Stonewall | Rainbow Laces
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Rainbow Laces header - TeamPride

Rainbow Laces - Dewch Allan ac Ewch Amdani dros gydraddoldeb LHDT ym maes chwaraeon

Pa un a ydym yn cefnogi neu'n cystadlu, yr ydym i gyd ar ein gorau pan fyddwn yn teimlo'n rhan o'r tîm.

Ond nid yw 4 o bob 10 person LHDT yn meddwl bod chwaraeon yn groesawgar.

Mae gan chwaraeon bŵer anhygoel i ddod â phobl at ei gilydd. Gall dilyn a chymryd rhan roi i ni deimlad o gymuned, egni ac ymdeimlad o berthyn.

Dyna pam fod angen i ni gyd chwarae ein rhan i sicrhau bod chwaraeon yn gêm i bawb.

Pan fyddwch yn camu i fyny ac yn chwarae eich rhan, bydd eraill yn dilyn.

Heriwch iaith gwrth-LHDT. Dathlwch pobl LHDT ym maes chwaraeon.

Gwisgwch eich Lasys Enfys a dangoswch eich bod yn malio.

Chwaraewch eich ran, dewch â'r enfys i mewn i'ch cymuned a Dewch Allan ac Ewch Amdani yn ystod yr ymgyrch eleni.

Mae mor syml â hyn: gwneud rhywbeth egnïol wrth wisgo'ch Lasys Enfys, codi arian hanfodol ar gyfer Stonewall a dweud wrth bawb pam eich bod yn cefnogi cydraddoldeb LHDT ym maes chwaraeon.

Boed ar dir, yn y dŵr, y tu mewn neu'r tu allan. P'un a ydych yn cerdded, nofio, beicio, yn gwneud dosbarth neu'n ymwneud â'ch clwb neu'ch tîm – chi biau'r dewis! Gallwch wynebu eich her yn unigol neu gael eich cymuned, cydweithwyr a'ch ffrindiau i gymryd rhan. Sut bynnag rydych yn ei wneud, Dewch Allan ac Amdani.

Bydd wythnos Dewch Allan ac Amdani yn cymryd lle 23 – 30 Tachwedd. Gallwch ymuno yn y foment fawr neu wneud eich gweithgaredd unrhyw bryd ym mis Tachwedd. Os ydych am wneud y mwyaf o effaith yna awgrymwn gynnal eich digwyddiad ar ddiwrnod Lasys Enfys, dydd Mercher 27 Tachwedd.

Cofrestrwch nawr ar gyfer eich pâr o lasys enfys a phecyn codi arian am ddim, sydd â phopeth byddwch angen i ysbrydoli a sbarduno eich cymuned.

Gyda’n gilydd gallwn wneud chwaraeon yn gêm i bawb

Mae yna nifer o ffyrdd gallwch fod yn gyngheiriad gwell i bobl LHDT. Clymwch eich carau, twitiwch wich llun i #LasysEnfys a gwnewch yn siwr i ddarllen a rhannu ein cynhorion gorau i wneud chwaraeon yn fwy cynhwysol.

A ydych chi’n ysgol sy’n edrych i wneud gwahaniaeth i bobl LHDT yn chwaraeon? A oes yna glwb chwaraeon wrth galon eich cymuned?  Ydych chi’n sefydliad sydd ar lawr gwlad neu yn gweithredu yn ddielw sydd eisiau ymgyrchu i wneud chwaraeon yn gêm i bawb?

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer archebion mawr lasys am £1 yr un.

Cysylltwch ar gyfer archebion mawr

I will #KeepItUp for sports inclusion

Join our mailing list

Stonewall would love to show you how your support is helping LGBTQ+ people everywhere to thrive.

We need your consent to keep you up to date with our campaigns, fundraising and events, and what you can do to help make life better for LGBTQ+ people.

* indicates required