Stonewall Cymru | Transitioning - guidance for teachers and education professionals
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Trawsnewid – arweiniad i athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol

Beth ddylwn i ei wneud os bydda i'n credu bod disgybl yn draws?

Efallai y byddwch chi'n credu bod disgybl yn draws, ond tan iddyn nhw ddweud wrthych sut maen nhw'n teimlo, does dim ffordd i chi wybod. Cofiwch wneud yn siŵr nad ydych chi'n busnesa, rydych chi eisiau iddyn nhw wybod y gallan nhw ddod atoch chi yn eu hamser eu hunain. Yr hyn y gallwch chi ei wneud yw gwrando arnyn nhw a pharchu eu penderfyniadau am y ffordd maen nhw'n dymuno mynegi eu hunain a'u rhywedd – os yw'n well ganddyn nhw ddefnyddio llysenw er enghraifft, a gwneud yn siŵr nad yw'r ysgol yn rhoi pwysau arnyn nhw i wisgo dillad rhywedd penodol.

Gallwch hefyd greu amgylchedd lle bydd disgyblion yn teimlo eu bod nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain a'u bod yn gallu siarad â chi, fel eu hathro, am eu rhywedd, gan wybod y byddwch chi'n gefnogol. Os yw disgybl yn draws, mae'n debygol y byddan nhw'n ymwybodol iawn o agweddau yn yr ysgol tuag at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Fe allai creu'r amgylchedd cywir gynnwys herio ystrydebau rhywedd, dweud pethau cadarnhaol am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, ac yn enwedig pobl draws, pan fyddan nhw'n cael eu trafod yn yr ysgol, a pheidio gadael i bobl ddweud pethau negyddol am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn eich ystafell ddosbarth. Dylech hefyd edrych ar bolisïau eich ysgol a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n eglur ac yn bendant ynghylch taclo bwlio homoffobaidd, a bod hyn yn cael ei gyfleu yn effeithiol i'r staff.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd disgybl yn dweud wrtha i eu bod nhw'n draws?

Os bydd disgybl yn datgelu wrthych eu bod yn draws, neu eu bod yn meddwl eu bod, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw tawelu eu meddwl bod hynny'n iawn, ac y byddwch yn cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol tan eu bod yn dymuno i hynny fynd ymhellach. Dylech ofyn pa gefnogaeth yr hoffen nhw ei chael gan yr ysgol, ac fe allech sôn wrthyn nhw am wasanaethau cymorth a grwpiau ieuenctid lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn eich ardal (mae dolenni at wasanaethau perthnasol ar waelod y dudalen yma).

Efallai y bydd y person ifanc yn dymuno cymryd camau i drawsnewid yn yr ysgol, ond peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddan nhw am wneud popeth ar unwaith. Y tro cyntaf iddyn nhw ddod atoch chi, mae'n bosibl mai dim ond eisiau dweud wrth rywun sut maen nhw'n teimlo y byddan nhw, ac er mwyn tawelu eu meddwl.

Wrth bwy ddylwn i ddweud?

Ddylai bod yn draws ddim cael ei ystyried fel mater amddiffyn plant ynddo'i hunan, ac felly ddylech chi ddim pasio'r wybodaeth yma ymlaen at unrhyw un arall heb gydsyniad y person ifanc, oni bai bod pryderon ychwanegol am eu lles neu eu hiechyd meddwl.

Yn yr hirdymor mae'n bosibl y bydd y person ifanc yn dymuno cael eich cefnogaeth i ddweud wrth bobl eraill, gan gynnwys eu rhieni, arweinwyr yr ysgol, athrawon eraill neu eu cyd-ddisgyblion, ond y person ifanc ddylai arwain sut a phryd y bydd y sgyrsiau yma yn digwydd. Hyd at hynny, dylai'r mater gael ei drin fel gwybodaeth gyfrinachol.

Ydy hi'n bosibl mai rhywbeth dros dro yw hyn?

Mae rhai athrawon yn poeni, pan fydd disgybl yn dweud wrthyn nhw eu bod yn draws, mai dim ond rhywbeth dros dro yw hynny, bod y disgybl yn rhy ifanc i fod yn sicr, neu fod pwysau allanol gan grwpiau ffrindiau a'r teulu, ac maen nhw'n poeni am effaith hirdymor penderfyniad y disgybl. Fodd bynnag, bydd ei ddiystyru fel chwiw dros dro yn gwneud iddyn nhw feddwl nad ydych chi'n eu cymryd o ddifrif, a gallai danseilio eu hyder. Mae'n debygol y bydd wedi cymryd llawer iddyn nhw fagu digon o blwc i ddweud wrthych yn y lle cyntaf!

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi amser a gwagle i'r disgybl archwilio sut maen nhw'n teimlo. Peidiwch â rhoi pwysau arnyn nhw i wneud unrhyw benderfyniadau yn rhy gyflym; gadewch i'r hyn maen nhw ei eisiau a'i angen fod yn arweiniad.

Os ydych chi'n poeni'n fawr, cofiwch hefyd fod unrhyw benderfyniadau y bydd eich disgybl yn eu gwneud i drawsnewid cyn eu bod yn 16 oed yn bosibl eu dad-wneud. Gall pobl ifanc gymryd atalyddion hormonau i roi amser iddyn nhw ystyried eu teimladau heb orfod mynd drwy'r glasoed. Os byddan nhw wedyn yn penderfynu nad ydyn nhw'n dymuno trawsnewid, bydd modd iddyn nhw stopio cymryd yr atalyddion a bydd y glasoed yn cychwyn fel arfer. Siaradwch â'ch meddyg teulu i gael rhagor o wybodaeth. Yn yr un modd, os byddan nhw'n penderfynu newid eu henw (gyda chefnogaeth eu rhieni), mae'n bosibl, ac yn weddol syml, iddyn nhw newid eu henw unwaith eto.

Fodd bynnag, cofiwch ei bod yn eithaf anarferol i bobl ifanc draws newid eu meddyliau. Mae tanseilio'r ffordd maen nhw'n teimlo yn debygol o wneud mwy o ddrwg nag o les. Yn benodol, mae pobl ifanc draws sydd heb gefnogaeth y teulu a'r ysgol yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd meddwl, ac fe allai effeithio hefyd ar eu gallu i ganolbwyntio yn yr ysgol ac ar eu cyrhaeddiad addysgol.

Beth os nad yw eu rhieni yn gefnogol?

Mae rhai rhieni yn gofidio neu'n ei chael yn anodd pan fyddan nhw'n cael ar ddeall bod eu plentyn yn draws, ond mae'r rhan fwyaf o rieni eisiau i'w plentyn fod yn hapus yn fwy na dim arall. Os bydd rhieni yn ei chael yn anodd derbyn eu plentyn fel rhywun traws, cofiwch mai eich dyletswydd chi yn y pen draw yw diogelu buddiannau gorau eich disgybl, ac os yw pethau'n anodd gartref mae hyd yn oed yn bwysicach eu bod nhw'n teimlo bod cefnogaeth iddyn nhw yn yr ysgol.

Byddwch yn eglur ynghylch yr hyn mae angen i chi gael cydsyniad rhieni ar ei gyfer, a phryd nad oes angen y cydsyniad hwnnw. Er enghraifft, fyddai athrawon ddim fel arfer yn gofyn am gymeradwyaeth rhieni i alw plentyn wrth lysenw, felly ddylai ddim bod angen cael cymeradwyaeth er mwyn defnyddio eu dewis enw yn yr ystafell ddosbarth. Gan ddibynnu ar bolisi eich ysgol, fodd bynnag, efallai y bydd angen cydsyniad rhieni er mwyn newid cofnodion yr ysgol os yw'r disgybl o dan 16 oed.

Ystyriaethau ymarferol

Dyma rai o'r pethau y byddwch am eu hystyried o bosibl:

  • a ddylid newid cofrestr y dosbarth i enw gwahanol?
  • pa dai bach/ystafelloedd newid y byddai'n well gan y disgybl eu defnyddio?
  • a yw'r disgybl am newid y wisg ysgol mae'n ei gwisgo?
  • sut mae'r person ifanc am i gyd-ddisgyblion gael gwybod am hyn, a sut y dylai hynny ddigwydd?

Dylai ysgolion wneud yn siŵr bod y person ifanc yn rhan o'r penderfyniadau yma i'r graddau mae hynny'n bosibl, a gall Stonewall Cymru helpu i ddatblygu arweiniad ar gefnogi pobl ifanc draws yn ogystal â rhoi gwybodaeth a chefnogaeth. Cysylltwch â cymru@stonewall.cymru neu 08000 50 20 20.

Cefnogaeth bellach

Prosiect i rymuso pobl ifanc draws yw prosiect Traws*newid Youth Cymru sydd hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw gwrdd â phobl ifanc draws eraill.

Mae Mermaids yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc draws a'u teuluoedd.

Mae gan Gendered Intelligence ystod o adnoddau a gwybodaeth ar gyfer pobl draws ar faterion gan gynnwys iechyd, addysg a gwaith.

Mae Gires (Cymdeithas Addysg ac Ymchwil Hunaniaeth Rhywedd) yn darparu ymchwil a gwybodaeth ar faterion traws.