Mae Addysg i bawb yn alwad ar bobl I weithredu...
Mae bwlio homoffobig yn achosi niwed parhaol i bobl ifanc ac mae'n difetha'r ysgolion a'r colegau lle mae'n digwydd. Mae gwneud i bob person ifanc deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a'u gwerthfawrogi - beth bynnag y bo eu rhywioldeb - yn gyfle pwysig i'r system addysg weddnewid bywydau nifer sylweddol o ddisgyblion a myfyrwyr.
Yng Nghymru, mae'r cyfrifoldeb dros addysg wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol: gan roi cyfle unigryw i ni sicrhau newid go iawn ym mywydau disgyblion, myfyrwyr ac athrawon yng Nghymru.
Gall bwlio homoffobig neu heterorywiol effeithio ar bob plentyn ysgol ac, yn wir, ar athrawon, rhieni a llywodraethwyr. Gall plant gael eu bwlio boed hwy wedi cadarnhau eu bod yn bobl lesbiaid, hoyw neu ddeurywiol (LHD), yn holi eu rhywioldeb neu am fod rhywun yn meddwl y gallen nhw fod yn LHD.
Mae disgyblion strêt sy'n cael eu bwlio am fod rhywun yn meddwl eu bod nhw'n LHD yn aml yn cael eu 'bwlio' i bigo ar fyfyrwyr LHD er mwyn 'profi' eu bod hwy eu hunain yn strêt. Mae'r bwlio homoffobig a heterorywiol hwn yn effeithio ar ddiwylliant yr ysgol gyfan yn ogystal ag ar y ffordd y mae pob un ohonom yn datblygu fel dinasyddion aeddfed
.