Chwaraewch Ran
Geirfa
Ace | Term ymbarél yw ace, sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth mewn lefelau o atyniad rhamantus a/neu rywiol, gan gynnwys dim atyniad. Gall pobl ace ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) anrhywiol, aromantig, demis a grey-A. |
Ace |
Ailbennu rhywedd | Ffordd arall o ddisgrifio proses drawsnewid rhywun. Fel arfer bydd mynd drwy broses ailbennu rhywedd yn golygu cael rhyw fath o driniaeth feddygol, ond gall hefyd olygu newid enwau, rhagenwau, gwisgo'n wahanol a byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'r term yn cael ei ddehongli ymhellach yng nghod ymarfer Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae'n derm sy'n destun llawer o drafodaeth ac yn un a ddylai gael ei adolygu yn ôl Grŵp Cynghori Traws Stonewall. | Gender reassignment |
Anneuaidd | Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu hunaniaeth rhywedd yn ffitio'n syml i ddewis deuaidd o 'ddyn' neu 'fenyw'. Mae hunaniaethau anneuaidd yn amrywiol a gallant gynnwys pobl sy'n arddel rhai elfennau o hunaniaethau deuaidd, tra bod eraill yn eu gwrthod yn llwyr. | Non-binary |
Bwtsh | Term sy'n cael ei ddefnyddio yn niwylliant LHD i ddisgrifio rhywun sy'n mynegi eu hunain mewn ffordd nodweddiadol o wrywaidd. Mae hunaniaethau eraill sy'n dod o dan ymbarél bwtsh, fel 'bwtsh meddal' a 'bwtsh garreg'. Ddylech chi ddim defnyddio'r termau yma am neb oni bai eich bod yn gwybod eu bod nhw'n arddel y term dan sylw. |
Butch |
Camenwi | Camenwi yw defnyddio'r enw a roddwyd i rywun adeg ei eni, er eu bod nhw wedi newid eu henw ers hynny. Mae'r term yn aml yn cael ei gysylltu â phobl draws sydd wedi newid eu henwau fel rhan o'r broses o drawsnewid. | Deadnaming |
Cwestiynu | Y broses o ystyried eich cyfeiriadedd rhywiol a/neu eich hunaniaeth rhywedd chi eich hunan. | Questioning |
Cwiar/Queer | Term a ddefnyddir gan bobl sydd eisiau gwrthod labeli penodol ar gyfer cyfeiriadedd rhamantus, cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd yw queer. Gall fod yn ffordd hefyd o wrthod normau tybiedig y gymuned LHDT (hiliaeth, maintiaeth, ablaeth ac ati). Er bod rhai pobl LHDT yn ystyried y gair yn sarhad, cafodd ei adfeddiannu ar ddiwedd yr wythdegau gan y gymuned cwiar, sydd wedi'i berchnogi. | Queer |
Cydryweddol | Rhywun y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Dyma'r term am bawb heblaw pobl draws. | Cisgender or Cis |
Cyfeiriadedd | Term ymbarél yw cyfeiriadedd ar gyfer disgrifio atyniad rhywun at bobl eraill. Gall yr atyniad yma fod yn rhywiol (cyfeiriadedd rhywiol) a/neu’n rhamantus (cyfeiriadedd rhamantus). Mae’r termau yma’n cyfeirio at ymdeimlad rhywun o’u hunaniaeth yn seiliedig ar atyniad, neu ddiffyg atyniad. Mae cyfeiriadeddau yn cynnwys, ymhlith eraill, lesbiaidd, hoyw, deurywiol, anrhywiol a syth. |
Orientation |
Cyfeiriadedd Rhamantus | Atyniad rhamantus rhywun at bobl eraill, neu ddiffyg atyniad rhamantus. Ynghyd â chyfeiriadedd rhywiol, mae hwn yn rhan o hunaniaeth cyfeiriadedd rhywun. Mae Stonewall yn defnyddio’r term ‘cyfeiriadedd’ fel term ymbarél sy’n cynnwys cyfeiriadeddau rhywiol a rhamantus. |
Romantic Orientation |
Cyfeiriadedd rhywiol | Atyniad rhywiol rhywun at bobl eraill, neu ddiffyg atyniad rhywiol. Ynghyd â chyfeiriadedd rhamantus, mae hwn yn rhan o hunaniaeth cyfeiriadedd rhywun. Mae Stonewall yn defnyddio’r term ‘cyfeiriadedd’ fel term ymbarél sy’n cynnwys cyfeiriadeddau rhywiol a rhamantus. |
Sexual orientation |
Cyfunrywiol | Gellir ystyried hwn yn derm mwy meddygol i ddisgrifio rhywun sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at rywun o'r un rhywedd. Mae'r term 'hoyw' yn fwy cyffredin bellach. | Homosexual |
Cymhwysedd Gillick | Term sy’n cael ei ddefnyddio mewn cyfraith feddygol i benderfynu a yw plentyn (o dan 16 oed) yn gallu cydsynio i’w driniaeth feddygol ei hun, heb orfod cael caniatâd gan riant neu heb orfod rhoi gwybod i riant. | Gillick Competence |
Cynghreiriad | Rhywun syth a/neu gydryweddol (fel arfer) sy'n cefnogi aelodau o'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. | Ally |
Datgelu heb gydsyniad ('Owtio') | Pan fydd cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd person lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws yn cael ei ddatgelu i rywun arall heb eu cydsyniad. | Outed |
Deuffobia | Ofn neu atgasedd o rywun sy'n arddel hunaniaeth ddeurywiol sy'n seiliedig ar ragfarn neu agweddau, credoau neu farn negyddol am bobl ddeurywiol. Gall bwlio deuffobaidd gael ei dargedu at bobl sy'n ddeurywiol, neu bobl y mae rhai yn credu eu bod yn ddeurywiol. | Biphobia |
Deurywiol | Term ymbarél yw deurywiol, sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at fwy nag un rhywedd. Gall pobl ddeurywiol ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) Bi, pan, deu-chwilfrydig, cwiar a hunaniaethau eraill nad ydyn nhw'n unrhywiol neu'n unrhamantus. Yn aml defnyddir bi i ddisgrifio'r term. |
Bi |
Dod allan | Pan fydd rhywun yn dweud wrth rywun/wrth bobl am y tro cyntaf eu bod nhw'n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu'n draws. | Coming out |
Dyn trawsryweddol | Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw benywaidd adeg ei eni, ond sy'n arddel hunaniaeth dyn ac yn byw fel dyn. Yn aml bydd y term yn cael ei fyrhau i 'dyn traws', neu weithiau FTM, sef talfyriad o'r Saesneg am 'benyw-i-wryw'. | Transgender man |
Dysfforia rhywedd | Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pan fydd rhywun yn profi anesmwythder neu drallod oherwydd bod gwrthdaro rhwng eu hunaniaeth rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Hwn hefyd yw'r diagnosis clinigol ar gyfer rhywun nad yw'n teimlo'n gyfforddus gyda'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. |
Gender dysphoria |
Ffem | Term sy'n cael ei ddefnyddio yn niwylliant LHD i ddisgrifio rhywun sy'n mynegi eu hunain mewn ffordd nodweddiadol o fenywaidd. Mae hunaniaethau eraill sy'n dod o dan ymbarél ffem, fel 'ffem isel', 'ffem uchel' a 'ffem galed'. Ddylech chi ddim defnyddio'r termau yma am neb oni bai eich bod yn gwybod eu bod nhw'n arddel y term dan sylw. |
Femme |
Heterorywiol / Syth | Term sy'n cyfeirio at ddyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus at fenywod neu at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus at ddynion. | Heterosexual / Straight |
Homoffobia | Ofn neu atgasedd o rywun sy'n arddel hunaniaeth lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol sy'n seiliedig ar ragfarn neu agweddau, credoau neu farn negyddol. Gall bwlio homoffobaidd gael ei dargedu at bobl sy'n lesbiaidd, hoyw neud ddeurywiol, neu bobl y mae rhai yn credu eu bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. | Homophobia |
Hoyw | Term i ddisgrifio dyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus l tuag at ddynion. Mae hefyd yn derm cyffredinol ar gyfer rhywioldeb hoyw a lesbiaidd – mae rhai menywod yn defnyddio'r term hoyw i ddiffinio eu hunain yn hytrach na lesbiaidd. | Gay |
Hunaniaeth rhywedd | Ymdeimlad mewnol rhywun o'u rhywedd nhw eu hunain, boed hynny'n wrywaidd, yn fenywaidd neu'n rhywbeth arall (gweler y term 'anneuaidd'). | Gender identity |
Lesbiaidd | Term sy'n cyfeirio at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantus tuag at fenywod. | Lesbian |
Lesboffobia | Ofn neu atgasedd at rywun oherywdd eu bod yn lesbiad neu fod rhywun yn tybio eu bod yn lesbiad. | Lesbophobia |
LHDT | Yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Gan fod yr acronym yn anghyffredin yn Gymraeg, mae tueddiad i ysgrifennu'r geiriau'n llawn wrth gyflwyno'r acronym am y tro cyntaf yn ysgrifenedig neu ar lafar yn y Gymraeg. | LGBT |
Menyw drawsryweddol | Term sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun a roddwyd mewn categori rhyw gwrywaidd adeg ei geni, ond sy'n arddel hunaniaeth menyw ac yn byw fel menyw. Yn aml bydd y term yn cael ei fyrhau i 'menyw draws', neu weithiau MTF, sef talfyriad o'r Saesneg am 'gwryw-i-fenyw'. | Transgender woman |
Mynegiant Rhywedd | Sut mae unigolyn yn dewis mynegi eu rhywedd, yng nghyd-destun disgwyliadau cymdeithasol o rywedd. Fodd bynnag, nid oes rheidrwydd bod unigolyn nad yw'n cydymffurfio â'r disgwyliadau cymdeithasol o ran rhywedd yn arddel hunaniaeth draws. | Gender expression |
Niwroamrywiol | Cysyniad lle mae gwahaniaethau niwrolegol yn cael eu cydnabod a'u parchu yn yr un ffordd ag unrhyw wahaniaeth dynol arall. | Neurodiverse |
Panrywiol | Term sy'n cyfeirio at rywun nad yw'n cael ei gyfyngu o ran atyniad rhywiol at bobl eraill ar sail rhyw biolegol, rhywedd neu hunaniaeth rhywedd y bobl hynny. Yn aml defnyddir pan i ddisgrifio'r term. |
Pan |
Pasio | Pan fydd rhywun yn cael eu hystyried, ar gipolwg, yn ddyn cydryweddol neu'n fenyw gydryweddol. Cydryweddol yw'r term am rywun y mae eu hunaniaeth rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Gallai hyn gynnwys nodweddion rhywedd corfforol (gwallt neu ddillad) a/neu ymddygiad sy'n cael ei gysylltu'n hanesyddol neu'n ddiwylliannol â rhywedd penodol. |
Passing |
Person gydag hanes traws | Rhywun sy'n uniaethu fel gwryw neu fenyw neu'n ddyn neu ddynes, ond a gafodd ei neilltuo i'r rhyw arall ar enedigaeth. Defnyddir hyn yn gynyddol gan bobl i gydnabod gorffennol traws. | Person with a trans history |
Rhagenw | Geiriau rydyn ni'n eu defnyddio i gyfeirio at rywedd rhywun wrth sgwrsio – er enghraifft, 'fe' neu 'hi'. Mae'n well gan rai i bobl gyfeirio atyn nhw mewn iaith sy'n niwtral o ran rhywedd a defnyddio rhagenwau fel 'nhw' yn lle 'fe' neu 'hi'. | Pronoun |
Rhyngryw | Term a ddefnyddir i ddisgrifio person a all fod â nodweddion biolegol y ddau ryw, neu nad yw eu nodweddion biolegol yn cyd-fynd â rhagdybiaethau cymdeithasol am yr hyn sy'n gwneud rhywun yn wrywaidd neu'n fenywaidd. Gall pobl ryngryw arddel hunaniaeth wrywaidd, hunaniaeth fenywaidd neu hunaniaeth anneuaidd. Mae Stonewall yn gweithio gyda grwpiau rhyngryw i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth i'w partneriaid a rhanddeiliaid am ardaloedd o anfantais a brofir gan bobl rhyngryw ond nid yw, ar ôl trafod ag aelodau o'r gymuned ryngryw, yn cynnwys materion rhyngryw fel rhan o'i cylch gwaith presennol ar hyn o bryd. |
Intersex |
Rhyw | Mae pobl yn cael eu rhoi mewn categori rhyw ar sail nodweddion rhyw sylfaenol (yr organau cenhedlu) a'r swyddogaethau atgynhyrchu. Weithiau mae'r termau 'rhyw' a 'rhywedd' yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol i olygu 'gwrywaidd' neu 'fenywaidd'. | Sex |
Rhywedd | Yn aml yn cael ei ddatgan mewn termau gwrywaidd a benywaidd, mae rhywedd yn bennaf yn cael ei benodi drwy ddiwylliant ac yn cael ei dybio o'r rhyw cafwyd ei geni ynddo. | Gender |
Traws | Term ymbarél i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng eu rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo. Gall pobl draws ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) traws, trawsryweddol, croeswisgwr, anneuaidd, genderqueer (GQ). |
Trans |
Trawsffobia | Ofn neu atgasedd o rywun yn seiliedig ar y ffaith ei bod yn draws, gan gynnwys gwadu/gwrthod derbyn eu hunaniaeth rhywedd. | Transphobia |
Trawsnewid | y camau y bydd person traws yn eu cymryd o bosibl er mwyn byw yn y rhywedd maen nhw'n ei arddel. Bydd proses drawsnewid pawb yn golygu pethau gwahanol. I rai bydd yn golygu triniaeth feddygol o ryw fath, fel therapi hormonau a llawdriniaeth, ond nid pob person traws sy'n gallu nac yn dymuno cael triniaeth o'r fath. Gall trawsnewid hefyd olygu pethau fel dweud wrth ffrindiau a theulu, gwisgo'n wahanol a newid dogfennau swyddogol. |
Transitioning |
Trawsrywiol | Yn y gorffennol roedd hwn yn derm mwy meddygol (gweler hefyd 'cyfunrywiol') er mwyn cyfeirio at rywun nad yw eu rhywedd yr un peth â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni, neu lle mae gwrthdaro rhwng eu rhywedd a'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo. Mae'r term yn dal i gael ei ddefnyddio gan rai, ond mae'n well gan lawer ddefnyddio'r termau 'traws' neu 'trawsryweddol'. |
Transsexual |
Tystysgrif Cydnabod Rhywedd | Mae'r dystysgrif hon yn galluogi pobl draws i gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'r rhywedd maen nhw'n ei arddel, ac i gael tystysgrif geni newydd. Fydd pob person traws ddim yn gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, ac mae'n rhaid i chi fod yn ddeunaw oed neu'n hŷn er mwyn gwneud cais. Does dim angen Tystysgrif Cydnabod Rhywedd arnoch chi er mwyn newid eich rhywedd yn y gwaith nac i newid eich rhywedd yn gyfreithiol ar ddogfennau eraill fel eich pasbort. |
Gender Recognition Certificate (GRC) |