Beth mae’r cyflogwyr gorau yn gwneud
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Two white people and a person of colour sit at a table in a booth talking

Beth mae’r cyflogwyr gorau yn gwneud

Mae sefydliadau sy'n ymuno â'r Mynegai yn manylu ar eu harferion LHDT ar draws deg maes. Isod mae casgliad o'r arferion gorau o bob un o'r meysydd yma.

1. Polisïau a buddion

Grŵp Prifysgol De Cymru

Mae gan Grŵp Prifysgol De Cymru bolisïau cadarn ar waith i gefnogi gweithwyr sy'n trawsnewid. Maen nhw'n cynnig gwybodaeth glir a thrylwyr i staff, sy'n hygyrch ac ar ffurf cwestiynau ac atebion ar eu mewnrwyd. Mae'r cwestiynau ac atebion yn cynnwys manylion fel pwy gallan nhw gysylltu â nhw i gael cefnogaeth, gan gynnwys yn yr adran Adnoddau Dynol, y rhwydwaith LHDT+ a sefydliadau allanol.

Maen nhw hefyd yn cynnig rhestr wirio gynhwysfawr ar gyfer yr adran Adnoddau Dynol a'r rheolwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi aelodau o staff sy'n trawsnewid mewn modd digonol. Mae camau'n cynnwys newid cardiau adnabod, cofnodion neu ddogfennau yn ôl yr angen; trafod sut hoffai'r aelod o staff i'w cydweithwyr gael gwybod; sut i gadw preifatrwydd a chyfrinachedd; a llawer mwy.

Mae Prifysgol De Cymru hefyd wedi sicrhau bod eu polisïau yn llwyr gynhwysol ar gyfer yr holl staff LHDT, gyda iaith niwtral o ran rhywedd a datganiadau penodol am gynhwysiant ar draws yr holl ddogfennau.

2. Cylchred bywyd y cyflogai

Cyngor Dinas Newcastle

Mae Cyflogwr y Flwyddyn, sef Cyngor Dinas Newcastle, wedi gweithio i sicrhau bod eu harferion yn LHDT-gynhwysol i'r holl staff, ar bob cam o'u cyflogaeth. Maen nhw wedi gwneud gwaith arbennig o dda ar recriwtio, gan gynnal digwyddiad ar gyfer IDAHoBiT a oedd yn rhoi cyfle i'r gymuned gysylltu â chyflogwyr LHDT-gynhwysol. Yn y digwyddiad, roedd cyd-gadeiryddion eu grŵp staff LHDT a'r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn bresennol i siarad â phobl LHDT ynglŷn â gweithio i Gyngor Dinas Newcastle.

Maen nhw hefyd wedi defnyddio digwyddiadau cymunedol LHDT, fel digwyddiadau Pride, er mwyn cyrraedd pobl ddawnus LHDT a'u hannog i wneud ceisiadau am swyddi yn y cyngor. Yn olaf, mae ganddyn nhw raglen hyfforddi drylwyr sy'n orfodol ar gyfer rheolwyr sydd â chyfrifoldebau recriwtio. Mae'r rhaglen yn cynnwys rhannau ar recriwtio LHDT, er mwyn helpu rheolwyr i ddeall y rhwystrau y mae pobl LHDT sy'n chwilio am swydd yn eu profi, a sut i arfer gwaith recriwtio cynhwysol a theg.

3. Grŵp rhwydwaith gweithwyr LHDT

Citi

Mae Citi Pride, un o'r Rhwydweithiau sydd wedi cael Canmoliaeth Uchel gennym, wedi cynnal ystod amrywiol a chreadigol o weithgareddau. Maen nhw wedi trefnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth fel Bi 101 a Trans 101, gyda chynnwys wedi'i deilwra ar gyfer eu timau lletygarwch a derbynfa, wedi'i

ddylunio i'w cefnogi i ddarparu gwasanaethau cynhwysol i westeion a chleientiaid. Maen nhw hefyd wedi gweithio'n agos gyda sefydliadau lleol yng Ngogledd Iwerddon, fel The Rainbow Project a Love Equality, er mwyn dod â gwleidyddion ac eiriolwyr lleol at ei gilydd i gefnogi priodasau o'r un rhyw.

Maen nhw wedi gweithio gyda grwpiau rhwydwaith eraill, yn fewnol ac yn allanol, i guradu ystod o ddigwyddiadau eithriadol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r Rhwydwaith Menywod Hoyw a gyda Rhwydwaith Menywod mewnol Citi ar ddigwyddiad panel rhagorol am brofiadau menywod LHDT+ a phobl anneuaidd yn y gweithle.

Bu iddynt hefyd gynnal gweithdy dawnsio vogue llwyddiannus yn ystod wythnos Ymwybyddiaeth Traws er mwyn codi arian i grŵp cymunedol traws. Cododd hyn arian hollbwysig i'r elusen, ynghyd ag addysgu'r staff am gyfnod pwysig yn hanes a diwylliant LHDT.

Os ydych chi'n ystyried cynnal gweithgaredd tebyg i bwysleisio hanes dawnsio vogue – a esblygodd o ddiwylliant dawnsfeydd Latinx ac Affricanaidd-Americanaidd – gellir ei gynnal ochr yn ochr â dangos rhaglen berthnasol, fel Paris is Burning neu bennod gyntaf Pose. Rydyn ni hefyd yn argymell rhoi unrhyw arian a godir i elusen sy'n cefnogi pobl groenliw draws yn benodol.

4. Cynghreiriaid a modelau rôl

Allen & Overy LLP

Mae Allen & Overy wedi bod yn llwyddiannus yn eu gwaith yn annog cyflogeion i amlygu eu hunain fel cynghreiriaid, gyda mwy na 700 o gynghreiriaid wedi'u cofrestru ledled y byd. Gall cynghreiriaid ddangos yn glir eu bod yn cefnogi cydweithwyr LHDT drwy lofnodi'r 'Waliau Cynghreiriaid' yn swyddfeydd Llundain a Belffast, ynghyd â drwy ddefnyddio'r cwpan enfys a'r laniard enfys a ddarparwyd iddyn nhw gan y cwmni.

Mae Allen & Overy yn darparu canllawiau ysgrifenedig a hyfforddiant sydd ar gael i'r holl staff ar rôl cynghreiriad, gan gynnwys hyfforddiant penodol i gynghreiriaid traws sy'n cynnwys y derminoleg berthnasol, sut beth yw trawsffobia, a'r hyn gallwn ni ei wneud i amlygu'n hunain fel cynghreiriaid traws. Pan ddarparwyd yr hyfforddiant yma yn swyddfeydd Llundain a Belffast, fe'i recordiwyd ar fideo er mwyn cyrraedd llawer mwy o weithwyr yn fyd-eang. Mae aelodau rhwydwaith LHDT+ y cwmni, A&Out, wedi ysgrifennu a chyhoeddi dau becyn canllaw o'r enw "The T in LGBT+" a "The B in LGBT+", fel bod modd i gynghreiriaid ddeall yn well sut i gefnogi eu cydweithwyr deurywiol a thraws.

Gall cynghreiriaid hefyd helpu i drefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant LHDT+, gan gynnwys sesiwn o'r enw "LGBT+ Families: How to talk to our kids at any age”, a sgwrs gan y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Gareth Thomas, ar iechyd meddwl yn y gymuned LHDT+.

5. Uwch arweinyddiaeth

Cyngor Sir Northumberland

Mae arweinyddiaeth Cyngor Sir Northumberland wedi bod yn hollbwysig wrth greu amgylchedd LHDT-gynhwysol. Ar lefel uwch reoli a'r bwrdd, mae'r arweinyddiaeth bob amser yn cyfathrebu negeseuon cryf o ran cynhwysiant LHDT, fel datganiad o gefnogaeth ar gyfer Diwrnod Gwelededd Deurywiol. Maen nhw'n modelu ymddygiad LHDT-gynhwysol – gyda'r Dirprwy Brif Weithredwr yn siarad mewn diwrnod hyfforddiant mewnol am ei hymrwymiad i gydraddoldeb LHDT, bod yn gynghreiriad traws, a chymryd rhan yn ras 5k Pride Northumberland. Mae'r Prif Swyddog Tân wedi siarad yn allanol am waith LHDT-gynhwysol y cyngor, ac wedi bod i ddau ddigwyddiad Pride.

Maen nhw hefyd yn rhan o waith cynhwysiant ac amrywiaeth y cyngor, ac yn ddiweddar bu iddynt adolygu a thrafod Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd yng nghyfarfodydd y bwrdd.

6. Monitro

Pinsent Masons

Mae Pinsent Masons, sef Cyflogwr y Flwyddyn 2019, yn gweithio'n drylwyr i fonitro cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd eu staff ac ymgeiswyr am swyddi, ac yn dadansoddi'r data hwnnw i nodi meysydd i'w gwella o ran cynhwysiant. Maen nhw'n gofyn cwestiynau ar wahân ar eu ffurflenni monitro am gyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, a hunaniaeth draws, gan gynnwys yr opsiwn i hunan-ddisgrifio ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n uniaethu â'r opsiynau a gynigir yn yr arolwg. 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, nid yw Pinsent Masons wedi adrodd am unrhyw bryderon difrifol, ond maen nhw wedi argymell rhywfaint o waith dadansoddi a chamau pellach. Er enghraifft, byddan nhw'n gweithio ar fenter fewnol yn canolbwyntio ar hil ac ethnigrwydd, er mwyn nodi'r rhwystrau mae gweithwyr duon a lleiafrifoedd ethnig LHDT+ yn eu hwynebu.

7. Caffael

Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaer

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Gaer yn gweithio'n agos gyda'u cyflenwyr i fonitro cynhwysiant LHDT yn eu harferion caffael. Maen nhw'n craffu ar bolisïau amrywiaeth a chydraddoldeb ar gyfer pob contractiwr posib, ac yn gweithio gyda chontractwyr presennol i'w helpu i fodloni eu safonau cynhwysiant. Yn ddiweddar, bu iddyn nhw gynnal archwiliad amrywiaeth o'u cyflenwyr er mwyn asesu a oedd eu cyflenwyr yn bodloni eu safonau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Roedd yr archwiliad yn cynnwys edrych ar y polisïau, hyfforddiant, a'r prosesau monitro cydraddoldeb oedd ar waith gan y cyflenwyr. Yn seiliedig ar ganlyniadau'r archwiliad yma, maen nhw wedi cysylltu â sawl cyflenwr er mwyn cynnig cefnogaeth ac awgrymiadau ynghylch arferion gorau. Maen nhw hefyd yn annog eu cyflenwyr i gymryd rhan yn eu mentrau allgymorth cymunedol – er enghraifft, bu i'w cyflenwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau Pride lleol gyda'r gwasanaeth er mwyn cefnogi eu hymgyrch 'Smoke doesn't discriminate'.

8. Ymgysylltu â'r gymuned

Vodafone

Mae Vodafone wedi dangos ymrwymiad clir i waith allgymorth cymunedol LHDT a chefnogi grwpiau cymunedol. Maen nhw'n darparu eu cyfleusterau fideo gynadledda a'u gofodau cyfarfod yn rheolaidd i grwpiau cymunedol sydd eu hangen. Er enghraifft, yn ddiweddar ymunon nhw â MicroRainbow i ddarparu gweithdai CV i ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDT+ yn Llundain.

Maen nhw hefyd wedi cefnogi digwyddiadau Pride, gan gynnwys y Pride Deurywiol cyntaf erioed, a gynhaliwyd yn Llundain y llynedd. Yn ystod tymor Pride eleni, fe ddefnyddion nhw eu mantais unigryw o gael siop ym mhob ardal o Brydain a rhoddon nhw 'Pride in a Box' yn 89 o'u siopau, sef pecyn cymorth i'w helpu i ddathlu digwyddiadau Pride lleol yn y siop.

9. Cleientiaid, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth

Skills Development Scotland

Mae Skills Development Scotland wedi bod yn monitro profiad eu defnyddwyr gwasanaeth LHDT a gwneud newidiadau yn unol â'u canfyddiadau. Yn ddiweddar, gwnaethon nhw adolygu taith cwsmeriaid LHDT drwy eu gwasanaethau, ac ar ôl hyn aethant ati i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb. Nododd hyn weithgarwch pellach sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael a chanfod rhwystrau hygyrchedd i gwsmeriaid yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys cwsmeriaid LHDT.

Wedi hynny, penderfynon nhw ar y camau nesaf, yn cynnwys creu adran ar eu mewnrwyd gyda'r wybodaeth sydd ei hangen ar eu cyflogeion i gefnogi cwsmeriaid LHDT, gan gynnwys terminoleg barchus. Cynhaliwyd ymgynghoriad trylwyr hefyd a oedd yn cynnwys partneriaid allweddol a'u Grŵp Ymgynghori Cydraddoldeb, er mwyn sicrhau bod unrhyw gamau a gymerwyd yn helpu cymaint â phosib.

Dychwelyd i'n tudalen 100 Cyflogwyr Gorau 2020.