Beth i gadw llygad allan amdano ym maniffestos etholiadol y pleidiau | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Welsh Parliament building - Senedd

Beth i gadw llygad allan amdano ym maniffestos etholiadol y pleidiau

Yfory (6ed Mai) yw diwrnod yr etholiad! Mae pob un o'r prif bleidiau gwleidyddol bellach wedi cyhoeddi eu maniffestos, sy'n dweud wrthym beth y maent am eu gwneud os cânt gyfle i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru.

Rydym wedi tynnu sylw at yr adrannau perthnasol ym mhob un o faniffestos y prif bleidiau isod. Edrychwch ar bolisïau'r pleidiau a dweud eich dweud yn etholiad y Senedd. Rydym wedi ysgrifennu ein maniffesto ein hunain, sy'n amlygu'r hyn y credwn y dylai bleidiau ymrwymo iddo er mwyn gwella bywydau pobl LHDT+.

Beth bynnag yw eich blaenoriaethau – gwasanaethau iechyd fwy cynhwysol, sefydlu Gwasanaeth Rhywedd Cymru i blant a phobl ifanc, neu gymryd camau i fynd i'r afael â throseddau casineb – mae'r maniffesto hwn yn amlinellu llawer o'r ffyrdd y mae angen i ni symud ymlaen i wireddu cydraddoldeb LHDT+. Mae hwn yn ffordd bwerus o gadw cydraddoldeb LHDT+ ar yr agenda wleidyddol.

Darganfyddwch pwy yw eich ymgeiswyr lleol a gofynnwch iddyn nhw ble maen nhw'n sefyll ar gydraddoldeb LHDT+. Rhannwch yr hyn sy'n bwysig i chi yn yr etholiad hwn gan ddefnyddio'r hashnod #DewchAllaniBleidleisio

Llafur Cymru

Darllenwch faniffesto Llafur Cymru yn Saesneg yma a Chymraeg yma. Dewch o hyd i'w haddewid cydraddoldeb yma.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae maniffesto Llafur Cymru yn addo datblygu Cynllun Gweithredu HIV i Gymru yn ogystal â buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Plant a phobl ifanc

Mae maniffesto Llafur Cymru yn ymrwymo i ddarparu addysg LHDT+ gynhwysol fel yr amlinellir yn Neddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a basiwyd yn y Senedd ddiwethaf.

Diogelu ac ymestyn hawliau LHDT+

Mae Llafur Cymru yn addo defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd o therapi trosi. Maent hefyd yn addo datganoli'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi’r gymuned draws yng Nghymru. Mae Llafur Cymru hefyd yn addo gweithredu Cynllun Gweithredu LHDT+ cynhwysfawr. Yn olaf, mae maniffesto Llafur Cymru yn datgan y bydd y blaid yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu gwasanaeth cyfreithiol cydraddoldeb a fydd yn rhoi cymorth ar arferion cyflogaeth annheg neu wahaniaethol yn seiliedig ar nifer o nodweddion gwarchodedig.

Trosedd casineb a chydlyniant cymunedol

Mae Llafur Cymru yn addo gweithio gyda sefydliadau cyfryngau cymdeithasol i fynd i'r afael â throseddau casineb, camwybodaeth a bwlio.

Ceidwadwyr Cymreig

Darllenwch faniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig yn Saesneg yma a Chymraeg yma. Dewch o hyd i'r fersiwn hygyrch o'u maniffesto yma

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo cyflwyno Deddf Iechyd Meddwl newydd.

Plant a phobl ifanc

Nid yw maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud unrhyw argymhellion penodol ar gyfer pobl LHDT yn y maes hwn.

Diogelu ac ymestyn hawliau LHDT+

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo ymgysylltu â rhanddeiliaid LHDT i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac anoddefgarwch ac i wahardd therapi trosi yng Nghymru.

Trosedd casineb a chydlyniant cymunedol

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn datgan, os cânt eu hethol, y byddant yn mabwysiadu diwylliant dim-goddefgarwch ar draws Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad oes gwahaniaethu ar sail rhyw, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, iaith neu anabledd.

Plaid Cymru

Darllenwch faniffesto Plaid Cymru yn Gymraeg yma a fersiwn hygyrch yma. Dewch o hyd i argymhellion penodol LHDT+ yn Gymraeg yma ac yn Saesneg yma.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Bydd Plaid Cymru yn ceisio gwella darpariaeth Gwasanaeth Rhywedd Cymru a sicrhau bod mynediad amserol i'w gwasanaethau a'i chefnogaeth. Maent hefyd yn nodi’r nod o roi terfyn ar drosglwyddo HIV yng Nghymru erbyn 2026.

Plant a phobl ifanc

Byddai Plaid Cymru yn ei wneud yn ofynnol i ysgolion gadw cofrestr o ddigwyddiadau bwlio sy'n gysylltiedig â rhywioldeb a gweithredu lle bo angen, a chynnwys myfyrwyr mewn mentrau gwrth-fwlio. Maent hefyd yn addo sicrhau y bydd addysg perthnasoedd a rhywioldeb yng nghwricwlwm newydd Cymru yn cynnwys profiadau pobl LHDT gan gynnwys pobl draws, pobl anneuaidd a phobl anrywiol.

Diogelu ac ymestyn hawliau LHDT+

Mae Plaid Cymru yn cefnogi diwygio'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd ac yn addo cyflwyno proses symlach, ddad-feddygol yn seiliedig ar hunan-ddatganiad, yn unol ag arfer gorau rhyngwladol.

Mae Plaid Cymru yn addo ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant LHDT+ ledled cymdeithas, gan gynnwys ym mhob gweithle.

Trosedd casineb a chydlyniant cymunedol

Dywed Plaid Cymru y byddant yn parhau i frwydro dros gydraddoldeb i bobl draws a byddant yn edrych i hyrwyddo cyfranogiad LHDT+ mewn chwaraeon.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Darllenwch faniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Saesneg yma, yn Gymraeg yma a fersiwn hygyrch yma.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn datgan y byddant yn ceisio datblygu ymgynghoriadau telefeddygaeth ac anghysbell, gan gynnwys yn benodol ar gyfer Gwasanaeth Rhywedd Cymru. Yn olaf, mae'r maniffesto'n tynnu sylw at eu hymrwymiad i roi terfyn ar drosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030 a chefnogi sefydlu rhwydweithiau Fast Track City.

Plant a phobl ifanc

Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gweithredu i ddiogelu'r tybiaeth o gymhwysedd Gillick, sy'n caniatáu i bobl ifanc gael mynediad at wasanaethau iechyd heb ganiatâd rhieni, yn enwedig o ran erthyliad ac ailbennu rhywedd.

Diogelu ac ymestyn hawliau LHDT+

Dywed maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y byddant yn cefnogi pob ymdrech i gydnabod yn llawn pob hunaniaeth rhywedd, a’u diogelu’n llawn rhag gwahaniaethu o dan y gyfraith, gan barhau i weithio tuag at ddiwygio tystysgrifau cydnabod rhywedd.

Trosedd casineb a chydlyniant cymunedol

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn addo cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasnaethau dioddefwyr troseddau casineb, gan gynnwys y rhai sy'n caniatáu adroddiadau trydydd parti.

Plaid Werdd Cymru

Darllenwch faniffesto Plaid Werdd Cymru yn Saesneg yma ac yn Gymraeg yma.  

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Plaid Werdd Cymru yn addo cynyddu'r cyllid ar gyfer ardaloedd o'r GIG y mae pobl LHDT+ yn dibynnu'n drwm arnynt.

Plant a phobl ifanc

Dywed faniffesto Plaid Werdd Cymru y byddant yn edrych i hyfforddi staff ysgolion i sylwi ar aflonyddu rhywiol a bwlio a'u hatal, gydag hyfforddiant penodol ar adnabod homoffobia a thrawsffobia.

Diogelu ac ymestyn hawliau LHDT+

Mae maniffesto Plaid Werdd Cymru yn amlygu'n fras y byddant yn cydnabod ac yn ymateb i anghenion grwpiau difreintiedig ac ymylol.

Trosedd casineb a chydlyniant cymunedol

Nid yw maniffesto Plaid Werdd Cymru yn gwneud unrhyw argymhellion penodol ar gyfer pobl LHDT yn y maes hwn.