Stonewall Cymru | Transitioning as a young person
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Trawsnewid fel person ifanc

Sylweddoli efallai eich bod yn draws

Mae pobl draws yn dod allan mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywydau. Bydd rhai pobl yn gwybod o oedran cynnar iawn bod y ffordd maen nhw'n teimlo yn wahanol i'r hyn y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddisgwyl ar sail y categori rhywedd y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, ac efallai y byddan nhw'n siarad â'u rhieni, eu ffrindiau neu eu hathrawon am y ffordd maen nhw'n teimlo. Fydd eraill ddim yn dod allan tan yn llawer diweddarach. Mae'n bosibl mai dim ond iddyn nhw eu hunain y bydd rhai pobl yn cydnabod eu teimladau, heb ddweud wrth neb arall byth. Cofiwch, eich penderfyniad chi fydd pryd rydych chi'n barod i ddweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo, a phwy ddylai'r person hwnnw fod.

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwagle ac amser i chi eich hunan archwilio sut rydych chi'n teimlo a sut rydych chi am fynegi eich hunaniaeth rhywedd. Fe allai hyn gynnwys gwneud ymchwil i wahanol hunaniaethau traws, darllen blogiau neu wylio fideos, ymuno â grŵp lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws cymunedol neu ymchwilio i wahanol ffyrdd o gefnogaeth i chi wrth drawsnewid. Mae'n iawn i chi gymryd eich amser dros hyn; peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ruthro i wneud unrhyw benderfyniadau cyn eich bod chi'n barod.

 

Dweud wrth bobl eraill

Os byddwch chi'n penderfynu eich bod yn barod i ddweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo, meddyliwch pwy rydych chi am siarad â nhw yn gyntaf a gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser i siarad yn rhywle niwtral a diogel. Byddwch yn barod rhag ofn y bydd ganddyn nhw lawer o gwestiynau. Os nad ydyn nhw'n ymateb fel y byddech chi wedi gobeithio, ceisiwch beidio digalonni gormod a rhowch gyfle iddyn nhw ddod i arfer â'r syniad – mae'n bosibl iawn y byddan nhw'n dod i ddeall yn y pen draw.

Efallai y byddwch chi'n gweld budd siarad â'ch Meddyg Teulu neu Glinig Hunaniaeth Rhywedd er mwyn trafod y dewisiadau sydd ar gael i'ch cefnogi. 

 

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan eich ysgol neu'ch coleg

Mae dyletswydd ar eich ysgol i'ch diogelu chi rhag bwlio a gwahaniaethu, ac i'ch cefnogi chi i gael y wybodaeth angenrheidiol er mwyn byw bywyd iach a hapus. Os byddwch chi'n penderfynu eich bod eisiau trawsnewid yn yr ysgol, siaradwch ag athro neu athrawes rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw ynghylch sut rydych chi'n teimlo. Meddyliwch am yr hyn yr hoffech chi iddo ddigwydd nesaf a rhai o'r ystyriaethau ymarferol, fel pwy rydych chi am iddyn nhw gael gwybod a phryd (gan gynnwys athrawon eraill a chyd-ddisgyblion).

Dyma rai o'r pethau y byddwch am eu hystyried o bosibl:

  • ydych chi am newid eich enw ar gofrestr y dosbarth?
  • pa dai bach/ystafelloedd newid y byddech chi fwyaf cyfforddus yn eu defnyddio?
  • ydych chi am newid y wisg ysgol rydych chi'n ei gwisgo?
  • sut ydych chi am i gyd-ddisgyblion gael gwybod?

Fe ddylai ysgolion fod eisiau gwneud yn siŵr eich bod chi'n rhan o'r penderfyniadau yma i'r graddau bod hynny'n bosibl, ond fe allai fod cyfyngiadau ymarferol i'r hyn maen nhw'n gallu ei gynnig. Er enghraifft, mae'n bosibl nad oes tŷ bach niwtral o ran rhywedd yn yr ysgol, felly meddyliwch am yr hyn y gallen nhw ei wneud i sicrhau eich bod chi'n teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus.

Mae'n bosibl y bydd eich ysgol hefyd eisiau cynnwys eich rhieni mewn unrhyw benderfyniadau yn ymwneud â'ch proses o drawsnewid yn yr ysgol, ond does dim rhaid iddyn nhw gysylltu â'ch rhieni os nad ydych chi'n dymuno hynny, oni bai eu bod nhw'n poeni eich bod mewn perygl o niwed. Os ydych chi o dan 16 oed, fe allai fod yn anoddach newid dogfennau'r ysgol heb gytundeb eich rhieni, ond fe ddylai eich ysgol allu eich cefnogi chi mewn llawer o ffyrdd eraill.

Os byddwch chi'n cael ymateb negyddol gan athrawon neu ddisgyblion eraill, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth rywun – rhiant o bosibl, neu athro rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw. Mae dyletswydd ar eich ysgol i'ch diogelu chi rhag bwlio a gwahaniaethu, ac fe ddylen nhw gymryd hyn o ddifrif.

Mae nifer o gamau y gall eich ysgol eu cymryd i sicrhau eu bod yn cynnig amgylchedd diogel a chynhwysol i ddisgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, ac mae Stonewall Cymru yn cynnig hyfforddiant ac adnoddau i gefnogi ysgolion i wneud hynny. E-bostiwch cymru@stonewallcymru.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Newid eich enw a'ch rhywedd ar ddogfennau

Efallai y byddwch chi'n penderfynu eich bod am newid eich enw i un sy'n fwy addas ar gyfer eich hunaniaeth rhywedd, a bod eich hunaniaeth rhywedd yn cael ei hadlewyrchu ar ddogfennau fel eich pasbort.

Does dim rhaid i chi ddilyn proses gyfreithiol er mwyn cychwyn defnyddio enw newydd yng Nghymru, ond gallwch chi newid eich enw gan ddefnyddio dogfen gyfreithiol o'r enw gweithred newid enw er mwyn sicrhau bod eich enw yn cael ei gydnabod ar bob dogfen swyddogol fel eich pasbort. Mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed er mwyn gwneud cais am weithred newid enw, a bydd yn costio £36 i gofrestru eich newid enw ar gofnod cyhoeddus. Os ydych chi o dan 18 oed, bydd rhaid i chi gael caniatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhieni drosoch er mwyn newid eich enw, ac mae modd cofrestru hynny ar weithred newid enw pobl ifanc dan oed.

I newid eich tystysgrif geni er mwyn adlewyrchu eich hunaniaeth rhywedd (ar hyn o bryd dim ond gwrywaidd neu fenywaidd y gallwch eu dewis) mae'n rhaid i chi wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, ond ar hyn o bryd mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed i wneud hynny. Fodd bynnag, fe allwch newid eich pasbort a dogfennau eraill (cardiau banc, cardiau adnabod, ac ati) heb Dystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Er mwyn newid eich pasbort byddai angen llythyr gan eich meddyg neu'ch ymgynghorydd meddygol yn cadarnhau bod eich hunaniaeth rhywedd yn debygol o fod yn barhaol, a thystiolaeth eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft eich gweithred newid enw).

Ble i gael cymorth

Llundain

Clinig Hunaniaeth Rhywedd ‘Charing Cross’ WLMHT

Y Clinig Hunaniaeth Rhywedd yn Hammersmith (sy'n cael ei adnabod weithiau fel Clinig Charing Cross) yw'r clinig hunaniaeth rhywedd hynaf a mwyaf yn y byd ac mae'n gweithredu ers y chwedegau. Maen nhw'n cymryd atgyfeiriadau o bobman yng ngwledydd Prydain ac yn darparu gwasanaethau wedi'u teilwra dan arweiniad gweithwyr proffesiynol cymwys.

Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd

Mae'r Gwasanaeth Datblygu Hunaniaeth Rhywedd yn gweld plant a phobl ifanc (hyd at 18 oed) a'u teuluoedd sy'n profi anawsterau o ran datblygiad hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n anhapus gyda'r label rhywedd a roddwyd arnynt. Mae'r staff yn grŵp amlddisgyblaethol gyda chyfraniadau o seiciatreg plant a'r glasoed, seicoleg, gwaith cymdeithasol, seicotherapi a phediatreg.

Mermaids

Mae Mermaids yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc draws a'u teuluoedd.