Addysg I Bawb
  • Amdanon Ni
  • Adnoddau
  • Astudiaethau Achos
  • Newyddion
  • Cysylltiadau
Text Size

Astudiaeth achos 1 - mae Michael yn 16 ac yn byw yn Swydd Hertford

"Dywedais wrth ffrindiau yn yr ysgol fy mod yn hoyw tua blwyddyn a hanner yn ôl. Roedd yn rhywbeth rhyngof i a chriw bychan o ffrindiau da ond wrth gwrs roedd yr ysgol gyfan yn gwybod ar ôl ychydig ddyddiau. Roedd y trafferthion a gefais yn annioddefol, a dweud y lleiaf. Yn y diwedd cefais ddigon o blwc i drafod y peth gydag athro, ond ni wnaeth rhyw lawer yngŷln â'r peth.

"Er bod pennaeth fy mlwyddyn yn dangos cydymdeimlad, roedd fel pe bai'n meddwl nad oedd yr hyn oedd yn digwydd i mi'n ddim mwy nag ychydig o 'dynnu coes ar iard yr ysgol'. Rhoddais restr iddi o'r bobl a oedd yn achosi problemau i mi, ond roedd pethau'n llawer gwaeth ar ôl iddi gael gair â nhw.

"Pan ddechreuais fynd allan gyda fy nghariad aeth pethau o ddrwg i waeth, er nad oeddwn yn meddwl y byddai hynny wedi bod yn bosibl. Cawsom air gyda'r dirprwy bennaeth. Mi wnaethom ni awgrymu pethau iddo a allai wella'r sefyllfa, ond roedd hi'n amharod iawn i gymryd llawer o sylw o'n hawgrymiadau. 'Daliwch ati i roi enwau'r sawl sy'n eich bwlio i mi,' meddai, a dyna'r oll a wnaeth.

"Cefais fy anfon at gynghorydd yr ysgol i drafod 'fy mhroblemau'. Dechreuais ddioddef o insomnia difrifol, ac rwy'n dal i ddioddef ohono. Oherwydd hynny cefais fy nghyfeirio at seiciatrydd a rhoddodd hwnnw dabledi gwrth-iselder i mi.

"Nid oedd y bwlio mor ddifrifol ar ôl ychydig, ond nid yw wedi diflannu'n gyfan gwbl. Nid yw mor ddrwg ar y funud, ond mae'n codi eto o bryd i'w gilydd. Nid wyf yn cofio unrhyw ddiwrnod heb i mi glywed rhyw gyfeiriad at fy rhywioldeb, neu ryw sylwadau negyddol. Does gen i ddim syniad sut mae pob person ifanc yn y dref yn gwybod amdanaf.

"Mae pethau wedi bod yn haws i fy nghariad. Anaml iawn y mae'n gorfod dioddef sylwadau cas ac nid yw wedi dioddef trais corfforol o gwbl. Mae yn y chweched dosbarth erbyn hyn, ac nid yw'n dioddef fawr ddim erbyn hyn.

"Fues i ddim mor ffodus. Gan fy mod i flwyddyn academaidd ar ei ôl, mae fy mlwyddyn i'n llai aeddfed a heb dyfu'n iawn. Yr wyf hefyd wedi dioddef trais corfforol ddwywaith. Bu'n rhaid i mi fynd i'r ysbyty ar y ddau achlysur. Hysbyswyd yr heddlu bob tro ond ni wnaethpwyd llawer yn eu cylch.

"Mae hyn wedi gwneud i mi deimlo'n ofnadwy. Rwyf wedi hunan-niweidio ac rwyf wedi meddwl am hunanladdiad ar fwy nag un achlysur."

yn ôl i'r brig
Cyfrannu at addysg i bawb