Stonewall Cymru yn croesawu’r ddadl drawsbleidiol ar droseddau casineb wrth-LHDT | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Stonewall Cymru yn croesawu’r ddadl drawsbleidiol ar droseddau casineb wrth-LHDT

'Rydym yn falch o weld dadl drawsbleidiol ar fynd i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru yn digwydd yn y Senedd heddiw. Mae'n bwysig bod y cynnydd mewn troseddau casineb gwrth-LHDT yn derbyn sylw ar fyrder. Tu ôl i'r adroddiadau diweddar sy'n dangos cynnydd mewn troseddau casineb gwrth-LHDT mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws; pobl sy'n parhau i wynebu casineb ar sail eu hunaniaeth.

'Mae bron i un ymhob pedwar o bobl LHDT (23 y cant) wedi profi digwyddiad neu drosedd casineb ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf, fe ddylai hyn fod yn alwad i bawb weithredu.  Er ein bod yn cydnabod bod hyder dioddefwyr i adrodd yn cynyddu, rydym yn ofni mai rhan o’r darlun o droseddau casineb wrth-LHDT yn unig gaiff ei adlewyrchu yn yr ystadegau yma. O'n hadroddiad LHDT yng Nghymru: Troseddau Casineb a Gwahaniaethu, gwyddwn fod tan gofnodi yn parhau i fod yn broblem gyda saith o bob deg o droseddau a digwyddiadau casineb gwrth-LHDT ddim yn cael ei adrodd, mae pobl ifanc yn hyd yn oed llai tebygol o fynd at yr heddlu. Mae Stonewall Cymru yn annog unrhyw un sydd wedi profi trosedd casineb i’w hadrodd. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau a gwasanaethau'r heddlu i helpu pobl LHDT i deimlo'n fwy hyderus i wneud hynny.

'Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wneud ein cymdeithas yn fwy croesawgar. Yn awr yn fwy nag erioed, mae'n bryd i bawb sy'n poeni am gydraddoldeb sefyll gyda'i gilydd fel un gymuned unedig i sicrhau bod pawb yn rhydd i fod yn hwy eu hunain. '