Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd 2020: 'Aros yn weladwy wrth aros yn y tŷ' | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd 2020: 'Aros yn weladwy wrth aros yn y tŷ'

Rhybudd cynnwys: homoffobia, troseddau casineb.

Rai blynyddoedd yn ôl, roedd fy ngwraig a minnau'n darged mewn cynllun gan gymydog i gyflawni ymosodiad homoffobaidd a gafodd ei rwystro. Oherwydd gwahanol amgylchiadau, bu'n rhaid i ni hunanynysu am dair wythnos wrth i'r heddlu ac eraill gynnal ymchwiliad.

Ro'n i wedi dod allan ers blynyddoedd lawer, ac yn ystod y cyfnod yna ro'n i wedi bod ar daith hir gyda fy hunaniaeth lesbiaidd, sydd wedi cynnwys amharodrwydd, cywilydd, chwilfrydedd, balchder, hyder a derbyniad (a ddim yn y drefn honno o reidrwydd!). Erbyn y digwyddiad yma, ro'n i wedi setlo i le braf o hunan-dderbyn a pharodrwydd i fod yn weladwy. Ro'n i mewn priodas hapus, yn gynrychiolydd rhwydwaith LHDT yn y gwaith, ac wedi siarad am fy hunaniaeth lesbiaidd sawl tro yn y cyfryngau.

Ond oherwydd y digwyddiad yma, des i lawer yn rhy ymwybodol o fy hunaniaeth mewn ffordd arall – bu i fy ngwelededd fel lesbiad bron ag arwain at niwed corfforol. Cafodd fy mherchnogaeth dros fy hunaniaeth, a'r gwelededd o gwmpas hynny, eu cymryd oddi arna i – doedd gen i ddim rheolaeth dros sut roedd pobl, hyd yn oed y rhai oedd yn fy helpu i, yn fy ngweld. Do'n i ddim eisiau cael fy ystyried fel y 'Lesbiad wnaeth Osgoi Trosedd Casineb'. Ro'n i am fynd yn ôl i fod yn fodel rôl Rhwydwaith LHDT fy swyddfa, yn fenyw a fyddai'n falch o wisgo'i chrys #LwiththeT mewn digwyddiad Balchder, ac yn hyfforddwr chwaraeon a oedd yn gwisgo'r Lasys Enfys gan greu gofod diogel i chwaraewyr ifanc ddod allan. Ond doedd hi ddim yn ddiogel gwneud hynny bellach.

Gan wynebu sefyllfaoedd newydd, sylweddolodd fy ngwraig a fi taw'r ffordd orau o adennill y berchnogaeth yma – o fod yn ddiogel, yn y foment honno, yn y ffordd orau bosib – oedd cefnogi ein gilydd. Drwy'r weithred o garu'n gilydd, roedden ni'n weladwy; hyd yn oed os mai i'n gilydd yn unig oedd hynny. Hyd yn oed os taw hi oedd yr unig un a fyddai'n fy ngweld i'n coginio swper, yn dod o hyd i raglenni newydd ar Netflix, yn rhoi trefn ar waith papur, ac yn bod yn fi fy hunan, roedd yn dal i gael effaith.

Sylweddolais i rywbeth pwysig yn y cyfnod yna, rhywbeth sydd wedi fy helpu i'n fawr yn ystod yr wythnosau diwetha' yma: mae bod yn weladwy yn amrywio. Does dim angen cael proffil cyhoeddus neu neges fawr ar y cyfryngau cymdeithasol i fod yn weladwy. Weithiau, mewn rhai adegau hanfodol, mae bod yn weladwy yn golygu bodoli. Mae bodoli yn eich gwneud chi'n weladwy – ac mae'r gwelededd hwnnw'n werth ei ddathlu.

Beth bynnag ei ffurf, gall gwelededd cadarnhaol gynnig manteision sylweddol. Mae bod â modelau rôl gweladwy mewn meysydd proffesiynol, adloniant, chwaraeon a gwleidyddiaeth, yn rhoi rhywbeth i ni sy'n werth anelu ato. Mae gwybod bod pobl eraill wedi goroesi'r anawsterau rydych chi'n eu hwynebu yn gallu'ch grymuso. Ac mae cael eich dathlu oherwydd pwy ydych chi yn deimlad anhygoel. Ond dim ond os oes diogelwch y gallwch chi brofi'r manteision yma. Dyna pam fod Diwrnod Gwelededd Lesbiaidd mor bwysig eleni: er ein bod ni eisiau profi manteision bod yn weladwy fel cymuned, mae'n rhaid i ni fod yn ddiogel wrth wneud hynny.

Wrth i'r byd frwydro yn erbyn Covid-19 ac addasu i'r heriau y mae'n eu cyflwyno, mae'r ffyrdd traddodiadol o fod yn weladwy yn amhosib i lawer ohonon ni. Mae digwyddiadau Balchder a digwyddiadau cymunedol eraill wedi'u canslo. Does dim modd i glybiau chwaraeon neu grwpiau theatr – a fyddai fel arfer yn cynnig cyfeillgarwch a gofod diogel i ni – gwrdd wyneb yn wyneb. Mae dosbarthiadau prifysgol yn cael eu canslo, gan gymryd gofodau byw diogel oddi wrth bobl LHDT. Mae llawer o bobl LHDT yn ynysu mewn tai lle mae'n anniogel iddyn nhw fod yn nhw eu hunain.

Mae bod yn weladwy yn golygu rhywbeth gwahanol yn y cyfnod yma. Mae bod yn weladwy yn gallu golygu ysgrifennu blog. Gallai hefyd olygu darllen erthygl ac ystyried yr hyn mae'n ei ddweud – ond does dim rhaid iddo olygu ei rhannu. Mae bod yn weladwy yn gallu golygu cysylltu â ffrindiau. Mae bod yn weladwy yn gallu golygu cysylltu â grwpiau LHDT, ymuno â gweminar, cymryd rhan mewn gofodau ar-lein, neu ddefnyddio cymorth. Gallai olygu arwain grwpiau trafod, gwirfoddoli yn eich cymuned, neu roi arian. Gallai olygu gofalu amdanoch chi eich hunan. Mae bod yn weladwy yn gallu golygu llawer o bethau. Beth bynnag mae'n ei olygu i chi, mae eich gwelededd, eich balchder, a'ch hunaniaeth yn dal i fod yn ddilys.

Noder bod yr awdur wedi gofyn i gael aros yn ddi-enw.

Mae cymunedau LHDT ledled y wlad yn dod at ei gilydd i ddangos undod, cefnogaeth ac i ddarparu gwasanaethau sy'n achub bywydau. Dyma sut gallan nhw eich helpu chi – a sut gallwn ni helpu ein gilydd. Os gallwch chi, rhowch gyfraniad i Stonewall er mwyn i ni allu parhau â'n gwaith hanfodol.