Addysg I Bawb
  • Amdanon Ni
  • Adnoddau
  • Astudiaethau Achos
  • Newyddion
  • Cysylltiadau
Text Size


Chwilio

Amdanon ni

Mae Addysg i Bawb yn ymgyrch ar y cyd a ddatblygwyd gan Stonewall, FFLAG Cymru a Ieuenctid LHDT yr Alban.

Nod Addysg i Bawb yw sicrhau bod pob person lesbiaid, hoyw a deurywiol (LHD) yn gallu cyflawni eu potensial, a bod ysgolion a systemau addysg y DU yn gallu delio'n briodol â homoffobia a bwlio homoffobig. Rydym yn gweithio gyda chynghrair eang o fudiadau, gan gynnwys adrannau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, undebau, mudiadau gwirfoddol a chymunedol, plant a grwpiau LHD i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu trwy Brydain gyfan er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon.
Mae'r wefan hon yn dwyn ynghyd adnoddau ymarferol a gwybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym myd addysg a phobl ifanc, er mwyn eu cefnogi a'u galluogi i ganfod enghreifftiau o fwlio homoffobig a delio'n effeithiol ag ef.
Os carech chi gael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch neu fod yn rhan o'r gynghrair, anfonwch eich manylion at cymru@stonewallcymru.org.uk  neu ffôniwch 029 20 237744.
yn ôl i'r brig
Cyfrannu at addysg i bawb