Addysg I Bawb
  • Amdanon Ni
  • Adnoddau
  • Astudiaethau Achos
  • Newyddion
  • Cysylltiadau
Text Size

Astudiaeth achos 3 - mae Tim yn awr 21 ac yn byw yn Swydd Gaerlyr

"Cefais fy mwlio am dros 5 mlynedd, ond roedd ar ei waethaf pan oeddwn i ym mlwyddyn 10 ac yn dechrau ar fy TGAU. Mewn ffordd cafodd fy rhywioldeb ei ddatgelu gan bobl eraill ac ar ôl hynny bu fy mywyd yn uffern ar y ddaear am fisoedd. Aeth pethau mor ddrwg nes i mi orfod dechrau cymryd tabledi gwrth-iselder a mynd i weld seiciatrydd. Ni soniais ddim am y broblem am amser hir (y ffaith fy mod yn cael fy mwlio am fod yn hoyw, nid 'cael fy mwlio' yn unig) a hyd heddiw rwyf yn dioddef pyliau o bryder difrifol a phroblemau hunan hyder tymor hir. Ers hynny rwyf wedi cael sawl sesiwn cynghori ac yn cael cyffuriau presgripsiwn gan y meddyg.

"Dechreuais ddioddef pyliau o banig noson ar ôl noson ac roeddwn yn arfer taro fy mhen yn erbyn wal mewn ymdrech i gael gwared arnynt. Byddwn yn crio fy hun i gysgu bob nos, ym mynd i gysgu'n sâl gyda phryder ac yna deffro'n y bore yn sâl gyda phryder. Collais lawer o bwysau. Ar y ffordd i'r ysgol yn y bore byddwn yn aml yn eistedd ar bont y rheilffordd ond nid oeddwn yn ddigon dewr i'w wneud.

"Dwi'n ei chael yn anodd i feddwl am y peth hyd yn oed erbyn hyn ac felly byddaf yn gwneud fy ngorau i beidio meddwl amdano ond mae'r pryder a'r pyliau o banig yn fy atgoffa amdano byth a hefyd. Hefyd cefais fy ngwrthod am swydd fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn ysgolion yn Ffrainc eleni gan fod 'hanes o bryder' yn fy nghofnodion meddygol. Mae hyd yn oed pethau bach fel boreau cynnar a nosweithiau Sul yn ddigon i fy ngwneud yn bryderus gan ei bod yn fy atgoffa bod y cysur o beidio cael fy mwlio dros y penwythnos wedi dod i ben.

"O safbwynt dull yr ysgol o ddelio â'r broblem, roeddent yn gefnogol ar y cychwyn ond cyn gynted ag y daeth yr athrawon i ddeall fy mod yn hoyw, daethant hwythau'n elynion i mi. Roedd yn ysgol Eglwys Loegr a dywedodd un athro hyd yn oed y gallwn gael 'fy ngwella' mewn Cadeirlan yn Ne America. Dywedwyd wrthyf yn aml mai fi oedd ar fai ac nad oedd dim y gellid ei wneud i fy helpu. Dywedwyd wrthyf nad oedd gan yr ysgol bolisi yn erbyn bwlio homoffobig ac y byddai'n rhaid i mi ei ddioddef.

"Roedd yr athrawon yn gadael i fyfyrwyr ddweud pethau - dywedodd un athrawes wrthyf fod posibilrwydd y byddai rhai o ddisgyblion ei blwyddyn hi'n rhoi cweir i mi ond nad oedd dim y gallai ei wneud am y peth gan mai fi oedd ar fai. Cymerodd yr ysgol arni nad oedd dim byd o'i le - fi oedd ar fai am bopeth. Gofynnwyd i fy rhieni fynd i'r ysgol oherwydd fy mod i'n amharu ar ddisgyblion ERAILL am fy mod mor isel fy ysbryd. Bu bron i fy rhieni fy nhynnu allan o'r ysgol. Cyn gynted ag y daeth yr athrawon i wybod fy mod yn hoyw, roedd fel swîts - euthum i weld un o'r rhai clên ar ôl y gwersi un diwrnod ond dywedodd na allai fy helpu o hynny ymlaen. Cyfeiriwyd at 'ddeddfwriaethau penodol'. Bûm yn crefu ar yr athrawes a gysylltodd â fy rhieni i beidio gwneud rhag iddynt ddod i wybod, ond dyna'n union a wnaeth hi yn y diwedd.

"Yn anffodus, fi oedd yr unig berson hoyw yn yr ysgol i 'ddod allan' a hynny mewn ysgol gyda 1400 o ddisgyblion. Roeddwn yn teimlo'n gwbl unig. Roedd y rhan fwyaf o bobl, o leiaf unwaith, wedi dweud rhywbeth neu boeri neu daflu rhywbeth ataf. Daeth yn beth cyffredin i gerdded i lawr y coridor gyda phawb yn gwahanu fel y Môr Coch o fy mlaen. Byddai pawb wedyn yn gweiddi 'Tinau yn erbyn y wal, mae Tîm yn dod'. Wrth gerdded y daith 2 funud o Ganolfan y Chweched Dosbarth i'r brif ysgol (aeth hyn ymlaen tan i mi adael yr ysgol yn 18 oed) byddai'n rhaid i mi baratoi fy hun ar gyfer yr holl griwiau o bobl a fyddai'n dweud ac yn gweiddi pethau cas.

"Digwyddodd hyn bob dydd am fisoedd, ni chefais un diwrnod mewn pum mlynedd heb i mi brofi rhyw fath o fwlio. Ni allaf ddechrau disgrifio sut yr oeddwn yn teimlo, mae'n amhosibl mynegi teimlad mor ofnadwy. Mae'n rhy anodd trafod y peth a dyna pam fy mod yn ceisio'i wthio i gefn fy meddwl. Mae gen i ofn y bydd effeithiau hyn gyda mi am weddill fy mywyd."

 

yn ôl i'r brig
Cyfrannu at addysg i bawb