"Penderfynais ddod allan pan oeddwn ym mlwyddyn wyth yn yr ysgol. Cymerodd dri mis i mi fagu digon o hyder i ddweud wrth neb gan fy mod wedi clywed am bobl yn cael eu bwlio, eu hanafu a hyd yn oed eu lladd oherwydd eu rhywioldeb ond roeddwn yn teimlo bod rhaid i mi fentro os oeddwn am gael byw bywyd normal.
"Dywedais wrth fy ffrind pennaf yn gyntaf a dywedodd hi ei bod yn amau eisoes ac nad oedd yn poeni dim arni hi. Roeddwn yn teimlo rhyddhad ar ôl cael dweud ac roeddwn yn meddwl y byddai pawb arall yn ymateb yn yr un ffordd.
"Ond roeddwn yn hollol anghywir. Roedd y criw a oedd agosaf ataf yn iawn; roeddent yn fy adnabod yn well na'r lleill, ac roeddent yn amau eisoes beth bynnag ond pan ddaeth pobl eraill yn yr ysgol i wybod roeddent yn ofnadwy o gas efo fi gan alw enwau arna i fel 'Muff diver, lesbo, rug muncher,' ac roeddent yn fygythiol pan oeddent yn gweiddi'r dweud pethau hyn ac roeddwn yn meddwl eu bod am fy nghuro oherwydd eu bod yn meddwl fy mod yn 'ffiaidd'.
"Roeddwn yn casáu'r cyfan a dechreuais golli'r ysgol gan gymryd arna'i fy mod yn sâl. Roeddwn yn difaru fy mod wedi penderfynu dod allan o gwbl ond ar ôl amser dechreuodd bethau dawelu eto tan i mi ddechrau perthynas gyda fy mhartner presennol ac wedyn dechreuodd yr un helyntion godi eto. Yr oeddwn yn dod allan o doiledau'r merched pan ddechreuodd grŵp a oedd wedi bod yn rhoi trafferthion i mi ers amser weiddi pethau arnaf. Yr oeddwn wedi cael llond bol ac wrth i mi droi atynt i ddweud wrthynt am adael llonydd i mi trodd un o'r merched a fy nharo yn fy wyneb.
"Yr oeddwn yn teimlo bod yr amser wedi dod nad oedd gen i ddewis ond dweud wrth yr athrawon, ond nid oedd yr ysgol yn barod i fynd at wraidd y broblem felly yr unig ddewis arall oedd gen i oedd rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn oedd yn digwydd. Mi rydw i'n dal i gael trafferth gyda phobl yn y dref ond mae fy nheulu â'r swyddogion cyswllt lesbiaid a hoyw y deuthum i gysylltiad â hwy ar ôl adrodd yr hyn oedd yn digwydd yn fy helpu i a fy mhartner i gael bywyd ychydig haws."