Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Prydain
Hero box
Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Prydain
Aseswch gyflawniadau eich sefydliad a'i gynnydd ar gydraddoldeb LHDT.
Mae cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y mynegai yn dangos eu gwaith mewn 10 maes polisi ac arfer cyflogaeth. Mae staff y sefydliad hefyd yn cwblhau arolwg dienw am eu profiadau o amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.
Yna bydd sefydliadau'n cael sgôr, sy'n eu galluogi nhw i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a lle mae angen iddyn nhw ganolbwyntio'u hymdrechion, yn ogystal â gweld sut maen nhw'n cymharu â'u sector a'u rhanbarth. Caiff y 100 sefydliad sy'n perfformio orau eu dathlu'n gyhoeddus.
Mae Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall yn cael adborth manwl sydd wedi'i deilwra ar eu cyflwyniad.
100 Cyflogwr Gorau 2019
Porwch drwy'r cyflogwyr gorau, enillwyr gwobrau a mwy
Cwestiynau cyffredin
Mae'r holl wybodaeth am sut i gyflwyno cais, a faint o amser mae'n ei gymryd, ar gael yma
Cyflwyniadau ar gyfer 2020
Bydd cyflwyniadau ar gyfer Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle 2020 yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Pam cymryd rhan?
Yr hyn mae ein cyfranogwyr yn ei ddweud
Left column
Right column
Quote wrapper
Pam cymryd rhan?
Asesu'ch gwaith
Bydd y Mynegai yn asesu eich gwaith drwy ofyn cyfres o gwestiynau am bethau y gallech fod wedi'u gwneud. Rydyn ni'n rhannu'r cwestiynau i wahanol adrannau – polisïau gweithwyr, cylch oes gweithwyr, grwpiau rhwydwaith staff, cynghreiriaid a modelau rôl, uwch arweinyddiaeth, monitro, caffael, a chwsmeriaid, defnyddwyr gwasanaeth a chleientiaid.
Rydyn ni wedi datblygu ein cwestiynau yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad o weithio gyda chyflogwyr. Lle bynnag rydych chi arni ar eich taith i gynnwys pobl, gall y Mynegai helpu i lywio'ch cynnydd.
Deall profiadau eich gweithwyr
Mae deall profiadau bywyd eich gweithwyr yn hanfodol ar gyfer cynhwysiant. Dylent fod yn sail uniongyrchol i'r newidiadau sy'n cael eu gwneud yn eich gweithle.
Bydd y Mynegai yn rhoi cipolwg i chi ar brofiadau staff drwy arolwg dienw. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw hyrwyddo'r arolwg ymhlith eich cyflogeion, a gadael y gweddill i ni.
Bydd Hyrwyddwyr Amrywiaeth yn cael crynodeb o'r arolwg, a fydd yn dangos barn, agweddau a phrofiadau eich gweithwyr. Byddwch hefyd yn gallu cymharu data eich sefydliad â chyfartaleddau'r sector a'r rhanbarth.
Dangos eich ymrwymiad
Mae cymryd rhan yn y Mynegai yn ffordd wych o ddangos eich ymrwymiad i gydraddoldeb i bobl LHDT. Mae'n dangos bod gwneud eich gweithle, eich gwasanaethau a'ch cynhyrchion yn gynhwysol o bobl LHDT yn flaenoriaeth gennych.
Rydyn ni'n dathlu 100 Cyflogwr Gorau Stonewall o blith y cyflwyniadau i'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle sydd wedi sgorio uchaf. Os cyrhaeddwch y 100 safle uchaf, gallwch ddefnyddio'r logo 100 Cyflogwr Gorau i hyrwyddo'ch llwyddiant.
Llunio cynllun gweithredu
Pan fyddan nhw'n defnyddio'r Mynegai fel fframwaith datblygiadol y bydd cyflogwyr yn cael y bydd mwyaf ohono.
Un nodwedd o'r rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth yw cael adborth ar eich cyflwyniad i'r Mynegai. Unwaith y byddwn wedi adolygu eich gwaith, byddwn yn rhoi adborth manwl yn ysgrifenedig ac ar lafar i chi. Byddwn ni hefyd yn rhoi enghreifftiau o arferion gorau i chi a ffyrdd y gallwn eich cefnogi ymhellach.
Bydd gwybod beth rydych chi'n ei wneud yn dda a beth sydd angen i chi ei wella yn gymorth i chi ddatblygu cynllun gweithredu cadarn.