogwyr ar gael i’w llwytho i lawr nawr. (Yn Saesneg yn unig)
Dylid defnyddio’r ddwy ddogfen wrth baratoi cais ar gyfer y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle. Bydd y Mynegai yn cael ei gwblhau arlein, ac yn cael ei asesu gyda’r dystiolaeth ategol. Bydd y ffurflen ar gael arlein o 26 Mai 2010 ymlaen, a’r dyddiad cau yw 10 Medi 2010.
Bydd cyflogwyr sy’n rhan o’r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn derbyn cyfarwyddiadau ar gyfer agor eu cais arlein yn uniongyrchol gan Stonewall.
Os nad ydych yn rhan o raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth, ond yr hoffech gyfranogi ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2011, anfonwch ebost at Stonewall yn nodi eich manylion cyswllt. Ni chodir tâl i gyfranogi yn y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle.
Cyhoeddir canlyniadau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle ym mis Ionawr 2011.
Sylwadau am y dudalen