Addysg I Bawb
  • Amdanon Ni
  • Adnoddau
  • Astudiaethau Achos
  • Newyddion
  • Cysylltiadau
Text Size

Pobl hoyw yn ofni camwahaniaethu ym myd addysg, yn ôl arolwg newydd sylweddol

Canfu arolwg sylweddol gan YouGov o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, a gomisiynwyd gan Stonewall, bod pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn disgwyl cael eu trin yn annheg wrth ddefnyddio'r byd addysg eu hunain, neu gyda'u plant.

Holwyd sampl o 1,658 gan YouGov, yn yr arolwg cenedlaethol ystadegol sylweddol cyntaf i gael ei gynnal i brofiadau bywyd 3.6 miliwn o bobl hoyw Prydain. Mae'r arolwg, a gyhoeddwyd mewn adroddiad newydd, Serves you Right, yn edrych ar brofiadau a disgwyliadau am gamwahaniaethu o ran gwaith, addysg, gwleidyddiaeth, trosedd a'r system cyfiawnder troseddol, tai a gofal iechyd.

Wrth holi am eu profiadau a'u disgwyliadau eu hunain o ran addysg, dengys y canfyddiadau bod:

  • 89% o bobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru yn disgwyl dioddef camwahaniaethu pe byddent yn ymgeisio i fod yn llywodraethwr ysgol
  • 3 mewn 10 o bobl lesbiaidd a hoyw ledled Prydain yn disgwyl cael eu trin yn waeth na phobl heterorywiol pe byddent yn cofrestru eu plant mewn ysgol gynradd neu uwchradd
  • Pobl iau (18-24 oed) yn fwy tebygol o ddisgwyl triniaeth lai ffafriol o ganlyniad i fod yn hoyw
"Mae bwlio homoffobaidd yn parhau i fod yn gyffredin mewn ysgolion, felly nid yw'n syndod bod cymaint o bobl lesbiaidd a hoyw yn teimlo nad yw'r system yn eu croesawu," meddai Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stonewall Cymru.
"Rhaid i Lywodraethwyr Cymru, ysgolion ac awdurdodau lleol ymgysylltu mwy gyda'r gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol, er mwyn cydnabod y sgiliau a'r profiad unigryw sydd ganddynt i'w gynnig i'r swydd, ac annog mwy o bobl o gefndiroedd amrywiol i ddod yn llywodraethwyr ysgol.
"Mae rhan hanfodol gan Lywodraethwyr Ysgol wrth ddatblygu ethos ysgol, ac mae'n siomedig bod cymaint o bobl hoyw yng Nghymru yn amharod i ymgeisio am swydd llywodraethwr ysgol. Yn aml, mae gan bobl hoyw sgiliau pwysig a fedrai gynorthwyo ysgolion i ddatblygu diwylliant dysgu mwy cynhwysol ac ystyriol. Mae llywodraethwyr ysgol hoyw yn deall eu hunain beth yw'r materion sy'n codi wrth 'ddod allan' a bod yn hoyw mewn ysgolion, ac mae modd iddynt helpu ysgolion i ddatblygu polisïau sy'n taclo bwlio homoffobaidd a chymryd camau i sicrhau bod pobl lesbiaidd a hoyw yn cael eu croesawu a'u cynnwys ym mhob agwedd o fywyd ysgol."
Serch hynny, mae camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i daclo agweddau gwrth-hoyw yn y byd addysg yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yna ariannu DVD hyfforddiant dwyieithog Stonewall Cymru, sydd yn ceisio cynorthwyo athrawon i ddeall a thaclo homoffobia a bwlio homoffobaidd. Mae'r adnodd DVD yn rhan o ymgyrch Addysg i Bawb Stonewall Cymru, a bydd yn cael ei anfon at bob ysgol uwchradd yng Nghymru yn ddiweddarach eleni.
Mae'r Cynulliad hefyd yn cynhyrchu arweiniad clir i gynorthwyo ysgolion i ddatblygu ffyrdd o herio bwlio homoffobaidd a chreu awyrgylch cynhwysol.
Ychwanegodd Matthew Batten, "Rydym yn falch iawn bod y Cynulliad yn arddangos eu hymrwymiad at daclo bwlio homoffobaidd drwy gyhoeddi arweiniad i'r holl ysgolion ac ariannu'r adnodd hwn, yr oedd yn ddirfawr ei angen. Bydd hyn yn werthfawr iawn i athrawon sydd am wneud eu hysgol yn amgylchedd diogel ac ystyriol i bawb."
Back to top
Donate to Education for All