Pecynnau dysgu o adref gan Stonewall
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Some students working at a table

Pecynnau dysgu o adref gan Stonewall

Cefnogwch ddysgu eich plant o adref

Yn ystod yr adeg anodd ac ansicr hyn, rydym yn gwybod bod staff addysg, rhieni a gofalwyr yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

Fodd bynnag, ar adegau fel hyn gallwn ni ddod at ein gilydd i helpu ein gilydd. Dyna pam ein bod ni'n lansio cyfres o becynnau dysgu o adref. P'un a ydych yn athro sy'n anfon gwaith adref i'ch myfyrwyr, neu'n rhiant neu'n ofalwr sy'n chwilio am rai gweithgareddau ar gyfer eich plentyn, mae'r pecynnau hyn ar eich cyfer chi. Ceir fersiwn cynradd a chyfun o bob pecyn, ynghyd â gweithgareddau awgrymedig a deunyddiau ategol i gefnogi dysgu eich plentyn.

Mae tîm addysg ac ieuenctid Stonewall yn cynnig cymorth i ysgolion, colegau a gwasanaethau plant a phobl ifanc ledled y DU. Gweld mwy o wybodaeth am ein gwaith.

 

Diffiniadau Hawdd ei Ddeall

Mae'r canllaw Hawdd ei Ddeall hwn yn esbonio beth mae lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn ei olygu. Mae'n defnyddio iaith syml ac mae'n wych i'w defnyddio gyda dysgwyr ADY.

Llwythwch i lawr

Cadw'n Ddiogel Ar-lein

Buom yn gweithio gyda Childnet i greu ein canllaw Cadw’n Ddiogel Ar-lein, adnodd sydd wedi dod hyd yn oed yn bwysicach nawr bod y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn gorfod dibynnu ar apps ac offer ar-lein i gadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau.

I bobl ifanc LHDT, mae'r rhyngrwyd yn lle i wneud ffrindiau a darganfod eich hun - ond gall mynd ar-lein fod yn beryglus. Yn cwmpasu popeth o seiberfwlio i apps dêtio, mae Cadw’n Ddiogel Ar-lein yn nodi'r peryglon. Ond peidiwch â phoeni: mae'n llawn awgrymiadau ac adnoddau ar gyfer cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein.

 

Llwythwch i lawr