Blaenoriaethau allweddol Stonewall Cymru ar gyfer 2008-11

Yn ogystal â’n rhaglen waith graidd o lobio  awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r llywodraeth am gynhwysiad, a gwelliannau deddfwriaethol a pholisi ar gyfer pobl LHD yng Nghymru, byddwn yn canolbwyntio ar yr amcanion strategol allweddol canlynol ar gyfer y 3 blynedd nesaf:

1. Ymgysylltiad Cymunedol

Gweithio gyda phobl LHD er mwyn iddynt fedru chwarae rhan lawn yn eu cymunedau. Darparu gwybodaeth i unigolion a grwpiau cymunedol LHD. Cynyddu’r wybodaeth am anghenion gwasanaeth LHD lleol oddi mewn i gyrff cyhoeddus a phreifat.

Targed allweddol: Rhwydweithiau LHD rhanbarthol ledled Cymru erbyn 2011.

2. Cyfranogaeth

Hwyluso’r ffordd i grwpiau a phobl LHD yng Nghymru gael lleisio eu barn a chael gwrandawiad gan y llywodraeth a darparwyr gwasanaethau. Cynyddu cyfranogaeth gan bobl LHD yng ngwaith Stonewall Cymru.

Targed allweddol: creu cyfleoedd i 3,000 o bobl LHD gyfranogi gyda Stonewall Cymru.

3.Addysg

Cefnogi ysgolion, Awdurdodau Addysg Lleol a gweithwyr byd addysg i daclo homoffobia a bwlio homoffobaidd a herio tangyflawniad disgyblion LHD.

Targed allweddol: Gostyngiad o 50% mewn bwlio homoffobaidd mewn ysgolion erbyn 2011

4. Cyflogaeth

Gwneud y gweithle yn lle tecach i bobl LHD drwy ostwng y nifer o bobl LHD sy’n dioddef camwahaniaethu ac aflonyddu yn y gwaith yn sgil eu cyfeiriadedd rhywiol neu ragdybiaethau. 

Targed allweddol: Cynnydd o 25% yn y nifer o bobl LHD sy’n gysurus yn eu gweithle erbyn 2011

5.Cyfleoedd Bywyd Teg

Sicrhau mynediad teg at nwyddau a gwasanaethau yn y sector breifat a chyhoeddus drwy hyrwyddo triniaeth deg o bobl LHD. Yn arbennig, gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd, y sector dai a llywodraeth leol er mwyn sicrhau eu bod yn deall ac yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau nwyddau, adnoddau a gwasanaethau.

Targed allweddol: 100% o awdurdodau lleol, sector dai a byrddau iechyd Cymru i gynnwys cydraddoldeb LHD yn eu cynlluniau cydraddoldeb unigol. Hefyd i’r holl bolisïau eraill ystyried materion penodol ar gyfer staff a chwsmeriaid LHD.

6.Newid agweddau

Herio rhagfarn amlwg a pharhaus yn erbyn pobl LHD yn gyhoeddus a gweithio gyda mudiadau cyfryngau allweddol er mwyn hyrwyddo’r cyfraniad cadarnhaol mae pobl LHD yn ei wneud i fywyd yng Nghymru.

Targed allweddol: Gostyngiad o 50% yn lefel y camwahaniaethu a deimlir gan bobl LHD yng Nghymru yn sgil eu portread yng nghyfryngau Cymru (mesur yn erbyn Arolwg LHD Cymru Gyfan 2006) 

7. Diogelwch cymunedol

Gostwng troseddau casineb homoffobaidd a’u heffaith drwy weithio gyda phobl LHD (dioddefwyr troseddau casineb), yr heddlu, partneriaethau diogelwch cymunedol a Gwasanaeth Erlyn y Goron, i gynyddu lefelau cwynion, ymwybyddiaeth yr heddlu a’r nifer o achosion sy’n arwain at erlyniad.

Targed allweddol: Cynnydd mewn lefelau cwynion ym mhob un o bedwar ardal Heddlu Cymru yn arwain at fwy o erlyniadau.

 

 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth