Network Group Masterclass 2023 | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Dosbarth Meistr Grŵp Rhwydwaith 2022

Grwpiau rhwydwaith LHDTC+ yw adnodd cryfaf sefydliad ar gyfer gwneud gwaith cynhwysiant. Fodd bynnag, mae arwain rhwydwaith yn waith heriol.

Bydd y dosbarth meistr digidol undydd yma Dydd Mercher 16 Mawrth 2022 yn gyfle i chi ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth, gwybodaeth ymarferol a chael rhwydwaith gefnogol sydd ei angen arnoch chi i lwyddo.

Mae angen ystod o sgiliau i fod yn arweinydd mewn grŵp rhwydwaith, o ddarparu cefnogaeth i gyfoedion, i ddylanwadu ar benderfyniadau ar draws y sefydliad. Dyma’ch cyfle i ymuno â thros 100 o weithwyr proffesiynol o sefydliadau blaenllaw eraill i ddysgu a rhannu ffyrdd i sicrhau bod eich grŵp rhwydwaith yn rym go iawn dros newid.

Gallwch weld rhaglen lawn y diwrnod yma. 

Pam mynychu?

Datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth 
  • Dewch i sesiwn y bore sydd wedi’i dylunio gan y tîm oedd yn gyfrifol am raglen arweinyddiaeth flaenllaw Stonewall.
  • Cewch ddod i ddeall eich arddull arweinyddiaeth ac archwilio sut i oresgyn yr heriau rydych chi’n eu hwynebu
  • Gallwch ddatblygu’r offer a’r hyder i arwain eich rhwydwaith ar ba lefel bynnag, er mwyn dylanwadu ar benderfyniadau a darparu cefnogaeth effeithiol i gyfoedion
Dysgu sgiliau ymarferol 
  • Yn y prynhawn, gallwch ddewis o blith pedwar gweithdy rhyngweithiol sy’n trafod ystyriaethau ymarferol allweddol ar gyfer grwpiau rhwydwaith
  • Cewch glywed gan arbenigwyr cynhwysiant Stonewall yn ogystal â siaradwyr o grwpiau rhwydwaith LHDTC+ blaenllaw eraill
  • Gallwch ddatblygu cynlluniau gweithredu ymarferol sydd wedi’u teilwra i’ch cyd-destu
Tyfu eich rhwydwaithl
  • Dewch i ymuno â chadeiryddion ac aelodau pwyllgor grwpiau rhwydwaith eraill o sefydliadau blaenllaw yng ngwledydd Prydain a ledled y byd
  • Cewch glywed gan arweinwyr grwpiau rhwydwaith ysbrydoledig eraill am eu heriau a’u llwyddiannau
  • Manteisiwch ar gyfleoedd i drafod a rhannu syniadau ag eraill mewn sesiynau rhwydweithio rhyngweithiol

Pwy gaiff ddod?

Mae’r digwyddiad yma’n agored i unrhyw un sydd â swydd arwain mewn rhwydwaith LHDTC+, er enghraifft y cadeirydd neu’r cyd-gadeirydd neu aelod pwyllgor neu gynrychiolydd.

Os ydych chi am sefydlu grŵp rhwydwaith LHDTC+ neu grŵp adnoddau yna dyma’r cyfle perffaith i ddysgu sgiliau ymarferol i roi sylfaen gref iddo.

Gyda’r dewis o weithdai sydd ar gael, mae’r dosbarth meistr yn berthnasol i grwpiau rhwydwaith sydd newydd ddechrau a’r rhai sydd wedi bod yn datblygu ers blynyddoedd.

Beth arall sydd angen i mi ei wybod?

Bydd y dosbarth meistr yn cael ei gynnal rhwng 10:00 a 17:00 dydd Mercher 16 Mawrth. Byddwn yn torri am egwyl yn rheolaidd drwy gydol y dydd. Mae’r agenda llawn ar gyfer y diwrnod i’w weld yma.

Bydd yn cael ei gynnal yn ddigidol gan ddefnyddio ystod o wahanol offer ymgysylltu â chynulleidfa i’ch galluogi i gymryd rhan yn y sesiwn a chysylltu â chynrychiolwyr eraill. Byddwn ni’n defnyddio Zoom ar gyfer cyfathrebu clywedol a gweledol, a gellir ei lawrlwytho am ddim.

Archebu

Archebu Cynnar Safonol – £150.00 (heb gynnwys TAW) (ar gael tan Ionawr 31ain)

Archebu Cynnar ar gyfer aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth (y sector preifat) – £120.00 (heb gynnwys TAW) (ar gael tan Ionawr 31ain)

Archebu Cynnar ar gyfer aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth (y sector cyhoeddus a’r trydydd sector) – £100.00 (heb gynnwys TAW) (ar gael tan Ionawr 31ain)

Safonol – £180.00 (heb gynnwys TAW)

Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth (y sector preifat) – £160.00 (heb gynnwys TAW)

Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth (y sector cyhoeddus a’r trydydd sector) – £130.00 (heb gynnwys TAW)

Allwch chi fy nghefnogi i gael cyllideb?

Rydyn ni wedi llunio achos busnes i’ch cefnogi chi i sicrhau cyllideb ar gyfer y digwyddiad yma. Mae’r templed ar gyfer yr achos busnes i’w weld isod.

Os oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i’ch helpu, cysylltwch â ni!

File

Hygyrchedd

Rydyn ni am i’n digwyddiadau fod yn hygyrch i bawb. Dylai pob cynrychiolydd ddisgwyl teimlo’n ddiogel, bod croeso iddyn nhw a’u bod yn cael eu cynnwys yn ein digwyddiadau.  Gallwch ddarllen ein datganiad hygyrchedd yma. Bydd y sesiynau yma’n cael eu cynnal drwy Zoom gyda hyd at 130 o gynrychiolwyr. Bydd cyfle i gael eich rhannu i grwpiau llai lle gall cynrychiolwyr gwblhau gweithgareddau trafod dewisol. Dyma ddolen at y nodweddion hygyrchedd sy’n cael eu cynnig gan Zoom.

Bydd aelodau o’r tîm wrth law i gynnig cymorth technegol a lles drwy gydol y sesiwn. Bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gael ym mhob sesiwn agored, a bydd capsiynau ar gael.   I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein datganiad hygyrchedd.

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd, anfonwch e-bost i empowerment@stonewall.org.uk. Fe wnawn ni ein gorau i ddarparu ar eu cyfer.

Archebwch nawr.


One of the best trainings I've been on - such a great vibe and participation throughout was really lively. I felt really connected to other network leaders as a result.

The whole day was run smoothly and with plenty of opportunity for discussion and interaction, which made the environment feel engaging and collaborative.

A fantastic course, I feel really empowered to take action, better understand and connect within and out of the LGBTQ+ community to ensure we bridge that gap of inequity in my sector.