LHDTC+ ai peidio, mae system addysg wirioneddol gynhwysol yn fanteisiol i bawb – a dyma pam | Cymru
Log in
What you can do
Young people of colour sit at a table inside and talk and laugh

LHDTC+ ai peidio, mae system addysg wirioneddol gynhwysol yn fanteisiol i bawb – a dyma pam

Mae holl blant a phobl ifanc LHDTC+ yn haeddu addysg sy’n adlewyrchu pwy ydyn nhw. Ymunwch â ni mewn byd sy’n gofalu, yn gweld ac yn gwrando ar bobl ifanc LHDTC+. Stopiwch y bygythiad i addysg LHDTC+ gynhwysol a gwnewch rodd heddiw.

 

Yma yng ngwledydd Prydain, does dim rhaid i bobl sy’n ddigon hen ddychmygu sut beth fyddai byd heb addysg gynhwysol – yn wir, mae llawer ohonon ni wedi byw drwy gyfnod o addysg anghynhwysol.

Roedd Adran 28, sef deddfwriaeth niweidiol a oedd yn gwahardd trafod materion a hunaniaethau LHDTC+ mewn ysgolion a cholegau, mewn grym o 1988 tan 2000 yn yr Alban, a than 2003 yng Nghymru a Lloegr. Felly, mae plentyndod holl fileniaid LHDTC+ Prydain – ac aelodau hynaf Cenhedlaeth Z hyd yn oed – wedi’i greithio gan y ddeddf yma.

Roedd sgil-effeithiau Adran 28 yn mynd ymhell y tu hwnt i’r dosbarth addysg rhyw. Fe greodd amgylchedd lle roedd hunaniaethau LHDTC+ yn cael eu ‘harallu’ ac yn cael eu hystyried fel rhywbeth i fod â chywilydd ohonynt. Drwy ddiffyg amlygrwydd LHDTC+, roedd meysydd chwarae mewn ysgolion yn llawn anwybodaeth, gwybodaeth anghywir a bwlio. Collodd plant a oedd yn darganfod eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd am y tro cyntaf gyfleoedd hollbwysig i gael cefnogaeth neu addysg. Nid yn unig roedd gweithwyr mewn ysgolion yn teimlo na allen nhw drafod perthnasoedd un rhyw, roedden nhw hefyd yn methu â mynd i’r afael â’r gamdriniaeth roedd disgyblion LHDTC+ yn ei phrofi (a disgyblion roedd pobl yn tybio eu bod nhw’n LHDTC+).

 

Gadewch i ni fod yn glir: fe niweidiodd Adran 28 genhedlaeth o bobl ifanc, gyda’u cyfnod yn yr ysgol yn llawn dryswch a phryder. Doedd gan lawer ohonon ni ddim oedolion roedden ni’n ymddiried ynddyn nhw i siarad gyda nhw, ac roedden ni’n teimlo fel petaen ni ar y tu allan mewn llefydd lle dylen ni fod wedi teimlo’n ddiogel.

 

Ffurfiwyd Stonewall mewn ymateb i Adran 28 – ac mae yr un mor bwysig i ni heddiw ag oedd yn 1989. Rydyn ni wedi treulio’r 30 mlynedd diwethaf yn gweithio gydag ysgolion ac athrawon i daclo bwlio ac yn helpu i greu amgylcheddau dysgu lle mae modd i blant a phobl ifanc ffynnu. Ers hynny, mae datblygiad enfawr wedi bod – o ran polisi ac agweddau cymdeithasol. Mae ymchwil ddiweddar yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl Prydain yn meddwl ei bod hi’n gywir bod athrawon mewn ysgolion cynradd yn siarad yn gadarnhaol am wahanol deuluoedd, gan gynnwys teuluoedd LHDTC+, ac y dylai’r Llywodraeth gefnogi ysgolion i gyflwyno cynhwysiant LHDTC+.

Serch hynny, mae plant a phobl ifanc LHDTC+ yn dal i wynebu problemau y byddai modd eu hatal gydag addysg wirioneddol gynhwysol. Dangosodd ein hadroddiad ysgolion yn 2017 bod bwlio ac iaith wrth-LHDTC+ yn dal i fod yn gyffredin yn ysgolion Prydain, a dangosodd ein hadroddiad Shut Out bod cyfuniad o fwlio yn yr ysgol, rhagfarn yn y gweithle, a diffyg cefnogaeth yn y cartref yn gallu cael effaith ddinistriol ar iechyd meddwl pobl ifanc LHDTC+, a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni hefyd wedi gweld mwy a mwy o brotestiadau y tu allan i ysgolion gan bobl sy’n teimlo bod addysg LHDTC+ gynhwysol yn mynd yn groes i hawl rhieni i benderfynu beth mae eu plant yn ei ddysgu. Ledled Ewrop, rydyn ni’n gweld beth sy’n digwydd os nad yw’r safbwyntiau yma’n cael eu herio. Yn Hwngari, pasiwyd deddf yn gwahardd addysgu cynnwys LHDTC+ mewn ysgolion – gan adleisio Adran 28.

Ac er ein bod ni’n clywed pryderon ynghylch a yw addysg gynhwysol yn ‘briodol i oedran’, rydyn ni’n gwybod drwy ein hymchwil nad oes modd i addysg gynhwysol aros.



Mae bwlio gwrth-LHDTC+ yn gyffredin hyd yn oed mewn ysgolion cynradd, ac efallai y byddai modd osgoi hyn pe bai plant yn cael cefnogaeth i ddatblygu agweddau cynhwysol o oedran ifanc. 

Dyna pam ei bod mor bwysig deall sut beth yw addysg LHDTC+ gynhwysol yn ymarferol, a’r manteision sydd i bawb. Un rhan enfawr o addysg gynhwysol yw addysgu am barchu a derbyn pobl o bob cefndir – boed hynny’n hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ffydd, dosbarth neu anabledd. Wrth ei gwraidd, mae addysg gynhwysol yn gadarnhad eich bod chi’n bodoli, a bod eich hunaniaeth yn ddilys. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pob plentyn yn profi amgylchedd yn yr ysgol lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn hapus.

Dychmygwch fod yn 14 oed, o deulu sydd heb siarad yn gadarnhaol am bobl LHDTC+ erioed, ac yn amau eich bod chi’n hoyw. Yna, rydych chi’n cael gwers Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb am sut beth yw perthynas iach, neu wers Saesneg ar sonedau Shakespeare, ac mae eich athrawon yn trafod cyplau un rhyw a hunaniaethau deurywiol yn agored ac yn ymlaciol fel rhan o’u gwers. Neu dychmygwch ddechrau yn yr ysgol gynradd yn blentyn â rhieni lesbiaidd, a’ch athro yn darllen llyfr i’r dosbarth cyfan am ferch fach gyda dwy fam gariadus. Mae’n rhoi arwydd clir eich bod chi’n cael eich gweld a’ch bod yn ddiogel – ac yn dangos i bob aelod o’r dosbarth y dylen nhw barchu a gwerthfawrogi’r bobl o’u cwmpas.

Er mwyn i bob person ifanc fod yn barod ar gyfer bywyd mewn cymdeithas fodern a chymunedau amrywiol, mae’n hanfodol bod eu cwricwlwm yn adlewyrchu amrywiaeth lawn y byd maen nhw’n byw ynddo. Mae hyn yn cynnwys addysgu am bobl a themâu LHDTC+, a chynnig gwybodaeth o ansawdd uchel am beth allai eu bywydau gynnwys. Mae llawer o bobl ifanc yn ymwybodol o’u hunaniaethau o oedran cynnar, a byddan nhw am ddysgu beth allai bod yn LHDTC+ ei olygu iddyn nhw. Os na all oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw yn yr ysgol rannu’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, bydd plant a phobl ifanc yn troi at y rhyngrwyd neu eu ffrindiau am atebion. Ar y gorau, mae hyn yn eu rhoi mewn perygl o gael gwybodaeth anghywir. Ar y gwaethaf, mae hyn yn rhoi pobl ifanc LHDTC+ mewn perygl o gael eu niweidio.

 

Felly gofynnwn i chi ymuno gyda ni i greu byd lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn tyfu i fyny yn gwybod y gallan nhw fod yn nhw eu hunain, ac y byddan nhw’n cael eu caru am fod yn nhw eu hunain.

Byd lle mae pobl yn cael eu hannog i dyfu i fyny gydag agweddau cynhwysol ac yn derbyn eraill. Oherwydd mae pob plentyn yn haeddu addysgu sy’n dathlu’r amrywiaeth hyfryd sy’n bodoli yn ein byd. 

 

Mae holl blant a phobl ifanc LHDTC+ yn haeddu addysg sy’n adlewyrchu pwy ydyn nhw. Ymunwch â ni mewn byd sy’n gofalu, yn gweld ac yn gwrando ar bobl ifanc LHDTC+. Stopiwch y bygythiad i addysg LHDTC+ gynhwysol a gwnewch rodd heddiw.