Gwahaniaethu a bwlio yn yr ysgol
Eich hawliau
Fe wnaeth Deddf Cydraddoldeb 2010 ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhieni a phlant mewn ysgol.
Er enghraifft:
Does dim modd i ysgolion wrthod cymryd disgybl oherwydd eu bod nhw neu eu rhieni yn hoyw, neu yn draws. Does dim modd i ysgolion wrthod cyfleoedd a chyfleusterau i ddisgyblion a fyddai ar gael i bob disgybl, er enghraifft, y cyfle i fod yn brif ferch.
Mae gan bob ysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod pob disgybl yn gallu dysgu mewn amgylchedd diogel. Fodd bynnag, dangosodd Adroddiad Ysgol Stonewall yn 2012:
- Fod bwlio homoffobaidd yn dal i fod yn gyffredin yn ysgolion Prydain.
- Fod dros hanner (55 y cant) y disgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi profi bwlio uniongyrchol.
- Fod defnydd o iaith homoffobaidd yn endemig.
- Fod bron y cyfan (99 y cant) o bobl ifanc hoyw yn clywed yr ymadroddion 'mae hynna mor gay' neu 'ti mor gay' yn yr ysgol, ac mae 96 y cant o ddisgyblion hoyw yn clywed iaith homoffobaidd fel 'poof' neu 'lezza'.
- Fod tri ymhob pump o ddisgyblion hoyw sy'n profi bwlio homoffobaidd yn dweud nad yw athrawon sy'n dystion i'r bwlio byth yn ymyrryd.
- Mai dim ond hanner y disgyblion hoyw sy'n dweud bod eu hysgolion yn datgan bod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol, a bod hyd yn oed llai yn dweud hynny mewn ysgolion ffydd (37 y cant).
- Fod bwlio homoffobaidd yn cael effaith hynod niweidiol ar brofiad ysgol pobl ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar yr adroddiad llawn:
[resource1]
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n credu bod disgybl yn draws?
Efallai y byddwch chi'n credu bod disgybl yn draws, ond tan iddyn nhw ddweud wrthych sut maen nhw'n teimlo, does dim ffordd i chi wybod. Cofiwch wneud yn siŵr nad ydych chi'n busnesa, rydych chi eisiau iddyn nhw wybod y gallan nhw ddod atoch chi yn eu hamser eu hunain. Yr hyn y gallwch chi ei wneud yw gwrando arnyn nhw a pharchu eu penderfyniadau am y ffordd maen nhw'n dymuno mynegi eu hunain a'u rhywedd – os yw'n well ganddyn nhw ddefnyddio llysenw er enghraifft, a gwneud yn siŵr nad yw'r ysgol yn rhoi pwysau arnyn nhw i wisgo dillad rhywedd penodol.