Stonewall yn 30! #DewchAllanDrosLGBT | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Stonewall yn 30! #DewchAllanDrosLGBT

Sefydlwyd Stonewall ddeng mlynedd ar hugain yn ôl gan grŵp o bobl a oedd eisiau chwalu'r rhwystrau oedd yn atal cydraddoldeb.

Yn ôl yn 1989, roedd darn o ddeddfwriaeth o'r enw Adran 28 newydd gael ei phasio. Mewn gwirionedd, roedd y ddeddfwriaeth yma'n gwahardd ysgolion rhag cynnal sgyrsiau am berthnasau un rhyw, gan orfodi athrawon LHDT i guddio eu hunaniaeth neu adael eu swydd a niweidio cenhedlaeth o bobl ifanc LHDT.

Crëwyd Stonewall i frwydro yn erbyn y gwahaniaethu yma. Dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf, rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl LHDT yma ac o gwmpas y byd. Ym Mhrydain, mae'r ymgyrch LHDT wedi ennill hawliau cyflogaeth. Hawliau rhianta. Hawliau partneriaethau. Oed cydsynio cyfartal.

I ddathlu hyn, rydyn ni wedi dewis 30 digwyddiad nodedig yn hanes cydraddoldeb, a byddwn ni'n tynnu sylw at y digwyddiadau arbennig hyn drwy'r flwyddyn. Mae llawer i'w ddathlu – ond mae hefyd llawer mwy i'w wneud cyn i ni gyflawni ein cenhadaeth i sicrhau bod pawb yn cael eu derbyn yn ddieithriad. Ymunwch â ni yn ein dathliad drwy ddod â ffrindiau, eich teulu a chydweithwyr ynghyd i gael paned o de ac i drafod cydraddoldeb LHDT. Byddwn ni'n anfon y deunydd fydd ei angen arnoch chi i gynnal digwyddiad llwyddiannus. Llwythwch eich pecyn Cydraddol-de i lawr yma.

Stonewall yn 30

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Stonewall yn 30, rydym wedi dewis rhai o fomentau allweddol i bobl LHDT a'u teuluoedd yn y 30 mlynedd diwethaf.