Ein hanes | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Ein hanes

Ym mis Gorffennaf yn y flwyddyn 2000, cynhaliodd Stonewall ddigwyddiad ar y cyd â Llywodraeth Cymru, llywodraeth a oedd yn newydd sbon bryd hynny, i drafod sefydlu 'Fforwm Lesbiaidd a Hoyw i Gymru'. Y drafodaeth yma oedd eu cyfarfod cyhoeddus cyntaf, ac yn ystod y ddwy flynedd nesaf, sefydlodd y fforwm grŵp llywio.

Gloria Jenkins a John Sam Jones oedd cyd-gadeiryddion y grŵp, a thrwy weithio gyda Stonewall, recriwtiodd y grŵp llywio newydd-anedig ddau gydlynydd rhan ams

O'r dechrau un, nod y bartneriaeth yma oedd 'gwneud cydraddoldeb yn realiti i bobl LHD yng Nghymru' a chyflawni hynny drwy rannu profiadau, adeiladu cymunedau, a chynghori'r Cynulliad Cenedlaethol newydd ar gydraddoldeb cyfreithiol a chyfiawnder cymdeithasol.

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf Fforwm LHD Cymru ar 13 Ebrill 2002, gan ddenu mwy na 200 o bobl o bob rhan o Gymru.

Disgrifiodd Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, y fforwm newydd fel 'ased a fyddai'n rhoi llais i gymunedau LHD ledled Cymru'. Soniodd Angela Mason, Prif Weithredwr Stonewall ar y pryd a oedd yn siarad ar ran Stonewall, am y dylanwad cynyddol byddai Cymru'n ei gael ar ddeddfwriaeth, a'i gobaith y byddai Fforwm LHD Cymru yn helpu Cymru i 'arwain y ffordd ar faterion grymuso cymunedau ac arferion da.'

Gyda'i gilydd, cyflawnodd y Fforwm a Stonewall lwyddiannau sylweddol yn gynnar yn ei hanes, gan gynnwys diddymu Adran 28 yng Nghymru yn 2002 drwy Ganllawiau'r Cynulliad, a chyhoeddi'r astudiaeth ymchwil fawr gyntaf ar fywydau pobl LHD yng Nghymru.

Datgelodd yr ymchwil yma fod mwy na thraean y bobl LHD yng Nghymru wedi profi trais corfforol neu fwlio, a bod dros hanner yn teimlo nad ydyn nhw wedi'u diogelu gan y gyfraith.

Yn y cyfnod hwnnw, cyn mesurau diogelu mewn cyflogaeth, adroddodd 24% o bobl LHD yng Nghymru eu bod wedi'u diystyru oherwydd eu cyfeiriadedd rywiol (mwy na dwbl cyfartaledd Prydain ar gyfer pobl LHD ar y pryd).

Yn sgil y momentwm cynnar gwelwyd galw cynyddol, a phenderfynwyd cyfuno gwaith y Fforwm a Stonewall yng Nghymru i greu un sefydliad ar gyfer Cymru gyfan. O 1 Ebrill 2003, byddai'r sefydliad newydd hwn yn cael ei alw'n Stonewall Cymru. Heddiw, mae Stonewall Cymru'n cyflogi tîm o ddeg aelod o staff llawn amser, ac yn gweithredu'n ddwyieithog ledled Cymru.