Chwaraewch Ran
Bod yn rhieni cyfreithiol
Dim ond dau riant cyfreithiol y gall plentyn eu cael, ond mae'n bosibl i fwy na dau berson fod â chyfrifoldeb rhiant
Ai fi yw rhiant cyfreithiol fy mhlentyn?
Chi yw rhiant cyfreithiol eich plentyn yn awtomatig:
- Os mai chi yw'r person wnaeth geni'r plentyn
- Os oeddech yn briod â'r person wnaeth geni'r plentyn neu mewn partneriaeth sifil â nhw adeg yr enedigaeth.
- Os oeddech mewn perthynas gyda'r person wnaeth geni'r plentyn a'ch bod wedi beichiogi drwy glinig ffrwythlondeb ac wedi llofnodi'r ffurflenni priodol.
- Os mai chi yw'r rhiant biolegol ac nad oedd y fam fenthyg/y person wnaeth geni'r plentyn yn briod nac mewn partneriaeth sifil.
- Os ydych yn rhiant sydd wedi mabwysiadu'r plentyn.
Nid chi yw'r rhiant cyfreithiol:
- Os mai chi yw'r rhiant anfiolegol, ac nad ydych mewn perthynas sifil na phriodas gyda'r person wnaeth geni'r plentyn a'ch bod wedi beichiogi gartref.
- Os mai chi yw'r rhiant anfiolegol mewn partneriaeth sydd wedi defnyddio mam fenthyg.
Sut alla i ddod yn rhiant cyfreithiol?
Os gwnaethoch chi ddefnyddio mam fenthyg
Os ydych chi a'ch partner wedi defnyddio mam fenthyg i gael plentyn, bydd angen i chi wneud cais am orchymyn rhiant. Mae cael gorchymyn rhiant yn trosglwyddo hawliau cyfreithiol oddi wrth y rhiant fiolegol i chi a'ch partner.
I wneud cais am orchymyn rhiant:
- rhaid i un ohonoch fod yn rhiant biolegol i'r plentyn.
- rhaid i chi fod mewn perthynas lle rydych chi a'ch partner naill ai yn briod, yn bartneriaid sifil neu'n byw fel partneriaid.
- rhaid bod y fam fenthyg (a'i phriod neu ei phartner sifil) cydsynio'n llawn ac o'u gwirfodd i'r gorchymyn gael ei wneud.
- Rhaid i chi wneud cais am orchymyn rhiant o fewn chwe mis i enedigaeth y plentyn
- Os ydych yn fam anfiolegol lesbiaidd ac nad oeddech mewn partneriaeth sifil nac yn briod â'ch partner adeg beichiogi, a'ch bod wedi beichiogi gartref, bydd rhaid i chi fabwysiadu'ch plentyn. Gweler ein tudalennau mabwysiadu i gael rhagor o fanylion.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall Cymru drwy ffonio 08000 502020 neu drwy e-bostio cymru@stonewallcymru.org.uk