Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Byd-eang
Hero box
Rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Byd-eang
Nid yn unig mae cymdeithasau cynhwysol yn fuddiol i unigolion, ond maen nhw hefyd yn galluogi cwmnïau ac economïau i ffynnu.
Mewn mwy na hanner gwledydd y byd, mae'n bosib nad yw pobl LHDT yn cael eu hamddiffyn gan gyfraith gweithle. Mae pobl LHDT yn wynebu gwahaniaethu ym mhob gwlad, ac mae perthnasau o'r un rhyw yn anghyfreithlon mewn mwy na 70 o wledydd.
Mae'r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Byd-eang yn rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i fabwysiadu ymagwedd strategol a strwythuredig at fentrau cydraddoldeb LHDT yn fyd-eang, ac yn darparu rhwydwaith i'ch hysbysu am newidiadau cyfreithiol a goblygiadau i'ch staff lle bynnag y bônt yn y byd.
Aelodau
Prif fanteision
Beth sydd gan ein haelodau i'w ddweud
Left column
Right column
Quote wrapper
PAM DOD YN HYRWYDDWR AMRYWIAETH BYD-EANG?
Byw yn ôl eich gwerthoedd, lle bynnag rydych chi yn y byd
Er mwyn sicrhau bod eich sefydliad yn wirioneddol gynhwysol ac i ryddhau potensial eich staff, mae angen i chi wreiddio eich gwerthoedd yn eich gweithleoedd ledled y byd. Gall hyn eich helpu i greu brand cyson ac ennyn diddordeb eich cwsmeriaid.
Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Byd-eang, byddwn yn eich helpu i fyw yn ôl eich gwerthoedd:
-
Drwy ddarparu cymorth sydd wedi'i deilwra dros e-bost a thros y ffôn – ar waith yng ngwledydd Prydain ac yn fyd-eang – drwy reolwr cyfrif penodedig.
-
Drwy eich cefnogi i ddod yn rhan o'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle ym Mhrydain a'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Byd-eang, a fydd yn amlygu meysydd o arferion gorau gennych a meysydd lle gallwch wella.
Dysgu o'n harbenigedd
Mae ein rhaglen yn rhoi'r arweiniad a'r offer i chi greu gweithleoedd lle gall aelodau o staff LHDT fod yn nhw eu hunain, lle bynnag maen nhw. Bydd staff yn gallu bod yn agored am bwy ydyn nhw yn y gwaith a fydd yn arwain at lefelau uwch o gymhelliant, creadigrwydd, bodlonrwydd a chynhyrchiant.
Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Byd-eang, byddwch yn dysgu o'n harbenigedd:
-
Drwy gael mynediad unigryw i'n llyfrgell lawn o adnoddau. Mae'r rhain yn rhoi arweiniad cam wrth gam i chi ar wahanol feysydd o gynhwysiant LHDT, o uwch arweinyddiaeth i symudedd byd-eang.
-
Drwy wylio ein cyfres o weminarau ym Mhrydain ac yn fyd-eang yn fyw, a gwylio recordiadau o weminarau blaenorol.
-
Drwy gael ein timau mewnol o arbenigwyr i adolygu eich polisïau ar gyfer cynwysoldeb LHDT.
Drwy adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol
Bydd ymuno ag un o'r cymunedau byd-eang mwyaf o weithwyr proffesiynol sy'n ymroddedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn eich rhoi ar flaen y gad o ran bod yn gynhwysol o bobl LHDT yn y gweithle. Byddwch yn cael cyfleoedd i rannu arferion gorau a chydweithio.
Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Byd-eang, byddwn yn eich helpu i adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol:
-
Drwy gyflwyniadau i'n rhwydwaith o dros 700 o gyflogwyr yng ngwledydd Prydain a 150 o gyflogwyr byd-eang i rannu syniadau, dulliau gweithredu ac arferion gorau.
-
Drwy hwyluso cysylltiadau â rhwydwaith o dros 100 o gyrff anllywodraethol lleol ledled y byd.
-
Drwy gael cyfraddau gostyngol i'n cynadleddau gweithle sydd wedi'u hachredu ar gyfer DPP, lle gallwch gysylltu â channoedd o gydweithwyr mewn sectorau gwahanol.
Drwy ddenu a chadw'r talent gorau
Mae gweithlu amrywiol yn creu amrywiaeth o ran meddwl, gweithredu ac arloesi. Ond mewn marchnad gystadleuol fyd-eang, mae angen i'ch gweithle a'ch diwylliant fod yn apelgar i bobl sy'n chwilio am waith.
Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Byd-eang, byddwn yn eich helpu i ddenu a chadw'r talent gorau:
- Drwy roi copi o'r logo Hyrwyddwr Amrywiaeth Byd-eang i chi ei ddefnyddio ar ddeunyddiau hyrwyddo.
- Drwy hysbysebu pum swydd am ddim ar wefan Cyflogwyr Balch, sef ein safle swyddi LHDT-gynhwysol unigryw.
- Drwy eich rhestru ar unig wefan canllaw gyrfaoedd LHDT gwledydd Prydain, Starting Out.