Gofalu. Gweld. Gwrando.
Mae pob plentyn a pherson ifanc LHDTC+ yn haeddu addysg sy’n adlewyrchu pwy ydyn nhw. Ymunwch â ni mewn byd sy’n gofalu, yn gweld ac yn gwrando ar bobl ifanc LHDTQ+.
Mae’r pethau rydyn ni’n eu dysgu yn yr ysgol yn aros gyda ni am byth – ac nid dim ond mathemateg rydyn ni’n ei feddwl.
Yn ystod y blynyddoedd pwysig yma, rydyn ni’n dysgu amdanon ni ein hunain, am ein gilydd, ac am yr holl wahaniaethau hyfryd yn ein byd. Rydyn ni hefyd yn dysgu ble mae ein lle ni yn y byd. Mae pob plentyn, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd, yn haeddu teimlo eu bod nhw’n perthyn.
Dyna pam fod addysg gynhwysol yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn Stonewall. Yn wir, dyma’r rheswm rydyn ni’n bodoli. Fe gawson ni ein ffurfio yn 1989 mewn ymateb i Adran 28, sef deddfwriaeth ddinistriol a oedd, i bob pwrpas, yn gwahardd trafod hunaniaethau a pherthnasoedd un rhyw yn ysgolion Prydain, ac fe gafodd effaith negyddol ar genedlaethau o bobl LHDTC+.
Er i ni lwyddo i ddiddymu’r gyfraith niweidiol yma, heddiw rydyn ni’n dal i weithio i sicrhau bod modd i bobl LHDTC+ wireddu eu potensial drwy eu bywydau. Mae’r gwaith yna’n dechrau gyda hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ mewn ysgolion a cholegau. Rydyn ni am i bobl ifanc brofi addysg sy’n adlewyrchu pwy ydyn nhw, ac sy’n darparu’r fframwaith sydd ei angen arnyn nhw i dyfu i fod yn oedolion balch a sicr ohonyn nhw’u hunain.
Rydyn ni’n gwybod drwy ein gwaith bod modd i addysg gynhwysol newid bywydau. Ac nid i bobl LHDTC+ yn unig. Mae ein hymchwil yn dangos bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael budd o ddysgu am ystod eang ac amrywiol o bobl sy’n rhan o’u cymunedau, pan maen nhw’n deall y gwahanol ffyrdd y gall teuluoedd edrych, a phan maen nhw’n teimlo wedi’u hadnabod a’u parchu gan eu hathrawon a’u cyfoedion.
Darllenwch isod am y gwaith hanfodol rydyn ni’n ei wneud gyda sefydliadau addysg ledled Prydain – ac ymunwch â ni i adeiladu dyfodol sy’n gofalu, yn gweld, ac yn gwrando ar bob plentyn a pherson ifanc.
Stopiwch y bygythiadau i addysg LHDTC+ gynhwysol
Ledled Ewrop, mae casineb gwrth-LHDTC+ yn cynyddu, ac mae addysg gynhwysol mewn perygl. Helpwch ni i adeiladu dyfodol lle mae pobl ifanc LHDTC+ yn parhau i gael addysg sy’n gofalu, yn gweld, ac yn gwrando arnynt.
Cyfrannwch heddiwLAddysg LHDTQ-gynhwysol
Addysg LHDTQ-gynhwysol
Darganfyddwch fwy
Darllenwch ein blog am sut mae system addysg wirioneddol gynhwysol yn fanteisiol i bawb, LHDTC+ ai peidio
Popeth sydd angen i chi ei wybod
Darllenwch brofiadau rieni, athrawon , cyn-ddisgyblion a phobl ifanc am sut mae addysg LHDTC+ gynhwysol yn newid bywydau
Dysgwch mwy am ein gwaith gydag ysgolion a cholegau