"Taith fy mab trwy'r system addysg: yn dair oed, ymunodd bachgen bach annwyl, parod ei wen â byd lle byddai'n cael ei wrthod gan lawer o'i gymheiriaid, a hynny i gyd oherwydd anwybodaeth.
"Cafodd Phillip ei fwlio am y tro cyntaf yn yr ysgol feithrin gyda'r plant eraill yn gweiddi 'merch' arno ac yn ei guro. Roedd y boen, y dryswch a'r dagrau a wylodd yn ddigon i dorri'ch calon. Dylwn ychwanegu fod Phillip rhyw flwyddyn yn dalach na phlant eraill, ac felly mae'n amlwg fod y plant eraill yn ei gymharu â merch ar sail ei addfwynder a dim byd arall. Aeth wedyn yn ei flaen i'r ysgol gynradd, lle byddai'n dal i gael ei alw'n ferch ac yn dioddef ymosodiadau corfforol. Mae Phillip yn cofio'r dyddiau hyn fel yr adeg pan sylweddolodd gyntaf pa mor gas y gallai pobl fod. Parhaodd Phillip i fod yn blentyn addfwyn a charedig, felly fel mam roedd y boen yr oedd yn ei dioddef yn ddirdynnol. Erbyn diwedd ei gyfnod yn yr ysgol gynradd gwyddwn fod fy mab yn wahanol, roeddwn wedi dechrau meddwl eisoes am ei rywioldeb.
"Ar ôl dim ond ychydig wythnosau yn yr ysgol uwchradd dechreuodd y sylwadau homoffobig gyda disgyblion eraill yn gweiddi 'queer' a 'merch' arno. Ymosodwyd yn gorfforol ar Phillip a chafodd lygad ddu. Yn sgil yr ymosodiad hwn, cafodd Phillip hefyd ei gadw ar ôl yr ysgol, ac yn waeth na hynny hyd yn oed, dywedodd athro'r dosbarth lle digwyddodd y peth wrtho mai dyna oedd 'uchafbwynt' ei ddiwrnod! Mae Phillip yn cofio Blwyddyn 8 fel un arbennig o ddrwg, gwaethygodd y galw enwau, ac roedd pobl yn dwyn ei eiddo'n rheolaidd. Mi wnes i'n si?r ei fod yn gwybod y gallai gerdded allan pe bai pethau'n mynd yn ormod iddo. Yn ystod y flwyddyn honno cafodd ddwrn yn ei lygad am wrthod cyffwrdd llun o fagina. Fel rhiant yr oeddwn yn poeni am ei les bob dydd. Ar ôl cwyno i'r ysgol, dywedais wrthynt y byddwn yn rhoi gwybod i'r heddlu pe bai rhywun yn ymosod arno eto.
"Erbyn Blwyddyn 9, roedd ganddo nifer o ffrindiau da ac roedd hynny'n gwneud pethau ychydig yn haws iddo. Wrth lwc, roedd rhai o'i ffrindiau hefyd yn hoyw. Roedd y ffrindiau hyn yn gefn iddo pan fyddai'r galw enwau'n dechrau eto. Parhaodd hyn tan ddiwedd Blwyddyn 10, ac yn ystod un o'r ymosodiadau geiriol arferol, gofynnodd un aelod o griw o fechgyn iddo, 'A wyt ti'n ff**in hoyw?' Atebodd Phillip "YDW". Roeddent wedi dychryn, gan ofyn 'go iawn?' ac wedyn 'mi wyt ti'n iawn a dweud y gwir'. Ynghyd ag ysmygu daeth yn hoff berson hoyw pawb; ac o'r diwedd cafodd lonydd gan ei gyd-ddisgyblion.
"Yn ystod y cyfnod hwn bûm yn ysgrifennu llythyrau i'r ysgol ynglŷn â lles fy mab. Cefais sicrwydd ganddynt y byddent yn gwneud eu gorau i helpu, ond ni wnaethpwyd unrhyw ymdrech i herio'r bygythiadau homoffobig. Yn groes i bob disgwyl bu Phillip yn gweithio'n galed iawn a llwyddodd i ennill graddau uchel mewn wyth pwnc yn ei arholiadau TGAU, ac mae'n awr yn fyfyriwr mewn coleg.