Stonewall | Transitioning as an adult
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Trawsnewid fel oedolyn

'Dod allan' fel rhywun traws

Mae dweud wrth ffrindiau, teulu a chydweithwyr am eich hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf yn gallu bod yn broses frawychus, a bydd llawer o bobl draws yn poeni sut y bydd ffrindiau ac anwyliaid yn ymateb. Cyn dweud wrth bobl eraill, bydd rhaid i bobl draws 'ddod allan' iddyn nhw eu hunain, drwy gydnabod eu hunaniaeth rhywedd, a chymryd amser i archwilio sut maen nhw'n teimlo a sut yr hoffen nhw fynegi eu rhywedd o hynny ymlaen. Bydd rhaid i'r rhan fwyaf o bobl draws 'ddod allan' iddyn nhw eu hunain beth amser cyn dweud wrth neb, ac yn aml byddan nhw wedi gwneud llawer o ymchwil, gan ystyried pwy ydyn nhw a sut maen nhw'n teimlo. Cofiwch felly, os bydd rhywun yn dweud wrthych eu bod nhw'n draws, neu y gallen nhw fod, mae'n bwysig eich bod yn gefnogol ac nad ydych chi'n cwestiynu nac yn tanseilio sut maen nhw'n teimlo. Peidiwch â gwneud rhagdybiaethau ynghylch sut maen nhw am i bobl gyfeirio atyn nhw, a rhowch wagle ac amser iddyn nhw wneud penderfyniadau pan fyddan nhw'n barod.

Mae pobl yn trawsnewid mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywydau. Mae rhai pobl yn gwybod o oedran cynnar iawn bod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r label a roddwyd arnyn nhw adeg eu geni, tra bydd eraill yn dod i sylweddoli hynny yn llawer diweddarach, ac fe allai gymryd amser i wneud y penderfyniad o weithredu ar y teimladau hynny. Dim ond iddyn nhw eu hunain y bydd rhai pobl yn cydnabod eu teimladau, heb ddweud wrth neb arall byth. Eich penderfyniad chi fydd os, pryd a sut rydych chi am drawsnewid, a bydd y broses yma yn wahanol i bawb.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwagle ac amser i chi eich hunan archwilio sut rydych chi'n teimlo a sut rydych chi am fynegi eich hunaniaeth rhywedd. Fe allai hyn gynnwys gwneud ymchwil i wahanol hunaniaethau traws, darllen blogiau neu wylio fideos, ymuno â grŵp lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws cymunedol neu ymchwilio i wahanol ffyrdd o gefnogaeth i chi wrth drawsnewid. Mae'n iawn i chi gymryd eich amser dros hyn; peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ruthro i wneud unrhyw benderfyniadau cyn eich bod chi'n barod.

Dweud wrth bobl eraill

Os byddwch chi'n penderfynu eich bod yn barod i ddweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo, meddyliwch pwy rydych chi am siarad â nhw yn gyntaf a gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser i siarad yn rhywle niwtral a diogel. Byddwch yn barod rhag ofn y bydd ganddyn nhw lawer o gwestiynau. Os nad ydyn nhw'n ymateb fel y byddech chi wedi gobeithio, ceisiwch beidio digalonni gormod a rhowch gyfle iddyn nhw ddod i arfer â'r syniad – mae'n bosibl iawn y byddan nhw'n dod i ddeall yn y pen draw.

Efallai y byddwch chi'n gweld budd siarad â'ch Meddyg Teulu neu Glinig Hunaniaeth Rhywedd i drafod y dewisiadau sydd ar gael i chi wrth drawsnewid. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, therapi hormonau, hyfforddiant lleisiol, cwnsela neu driniaeth gosmetig. Mae rhoi triniaeth feddygol i chi eich hunan yn hynod beryglus gan y gallai arwain at ddefnyddio dosau anghywir a hyd yn oed cyffuriau peryglus wedi'u cam-werthu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â meddyg er mwyn cael presgripsiwn. Mae gan sefydliad Gendered Intelligence ystod eang o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pobl draws ynghylch iechyd a thrawsnewid.

Newid eich enw a'ch rhywedd ar ddogfennau

Efallai y byddwch chi'n penderfynu eich bod am newid eich enw i un sy'n fwy addas ar gyfer eich hunaniaeth rhywedd, a bod eich hunaniaeth rhywedd yn cael ei hadlewyrchu ar ddogfennau fel eich pasbort.

Does dim rhaid i chi ddilyn proses gyfreithiol er mwyn cychwyn defnyddio enw newydd yng Nghymru, ond fe allwch chi newid eich enw gan ddefnyddio dogfen gyfreithiol o'r enw gweithred newid enw er mwyn sicrhau bod eich enw yn cael ei gydnabod ar bob dogfen swyddogol fel eich pasbort. Mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed er mwyn gwneud cais am weithred newid enw, a bydd yn costio £36 i gofrestru eich newid enw ar gofnod cyhoeddus. Os ydych chi o dan 18 oed, bydd rhaid i chi gael caniatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhieni drosoch er mwyn newid eich enw, ac mae modd cofrestru hynny ar weithred newid enw pobl ifanc dan oed.

I newid eich tystysgrif geni er mwyn adlewyrchu eich hunaniaeth rhywedd (ar hyn o bryd dim ond gwrywaidd neu fenywaidd y gallwch eu dewis) mae'n rhaid i chi wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd. I wneud cais am Dystysgrif o dan y Broses Gwneud Cais Safonol, mae angen i unigolyn brofi:

  • Eu bod yn 18 oed o leiaf
  • Eu bod wedi byw yn gyfan gwbl yn eu 'rhywedd caffaeledig' am o leiaf ddwy flynedd a'u bod yn bwriadu byw yn barhaol yn eu 'rhywedd caffaeledig' am weddill eu bywyd.
  • Bod ganddyn nhw, neu eu bod wedi profi, dysfforia rhywedd. Bydd gofyn darparu dau adroddiad meddygol (un gan eu Meddyg Teulu ac un gan eu Harbenigwr Rhywedd) yn cadarnhau'r diagnosis ac yn rhoi manylion unrhyw driniaeth feddygol yn ymwneud â thrawsnewid (er enghraifft cwnsela seicolegol, hormonau a/neu lawdriniaeth) maen nhw wedi ei derbyn.
  • Does dim angen i'r person fod wedi cael llawdriniaeth o gwbl, ond os nad ydyn nhw fe ddylai un o'r adroddiadau nodi a ydyn nhw'n aros am lawdriniaeth neu nodi unrhyw resymau pam mae'r person wedi penderfynu peidio cael llawdriniaeth.

Fodd bynnag, fe allwch newid eich pasbort ac unrhyw ddogfennau eraill (cardiau banc, cardiau adnabod, ac ati) heb Dystysgrif Cydnabod Rhywedd. Er mwyn newid eich pasbort byddai angen llythyr gan eich meddyg neu'ch ymgynghorydd meddygol yn cadarnhau bod eich hunaniaeth rhywedd yn debygol o fod yn barhaol, a thystiolaeth eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft eich gweithred newid enw).

Eich hawliau fel person traws

Fel person traws sy'n byw yng Nghymru, rydych yn cael eich diogelu rhag gwahaniaethu yn y gwaith ac wrth ddefnyddio gwasanaethau busnesau a chyrff cyhoeddus. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi gosod gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd ar yr un sail â nodweddion eraill fel hil, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae hynny'n golygu, os ydych o'r farn eich bod wedi cael eich trin yn waeth gan gydweithiwr, gan eich cyflogwr neu gan sefydliad dim ond oherwydd eich bod yn berson traws, mae amddiffynfa i chi a gallwch ddwyn achos yn erbyn y sefydliad hwnnw. Mae peth dadl ynghylch union ystyr "ailbennu rhywedd" ac a yw hyn yn berthnasol i bobl draws i gyd – gan gynnwys, er enghraifft, pobl anneuaidd (pobl nad ydyn nhw'n ffitio o fewn deuoliaeth rhywedd). Tan i achos fynd i'r llysoedd ar y mater yma, mae'n anodd dweud yn bendant sut bydd y gyfraith yn cael ei dehongli, ond mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn eglur bod 'ailbennu rhywedd' yn cynnwys unrhyw un sydd wedi cymryd camau tuag at drawsnewid, ac nad oes angen i rywun fod wedi cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd nac ymyrraeth feddygol. Mae hefyd yn werth cofio bod y gyfraith yn eich diogelu nid yn unig os ydych wedi cymryd camau tuag at drawsnewid, ond hefyd os yw rhywun yn tybio eich bod. Yn y rhan fwyaf o achosion, felly, gall pobl draws deimlo'n hyderus eu bod wedi eu diogelu rhag gwahaniaethu. Gallwch ddarllen gwybodaeth bellach am wahaniaethu yma.  

Mae deddfwriaeth Trosedd Casineb yng Nghymru a Lloegr hefyd yn sicrhau, os bydd pobl draws yn cael eu targedu fel dioddefwyr trosedd oherwydd eu hunaniaeth draws, wirioneddol neu dybiedig, bod modd rhoi dedfryd fwy llym i'r drwgweithredwr o ganlyniad. Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am droseddau casineb yma.

Clinigau hunaniaeth rhywedd

Ar hyn o bryd does dim clinigau hunaniaeth rhywedd yng Nghymru, ond mae GIG Cymru yn gallu atgyfeirio pobl draws i glinigau yn Lloegr er mwyn cael gafael ar y gofal maen nhw ei angen.

Llundain: Clinig Hunaniaeth Rhywedd ‘Charing Cross’ WLMHT

Y Clinig Hunaniaeth Rhywedd yn Hammersmith (sy'n cael ei adnabod weithiau fel Clinig Charing Cross) yw'r clinig hunaniaeth rhywedd hynaf a mwyaf yn y byd ac mae'n gweithredu ers y chwedegau. Maen nhw'n cymryd atgyfeiriadau o bobman yng ngwledydd Prydain ac yn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra dan arweiniad gweithwyr proffesiynol cymwys.

Llundain: Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd (GIDS) Ymddiriedolaeth GIG Tavistock a Portman

Mae'r Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd yn gweld plant a phobl ifanc (hyd at 18 oed) a'u teuluoedd sy'n profi anawsterau o ran datblygiad hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n anhapus gyda'r label rhywedd a roddwyd arnynt. Mae'r staff yn grŵp amlddisgyblaethol gyda chyfraniadau o seiciatreg plant a'r glasoed, seicoleg, gwaith cymdeithasol, seicotherapi a phediatreg. Mae'r gwasanaeth yn cymryd atgyfeiriadau o bobman yng ngwledydd Prydain.

Llundain: Transhealth (clinig preifat)

Clinig preifat yw'r London Gender Clinic. Mae cefnogaeth ar gael ar ffurf diagnosis dysfforia rhywedd, darparu presgripsiynau hormonaidd, ac atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaeth, cwnsela a thriniaeth gwaredu gwallt.

 

Ble i gael cymorth

Trawsryweddol yng Nghymru

Dileu Trawsffobia

Prosiect Traws*newid Youth Cymru

Llinell Gymorth LHDT Cymru

Gendered Intelligence

Gires (Cymdeithas Addysg ac Ymchwil Hunaniaeth Rhywedd)