Addysg I Bawb
  • Amdanon Ni
  • Adnoddau
  • Astudiaethau Achos
  • Newyddion
  • Cysylltiadau
Text Size

Astudiaeth achos 5 - Tony Green, athro

"Tan yn ddiweddar roeddwn yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd i fechgyn lle'r oeddwn yn Bennaeth yr Addysg Grefyddol. Yr oeddwn wedi bod yno am dair blynedd a hanner ar ôl rhoi'r gorau i ddysgu am gyfnod o ganlyniad i effeithiau homoffobia yn yr ystafell ddosbarth yn fy hen ysgol. Mae'n eironig ond bryd hynny cefais gefnogaeth lawn yr ysgol a chefais fy annog i herio'r myfyrwyr trwy ddod allan ar ôl cael addewid y byddai'r Uwch Reolwyr, y Penaethiaid Blwyddyn, y Llywodraethwyr ayb yn fy nghefnogi. Nid oeddwn yn teimlo'n ddigon hyderus i gytuno i wneud hyn. Y canlyniad: chwalfa nerfol a gorfod rhoi'r gorau i ddysgu oherwydd straen.

"Ffolineb neu beidio, penderfynais ddychwelyd i ddysgu yn 2001 gan dderbyn swydd yn yr ysgol fechgyn ym mis Ebrill y flwyddyn honno. Teimlwn fy mod wedi dychwelyd i ryw hen oes gan fy mod wedi canfod fy hun mewn sefydliad a oedd yn credu ei fod yn dal yn yr 1950au. Mae homoffobia'n rhemp ymhlith y myfyrwyr, ac nid yw'r staff yn gwneud fawr ddim i'w atal, ac mae rhai aelodau o'r Tîm Arwain wedi gwneud sylwadau homoffobig o fewn fy nghlyw. I dorri stori hir iawn a phoenus yn fyr, roeddwn unwaith eto'n gorfod dioddef llif diddiwedd o eiriau brwnt. Nid am fy mod yn amlwg yn hoyw mewn unrhyw ffordd - tydw i ddim - ond oherwydd fy mod wedi mentro amddiffyn pobl hoyw a herio homoffobia'n rheolaidd. Mae'r pwnc yn codi'n gyson mewn gwersi Addysg Grefyddol. Mae'n amlwg nad yw'r myfyrwyr wedi arfer gweld athro'n herio homoffobia, yn enwedig y dynion sy'n eu dysgu.

"Yr wyf wedi gadael yr ysgol bellach, ac wedi rhoi'r gorau i ddysgu am y tymor hir oherwydd straen. Mae'n werth nodi na chefais unrhyw gydnabyddiaeth na gair o ddiolch am y gwaith caled a wnes i geisio poblogeiddio pwnc sy'n atgas gan gymaint o'r myfyrwyr a denu nifer fawr i sefyll yr arholiad TGAU eleni. Ymddengys bod trefn reoli'r ysgol yn benderfynol o wneud i mi deimlo mor anghyfforddus â phosibl, ac nid oedd ganddynt y cwrteisi i fynegi eu dymuniadau gorau i mi am y dyfodol.
"Tra oeddwn yn cael fy nghyflogi yn yr ysgol bu'n rhaid i mi ymweld â Therapydd Galwedigaethol. Roedd y person a welais yn gegrwth wrth i mi adrodd yr hyn a oedd wedi digwydd i mi a'r diffyg cefnogaeth, cymorth a hyd yn oed gydnabyddiaeth a dderbyniodd fy mhroblemau gan y Pennaeth Dros Dro a'r Tîm Arwain. Er hynny, roedd y cwestiynau yr oedd yr ysgol wedi gofyn i'r Therapydd Galwedigaethol eu gofyn ar ei rhan yn cynnwys: Pam fy mod yn absennol oherwydd salwch? A sut all yr ysgol fy helpu? Mae'r peth yn anhygoel!! Dywedodd datganiad gan yr ysgol fy mod wedi methu â chydweithredu yn yr ysgol!! Ym mha ffordd? A oeddwn i wedi methu â chydymffurfio â hwy wrth iddynt fynd ati'n systematig i ddinistrio fy hunan hyder, hunan barch, hapusrwydd a fy ngallu i gyflawni unrhyw beth? Mae'n ymddangos eu bod wedi llwyddo i gyflawni'r holl bethau hyn heb i mi orfod gwneud dim i'w helpu.
"Mae fy undeb bellach wedi ymuno yn y ddadl. Er gwaethaf deddfwriaeth newydd roeddwn yn amau a oedd llawer y gellid ei wneud oherwydd yr amser a gymerai i fynd â'r mater trwy'r system gyfreithiol. Ond yr oeddwn wedi cael digon. Yr wyf wedi rhoi'r gorau i ddysgu am byth ac rwyf yn dechrau ar yrfa newydd fel newyddiadurwr (mae gennyf Ddiploma mewn Newyddiaduraeth a pheth profiad o weithio'n llawrydd, gweler www.thedialog.co.uk) Yr wyf yn fodlon gwneud beth bynnag sydd raid yn hyn o beth i gael rhyw fath o gyfiawnder ac i weld y gwir yn cael ei ddatgelu, er fy mwyn i, er mwyn myfyrwyr sy'n hoyw ac yn wir er mwyn fy nghydweithwyr hoyw - boed hwy wedi dod allan ai peidio.
"Mae'n fy ngwylltio i glywed pobl yn honni bod gennym gydraddoldeb hoyw neu ei fod ar y ffordd. Y tu hwnt i Soho nid wyf yn gweld llawer o bobl hoyw'n cael eu derbyn, ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau nac oedolion. Ond yr wyf yn wydn. Er nad oes gen i awydd parhau gyda fy mrwydr yn yr ystafell ddosbarth, yr wyf yn barod i frwydro ac yn dymuno uno gyda phwy bynnag sydd am frwydro yn erbyn melltith homoffobia - yn enwedig fel y mae'n cael ei amlygu'n ein system addysg, Gallwn ennill y frwydr  hon ac, rwy'n siŵr y byddwn yn fuddugol yn y diwedd!"
yn ôl i'r brig
Cyfrannu at addysg i bawb