Beth yw Cyngor Stonewall Cymru a beth yw ei waith?

Mae gan Gyngor Stonewall Cymru wyth aelod a chynrychiolydd gwirfoddolwyr.  Dewisir bob un drwy gyfweliad agored am eu sgiliau unigryw – yn cyfateb i feini prawf penodol – sy’n cefnogi aelodau staff Stonewall Cymru wrth gyflawni amcanion Stonewall Cymru.  Mae’r aelodau’n gyfrifol am arwain, monitro a chynorthwyo i gyflawni gweledigaeth a strategaeth Stonewall Cymru mewn cydweithrediad gyda staff a gwirfoddolwyr y mudiad yng Nghymru.

Mae’r Cyngor yn grŵp wedi’i seilio ar sgiliau sy’n gweithio dros gyfle cyfartal a thriniaeth deg ar gyfer pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol; drwy helpu i sicrhau fod Stonewall Cymru yn gweithio’n effeithiol. Mae’n gweithio dros y gymuned LHD ac nid yw’n honni cynrychioli na bod yn gynrychioladol o bobl LHD yng Nghymru.

Pwy all fod yn aelod Cyngor?

Mae aelodaeth o’r Cyngor yn agored i bob rhan o’r gymuned, beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol, ac rydym yn croesawu sgiliau a phrofiad unrhyw un yn y DU cyn belled ag y bo modd cyflawni eu swyddogaeth fel aelod Cyngor, sy’n cynnwys mynychu cyfarfodydd Cyngor yng Nghymru bedair gwaith y flwyddyn.

Beth yw gofynion bod yn aelod Cyngor?

Mae aelodau Cyngor unigol yn bartneriaid i aelodau tîm staff Stonewall Cymru sydd â’r gwaith o gyflawni’r cynllun gwaith sy’n sylfaen i’r strategaeth. Felly, er enghraifft, mae’r aelod Cyngor sydd â phrofiad a sgiliau addysg yn gweithio gyda’r Swyddog Addysg ac Ieuenctid i gyflawni’r gwaith.

Bydd y bartneriaeth hon yn cynnwys cyfarfodydd unigol, sgyrsiau ffôn neu ebost, ymuno gyda’r aelod staff mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol, darparu cysylltiadau, cynghori ar bolisïau a rhoi cymorth ymarferol fel sy’n briodol.

I ryddhau aelodau staff i wneud y defnydd gorau o’u hamser, mae aelodau’r Cyngor hefyd yn cynrychioli’r aelod staff unigol yn y cyfarfodydd Cyngor ac yn adrodd ar eu gwaith yn y maes.

A yw’n waith cyflogedig?

Nid yw aelodau’r Cyngor yn derbyn cyflog, ond ad-delir costau rhesymol sy’n codi yn sgil cyflawni eu gwaith, megis teithio i fynychu cyfarfodydd  Cyngor.

Felly pwy yw’r aelodau Cyngor a sut mae cysylltu gyda hwy?

Gareth Davies

Gareth Davies

Ymunodd Gareth Davies gyda Chyngor Stonewall Cymru ym mis Ebrill 2008. Mae'n gweithio dros wasanaeth pobl ifanc LHDT hynaf Cymru, Viva, yn Rhyl, gogledd Cymru, a bu yn y swydd honno ers dros bedair blynedd. Cyn hynny roedd yn aelod o'r grwp (pan oedd yn 'ifanc')!  Yn ei waith fel Gweithiwr Ieuenctid, mae'n cynnal grwpiau ieuenctid, cefnogaeth unigol, hyfforddiant mewn ysgolion, a gweithdai datblygiad proffesiynol ledled y rhanbarth. Mae ei swyddogaethau ar y cyngor yn cynnwys cefnogi swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru mewn amcanion perthnasol i bobl ifanc.

council gareth

John Sam Jones

Mae John Sam Jones wedi bod ar y Cyngor ers Ebrill 2009.  Mae’n dod o gefndir iechyd cyhoeddus ac addysg, ac mae wedi bod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth LHD ers y 1970au.  Ymysg ei swyddogaethau ar y cyngor mae arwain ar amcanion Stonewall Cymru o ran addysg.

council tim

Tim Heywood

Bu Tim Heywood yn aelod o’r Cyngor ers Ebrill 2008. Daw o gefndir rheolaeth yn y gwasanaeth iechyd, ac mae ganddo 25 mlynedd o brofiad o weithio fel uwch reolwr GIG y DU a thramor. Ymysg ei swyddogaethau ar y cyngor mae cefnogi amcanion Stonewall Cymru sy’n ymwneud â’r gweithle a chyflogaeth.

council lee

Lee Phillips

Bu Lee Phillips yn gweithio ledled Cymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae’n atebol i Gadeirydd Cyngor Stonewall Cymru a hefyd yn cynrychioli’r Cyngor ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Stonewall GB. Ar gyfer Stonewall Cymru, cyfrifoldeb Lee yw cynorthwyo Stonewall Cymru a’r Cyfarwyddydd yn arbennig, i gyflawni ei rhaglen bolisi sylfaenol, y cyfeiriad strategol cyffredinol, a chefnogi’r Cyfarwyddydd i ddylanwadu ar a chyflawni’r prif amcanion yng Nghymru.

Mike Smith

Mike Smith

Mike Smith yw’r aelod cyngor Stonewall Cymru sy’n bennaf gyfrifol am weithio gyda’r staff ar gyfathrebu allanol megis y cyfryngau, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau.
Mae wedi’i leoli yng Nghaerdydd, a hefyd yn aelod o Bwyllgor LHDT TUC Cymru a chyngor cyffredinol TUC Cymru. 
Mae’n ymgynghorydd marchnata a’r cyfryngau ac yn newyddiadurwr celfyddydau a theithio sy’n ysgrifennu ar gyfer amrywiol gyhoeddiadau, ac yn cynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Chystadleuaeth Cantorion Cymru ymysg ei gleientiaid.
Mae Mike yn aelod o Weithgor Cymru o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, ac yn cynrychioli gweithwyr rhyddgyfrannol yng Nghymru ar amrywiol bwyllgorau’r undeb. Mae hefyd yn Swyddog Addysg gyda’r Undeb ac yn hyfforddi rhyddgyfrannwyr sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol ym maes marchnata a marchnata electronig.
Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Mardi Gras Caerdydd, ac yn gyfrifol am waith marchnata a chyfryngau yr ŵyl. Mae hefyd yn rhaglennu ffrwd celfyddydau Gŵyl Mardi Gras Caerdydd.
Mae Mike yn byw gyda’i bartner sifil, Robin yng Nghaerdydd.

Carey Wood-Duffy

Mae Carey Wood-Duffy wedi gweithio ym maes cydraddoldeb a hawliau ar ddwy ochr yr Iwerydd, yn amrywio o fod yn ymarferwr rheng flaen i reolaeth weithredol yn y sector gyhoeddus a’r sector dielw. Ymysg prif feysydd profiad Carey mae:  gwir bolisi, clustnodi materion allweddol, a chreu atebion ystyriol.

Gellir cysylltu gyda Chyngor Stonewall Cymru ac yn uniongyrchol gydag aelodau unigol drwy ebost ar: Cyngor@stonewallcymru.org.uk.

Gellir cyfeirio ymholiadau ffôn neu post i’r Cyngor drwy swyddfeydd Stonewall Cymru, ac fe fyddant yn cael eu trosglwyddo i’r aelod(au) Cyngor perthnasol.

Sut mae dod yn aelod Cyngor?

Rydym hefyd ar hyn o bryd yn hysbysebu 2 swydd ddi-dâl ar Gyngor Stonewall Cymru, mewn diogelwch Cymunedol a Chodi Arian.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a phecyn cais.

Pan fydd swyddi ar Gyngor Stonewall Cymru ar gael, byddant yn cael eu hysbysebu ar adrannau ‘gweithio gyda ni’ a’r Cyngor ar ein Gwefan: www.stonewallcymru.org.uk 

  • Bydd disgrifiad swydd ar gael, yn nodi’r anghenion penodol.
  • Bydd pecynnau cais ar gael o’n gwefan neu swyddfeydd.
  • Bydd penodiad drwy gais a chyfweliad yn unig.
  • Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis yn sgil haeddiant.
  • Bydd hysbysebion am swyddi ar y Cyngor hefyd yn cael eu hanfon at gefnogwyr Stonewall Cymru. Os hoffech ymuno â bas data Stonewall Cymru am ddim, Cliciwch yma i lawr lwytho’n ffurflen cefnogwyr, gan ei dychwelyd at: eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk 

Sut mae dysgu mwy am Stonewall Cymru?

Cysylltwch â Stonewall Cymru drwy swyddfa gogledd Cymru neu dde Cymru, cliciwch yma am ein manylion cyswllt.

Cliciwch ar y cysylltiadau isod i ddysgu mwy am:
Blaenoriaethau strategol Stonewall Cymru
Gwirfoddoli gyda Stonewall Cymru
Ymuno gyda’n bas data cefnogwyr
E-fwletin Stonewall Cymru bob yn ail fis
Rhaglenni Gweithle
Gwaith Addysg
Diogelwch Cymunedol
Digwyddiadau rhanbarthol Dweud eich Dweud ledled Cymru


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth