Polisi cwcis | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Polisi cwcis

Cwcis a'u manteision i chi

Mae mwy neu lai pob gwefan – gan gynnwys yr un yma – yn storio ffeiliau bach o'r enw cwcis ar eich cyfrifiadur neu'ch ffôn symudol pan fyddwch chi'n pori. Mae cwcis yn cadw gwybodaeth er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar wefan.

Mae angen eich caniatâd chi arnon ni i ddefnyddio cwcis. Does dim rhaid i chi roi caniatâd i ni, ond pe baech chi'n gwneud hynny, byddai'n sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar y wefan. Gallwch newid eich penderfyniad pryd bynnag hoffech chi.

Mae rhai gwefannau yn defnyddio cwcis er mwyn eich adnabod chi'n bersonol neu rannu eich gwybodaeth gyda hysbysebwyr. Dydyn ni ddim yn gwneud hynny – mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni. Caiff ein cwcis ni eu defnyddio i sicrhau bod y wefan yn gweithio yn y ffordd rydych chi'n disgwyl iddi wneud – yn llwytho'n gyflym, yn cofio eich gosodiadau, ac yn hawdd ei rhannu gyda'ch ffrindiau ar Facebook neu Twitter.

  • I fod yn hollol glir, dydyn ni ddim yn defnyddio cwcis:
  • I gasglu unrhyw wybodaeth y byddai modd eich adnabod drwyddi (heb eich caniatâd penodol)
  • I rannu data gyda rhwydweithiau hysbysebu
  • I rannu data y mae modd eich adnabod drwyddo gyda thrydydd partïon
  • I dalu comisiwn am werthu

Rhoi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis - neu beidio

Yn ôl y gyfraith, mae angen eich caniatâd chi arnon ni i storio cwcis ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais. Fel llawer o sefydliadau, mae angen i ni dreulio amser yn sicrhau bod y wefan yn cydymffurfio â'r gyfraith, ac rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i sicrhau y gallwn gofnodi caniatâd gan ein hymwelwyr.

Tan hynny, os yw gosodiadau eich porwr we yn derbyn cwcis ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol, rydyn ni'n cymryd yn ganiataol eich bod yn hapus i ni eu defnyddio. Ar y dudalen yma byddwn ni'n dweud wrthoch chi sut i ddileu neu wrthod cwcis os nad ydych chi'n hapus i ni eu storio nhw – ond cofiwch: mae'n bosib na fydd y wefan yn gweithio yn y ffordd y byddech chi'n ei disgwyl os na allwn ni eu defnyddio.

Os ydych chi wir ddim eisiau i ni ddefnyddio cwcis – a bod dim ots ganddoch chi y gall hynny newid eich profiad ar ein gwefan – mae rhwydd hynt i chi eu diffodd neu eu dileu. Os hoffech chi wneud hynny, bydd y canllaw defnyddiol yma o gymorth i chi.

Mwy am ein cwcis

Ein cwcis ni

Mae'r cwcis rydyn ni'n eu defnyddio yn helpu i sicrhau:

  • Bod y safle'n cofio eich gosodiadau chwilio
  • Y gallwch ychwanegu sylwadau i'n safle drwy Facebook
  • Bod y wefan yn cofio eich dewisiadau o ran lliw, maint ffont ac edrychiad.

Does dim ffordd o atal y cwcis yma rhag cael eu storio ar eich cyfrifiadur heblaw drwy beidio defnyddio'r wefan. Gallwch ddileu'r cwcis gan ddefnyddio'ch porwr ar ôl gadael y wefan.

Trydydd partïon

Rydyn ni'n hoffi rhannu fideos YouTube gyda chi i ddangos sut mae eich cefnogaeth yn ein helpu i wella bywydau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Mae YouTube eisiau llwytho cwcis 'trydydd parti' i lawr i'ch cyfrifiadur drwy ein gwefan. Does dim byd y gallwn ni wneud am hynny ar hyn o bryd, heb dynnu pob fideo i lawr – ac ni fyddai hynny'n ymateb teg i ymwelwyr eraill.

Google sy'n berchen ar YouTube, ac mae hyn wedi'i gynnwys yn eu polisi preifatrwydd nhw. Darllenwch bolisi preifatrwydd Google er mwyn canfod sut maen nhw'n defnyddio eich data. Mae rhwydd hynt i chi analluogi cwcis Youtube drwy osodiadau eich porwr, neu eu dileu o'ch cyfrifiadur neu'ch dyfais ar unrhyw adeg – ond cofiwch, os byddwch chi'n dewis eu hanalluogi, y bydd yn newid y ffordd rydych chi'n gweld ac yn defnyddio ein gwefan.

Cwcis gwefannau cymdeithasol

Rydyn ni'n gwybod bod cefnogwyr Stonewall yn hoff o gael dweud eu dweud am ein gwaith, a rhannu gwybodaeth gyda'u ffrindiau. Felly, mae ganddon ni fotymau 'Hoffi' a 'Rhannu' ar rai tudalennau er mwyn eich helpu i gysylltu â thudalennau ar Facebook, Twitter a gwefannau eraill.

Rydyn ni'n defnyddio teclynnau gan AddThis i gynnig llawer o ffyrdd i chi rannu tudalennau. Darllenwch eu polisi preifatrwydd er mwyn dysgu sut maen nhw'n defnyddio cwcis. Gan eu bod nhw'n cysylltu â llawer o wefannau, mae'n bosib y bydd gennych chi osodiadau preifatrwydd hollol wahanol ar gyfer pob gwefan, ac mae rhwydd hynt i chi ddewis hynny. Eto, bydd hyn yn newid y ffordd y byddwch chi'n gallu defnyddio ein teclynnau rhannu.

Cwcis ystadegau ymwelwyr anhysbys

Rydyn ni eisiau gwybod bod ein gwefan yn ein helpu i frwydro yn erbyn homoffobia, deuffobia a thrawsffobia – ac er mwyn gwneud hynny mae angen i ni wneud yn siŵr ei bod yn ymddangos, yn teimlo ac yn darllen yn dda i'n hymwelwyr. Er mwyn ein helpu i wneud hynny, rydyn ni'n defnyddio Google Analytics i ddysgu am ein hymwelwyr – gan gynnwys ym mha wlad maen nhw, pa fath o gyfrifiadur neu ddyfais maen nhw'n ei defnyddio, am ba mor hir maen nhw'n darllen tudalennau, a pha dudalennau maen nhw'n edrych arnynt. Nid i adnabod defnyddwyr unigol mae hyn – ond i gael syniad clir o sut mae angen i ni wella'r wefan fel ei bod yn gweithio'n dda i bawb.

Mae Google Analytics hefyd yn ein helpu i ddysgu sut mae pobl yn clywed am y wefan – er enghraifft, pa beiriannau chwilio maen nhw'n eu defnyddio, a pha eiriau maen nhw'n eu defnyddio i chwilio. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod modd i lawer mwy o bobl ddysgu am yr hyn rydyn ni'n ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb.

Darllenwch bolisi preifatrwydd Google Analytics er mwyn dysgu sut maen nhw'n defnyddio eich data.

Diffodd cwcis

Os ydych chi wir ddim eisiau i ni ddefnyddio cwcis – a bod dim ots ganddoch chi y gall hynny newid eich profiad ar ein gwefan – mae rhwydd hynt i chi eu diffodd neu eu dileu. Os hoffech chi wneud hynny, bydd y canllaw defnyddiol yma o gymorth i chi.

Os ydych chi'n poeni am ysbïwedd – rhaglenni slei sy'n eich dilyn ac yn targedu hysbysebion atoch – rydyn ni eisiau bod yn hollol glir nad ydyn ni'n eu ddefnyddio. Mae'r rhan fwyaf o raglenni gwrth-ysbïwedd yn dileu'r cwcis maen nhw'n meddwl sy'n dod o ysbïwedd – ac, fel dywedon ni, gallwch wneud hynny gyda chwcis o'r wefan yma. Gallwch ddysgu mwy am reoli cwcis gyda rhaglenni gwrth-ysbïwedd.

 

Y cwcis mae Stonewall yn eu defnyddio:

Enw Cwci Disgrifiad
_ga Defnyddir gan Google Analytics i wahaniaethu rhwng defnyddwyr.
_gid Defnyddir gan Google Analytics i wahaniaethu rhwng defnyddwyr.
_gat Defnyddir gan Google Analytics i reoli gofynion.
__utma Defnyddir gan Google Analytics i wahaniaethu rhwng defnyddwyr a sesiynau.
__utmt Defnyddir gan Google Analytics i reoli gofynion.
__utmb Defnyddir gan Google Analytics i ganfod sesiynau/ymweliadau newydd.
__utmc Defnyddir gan Google Analytics i ganfod sesiynau/ymweliadau newydd.
__utmz Defnyddir gan Google Analytics i ganfod tarddiad traffig neu ymgyrch sy’n esbonio sut mae’r defnyddiwr wedi cyrraedd y wefan.
__utmv Defnyddir gan Google Analytics i storio data penodedig.
has_js Defnyddir i gofnodi a yw’ch porwr wedi galluogi JavaScript.
cookie-agreed Yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn cwcis ar y wefan.
selected-language Yn cofnodi dewisiadau iaith defnyddiwr.
selected-language-www.stonewallcymru.org.uk Yn cofnodi dewisiadau iaith defnyddiwr.
ASP.NET_SessionId Yn creu ID sesiwn unigryw ar gyfer defnyddiwr.
Cookie name Description
_ga Used by Google Analytics to distinguish users.
_gid Used by Google Analytics to distinguish users.
_gat Used by Google Analytics to manage requests.
__utma Used by Google Analytics to distinguish users and sessions. 
__utmt Used by Google Analytics to manage requests.
__utmb Used by Google Analytics to determine new sessions/visits.
__utmc Used by Google Analytics to determine new sessions/visits.
__utmz Used by Google Analytics to determine the traffic source or campaign that explains how the user reached the site.
__utmv Used by Google Analytics to store custom data.
has_js Used to record whether your browser has JavaScript enabled.
cookie-agreed Records a user's acceptance of cookies on the site.
selected-language Records a user's language preferences.
selected-language-www.stonewallcymru.org.uk Records a user's language preferences.
ASP.NET_SessionId Creates a unique session ID for a user.
stonewall_blueprint_session Used by Stonewall campaign tool, expires within two hours.