Y gwir am bobl draws | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Y gwir am bobl draws

Atebion i'r cwestiynau cyffredin

Yn ddiweddar mae yna benawdau go frawychus am bobl draws mewn papurau newydd, ar y we neu ar y teledu.

Rydym wedi datblygu’r tudalen yma er mwyn ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin sy’n cael eu gofyn am bobl draws, ac i daclo rhai o’r camdybiaethau rydych efallai wedi’i gweld yn y cyfryngau.

Faint o bobl draws sy’n byw yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd?

Dydyn ni ddim yn gwybod. Does dim ffigwr manwl gywir ynghylch pa mor fawr yw’r gymuned draws. Y rheswm am hynny yw nad yw’r cwestiwn yn cael ei ofyn yn y cyfrifiad, a does dim ymchwil wedi’i wneud gyda digon o bobl i fod yn ystadegol arwyddocaol.

Yr amcangyfrif gorau ar hyn o bryd yw bod tua 1 y cant o’r boblogaeth yn arddel hunaniaeth draws o bosib, gan gynnwys pobl sy’n arddel hunaniaeth anneuaidd. Byddai hynny’n golygu bod tua 600,000 o bobl draws ac anneuaidd yn byw ym Mhrydain, allan o boblogaeth o ryw 60 miliwn.

Sut ydych chi’n gwybod eich bod chi’n draws?

Mae llawer o bobl yn gwybod eu bod yn draws pan maen nhw’n ifanc. Efallai na fydd gan bawb yr iaith neu’r ddealltwriaeth o ystyr bod yn draws tan eu bod nhw’n hŷn. Ond mae’n rhywbeth greddfol bob amser, sy’n gwbl greiddiol i’ch ymdeimlad o bwy ydych chi. Nid chwiw, ‘ffordd o fyw’ na rhywbeth sy’n mynd a dod yw bod yn draws.

Mae’n rhan hanfodol o bwy ydych chi, na ellir ei newid. Pan fyddwch chi’n gwybod eich bod chi’n perthyn i rywedd penodol, ond nad yw hynny’n cael ei gydnabod gan eraill, mae’n beth niweidiol iawn.

Beth yw’r sefyllfa i bobl draws sy’n byw yng ngwledydd Prydain ar hyn o bryd?

Mae pobl draws yng ngwledydd Prydain yn wynebu lefelau sylweddol o gamdriniaeth ac anghydraddoldeb ar hyn o bryd, mewn sawl ffordd. Mae dau ymhob pump o bobl traws wedi profi trosedd casineb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae dau ymhob pump o bobl ifanc draws wedi ceisio lladd eu hunain. Mae un ymhob wyth o bobl draws wedi profi ymosodiad corfforol gan gydweithwyr neu gwsmeriaid yn y gwaith. Does dim syndod bod rhai pobl draws yn ofni cerdded i lawr y stryd hyd yn oed.

Mae’n sefyllfa mor eithafol fel bod menyw draws o Brydain wedi ceisio lloches yn Seland Newydd ac wedi bod yn llwyddiannus gan fod gwledydd Prydain mor drawsffobaidd. Mae’n rhywbeth y dylen ni i gyd boeni amdano, ei gymryd o ddifri a gweithio i’w daclo sut bynnag allwn ni – boed hynny yn y gwaith, yn yr ysgol neu yn ein cymunedau.

Ond dim ond rhan o’r stori mae’r ystadegau ofnadwy yma yn ei hadrodd. Dydy bod yn draws ddim yn golygu y byddwch chi’n cael bywyd gwael – mae pobl draws ledled gwledydd Prydain heddiw yn byw bywydau braf gwerth chweil gyda gyrfaoedd, teuluoedd a pherthnasau, fel mae pob grŵp arall o bobl yn ei wneud.

Pa broses mae’n rhaid i chi fynd drwyddi er mwyn cael eich cydnabod fel person traws yn eich bywyd bob dydd?

Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, does dim angen dim byd ffurfiol na chyfreithiol. Os ydych chi’n ddyn traws neu’n fenyw draws, mae eich rhywedd wedi’i ddiogelu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Gallwch ddefnyddio’r tŷ bach sy’n gweddu i’ch rhywedd, gallwch ddisgwyl i’ch cyflogwyr gydnabod eich rhywedd, a gallwch ddefnyddio unrhyw wasanaeth cyhoeddus sy’n briodol i’ch rhywedd (gydag ambell eithriad).

Dyna sydd mor rhwystredig am elfennau o’r ddadl bresennol yn y cyfryngau – mae’r rhan fwyaf o bethau sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd wedi’u sefydlu’n barod ac yn cael eu diogelu gan y gyfraith. Er hynny, dydy pobl anneuaidd ddim yn cael eu cydnabod o gwbl gan y gyfraith ar hyn o bryd, rhywbeth hollol annerbyniol y mae’n rhaid ei newid.

Un peth sy’n achosi llawer o anawsterau a phoen i bobl draws yw newid eu rhywedd ar eu tystysgrif geni. Mae’r broses yma yn cael ei rheoli o dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004. Mae Stonewall yn ymgyrchu i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei diwygio, gan gynnwys sicrhau ei bod yn cydnabod hunaniaethau anneuaidd.

Oes angen i chi gael triniaeth ailbennu rhywedd (‘newid rhyw’) er mwyn bod yn draws?

Mae llawer o sylw’r cyfryngau yn gwirioni ar fanylion am rannau o’r corff a thriniaethau llawfeddygol. I rai pobl draws, mae cael triniaeth ailbennu rhywedd yn rhan bwysig o’r broses o drawsnewid. Mae cael mynediad at driniaeth o’r fath yn anodd tu hwnt ar hyn o bryd, ac mae mawr angen am fwy o fuddsoddiad fel y gall pobl draws gael y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Ond i bobl draws eraill, dydy triniaeth ddim yn rhywbeth maen nhw’n dymuno’i gael. Dydy bod yn draws ddim yn golygu bod â rhannau corff penodol, neu fod hebddynt. Mae’n rhywbeth sy’n gwbl greiddiol i hunaniaeth rhywun traws, a dydy e ddim yn newid – sut bynnag mae rhywun yn edrych ar y tu allan.

A siarad yn blaen, dydy hyn yn ddim o fusnes neb heblaw nhw: fyddech chi ddim yn breuddwydio gofyn i rywun arall sut mae eu corff nhw’n edrych o dan eu dillad, felly pam fyddai neb yn meddwl ei bod hi’n briodol holi person traws?!

Beth yw ystyr anneuaidd, a beth yw’r ffordd iawn o siarad amdano?

Mae anneuaidd yn derm i ddisgrifio pobl nad ydyn nhw’n arddel hunaniaeth wrywaidd na benywaidd yn unig, neu a allai arddel y ddwy hunaniaeth. Gan nad yw’r termau deuaidd yn ffitio, mae’n bosib na fydd defnyddio’r rhagenwau ‘fe’ neu ‘hi’ yn dderbyniol, felly pan fyddwch chi’n siarad â rhywun sy’n anneuaidd, arhoswch am eiliad addas a gofynnwch iddyn nhw sut hoffen nhw i bobl gyfeirio atyn nhw. Mae’n bosib mai ‘nhw’ fydd y rhagenw cywir, neu mae’n bosib mai rhywbeth arall fydd e.

Fe allai gymryd ychydig o amser i chi ddod i arfer â hynny, ond fydd e’n gwneud dim drwg i chi, a bydd yn gwneud i’r unigolyn hwnnw deimlo bod pobl yn eu dilysu ac yn eu cydnabod. Does dim llawer o amser ers pan oedd rhai pobl yn cael trafferth derbyn bod rhai menywod yn dymuno i bobl eu galw’n Ms yn lle Miss, ond rydyn ni wedi dod i arfer â’r cwrteisi sylfaenol o ofyn i bobl sut hoffen nhw i bobl gyfeirio atyn nhw. Dydy hyn yn ddim gwahanol.

Ydych chi’n galw am gael gwared ar rywedd o ddogfennau?

Rydyn ni eisiau gweld iaith sy’n gynhwysol ac nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd pwy ydyn nhw. Dydyn ni ddim yn awgrymu cael gwared ar ‘benywaidd’ a ‘gwrywaidd’ oddi ar bob ffurflen a dogfen, ond rydyn ni’n credu bod modd i ni sefydlu prosesau sy’n cynnwys pawb yn weddol hawdd.

Mae byrddau arholi, a llawer o gwmnïau a sefydliadau, wedi canfod ffordd o wneud hyn mewn ffordd sy’n gweithio’n dda iddyn nhw (edrychwch ar rai o’n Cyflogwyr Traws-Gynhwysol Gorau o Vodafone i’r Cynulliad Cenedlaethol).

Mae angen i ni edrych yn gall ar systemau er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud yn y maes yma. Ychydig o synnwyr cyffredin sydd ei angen, fydd yn gadael i ni ddisgrifio a chategoreiddio pobl mewn ffordd sy’n cynnwys ac yn cefnogi pawb.

Beth yw ystyr ‘cydryweddol’?

Cydryweddol (‘cisgender’ neu ‘cis’ yn Saesneg) yw’r gair am rywun y mae eu hunaniaeth rhywedd nhw’n cyd-fynd â’r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo pan gawson nhw’u geni. Dyma’r term am bawb heblaw pobl draws.

Mae hyn i gyd yn gymhleth iawn, mae arna i ofn dweud y peth anghywir

Mae deall materion traws a hunaniaeth rhywedd yn gallu bod yn ddryslyd i ddechrau. Does neb yn disgwyl i chi wybod popeth yn syth, ac mae’n iawn gofyn cwestiynau os bydd y person rydych chi’n siarad â nhw yn hapus i’w hateb. Os hoffech chi ddysgu rhagor am brofiadau rhai pobl draws, gallwch eu clywed yn eu geiriau eu hunain yn y fideos yma.

Os dywedwch chi’r peth anghywir yn ddamweiniol (sy’n digwydd weithiau i’r rhan fwyaf o bobl), ymddiheurwch. Dylech gydnabod eich bod wedi gwneud cawlach ohoni, a symud ymlaen. Meidrolion ydyn ni i gyd ac mae pawb yn cymryd cam gwag weithiau. Dim ond bod eich bwriadau yn dda, bydd y rhan fwyaf o bobl draws yn gwerthfawrogi’r ffaith eich bod wedi cydnabod eich camgymeriad ac yn barod i’ch helpu i’w gywiro. Mae’n bwysig ein bod ni’n cael sgyrsiau go iawn sy’n onest ac yn parchu pobl.

Allwch chi fod yn draws ac yn hoyw?

Mae cyfeiriadedd rhywiol (sef at bwy rydych chi’n teimlo atyniad) yn hollol wahanol i hunaniaeth rhywedd (pwy ydych chi). Gallwch chi fod yn draws ac yn hoyw, yn draws ac yn syth, yn draws ac yn ddeurywiol, yn anrhywiol, neu’n unrhyw beth arall – yn union fel y gall person cydryweddol fod. Mae mor syml â hynny.

Felly, allai lesbiad fod â phartner lesbiaidd sy’n fenyw draws, neu allai dyn hoyw fod gyda dyn traws?

Wrth gwrs, petaen nhw’n ffansïo ei gilydd. Yn fwy na dim, mae angen i ni gydnabod mai menywod yw menywod traws, ac mai dynion yw dynion traws. Ar ôl hynny, mae’n dibynnu at bwy mae pobl yn teimlo atyniad. Mae rhyddid gan oedolion i fod mewn perthynas gydag oedolion eraill sy’n cydsynio i hynny, beth bynnag yw eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd. 

Beth yw Tystysgrif Cydnabod Rhywedd a sut mae cael un?

Dogfen sy’n newid eich rhywedd yn gyfreithiol o wrywaidd i fenywaidd, neu fel arall, yw Tystysgrif Cydnabod Rhywedd. Mae’n caniatáu i ddynion traws neu fenywod traws gael eu rhywedd cywir ar eu tystysgrif geni, sy’n gallu gwneud bywyd yn haws gyda phethau fel cychwyn swydd newydd.

Mae’r broses o gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd yn cael ei rheoli gan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004. Mae’n hen ffasiwn iawn, ac yn broses ddirdynnol i bobl draws, sy’n achosi straen ac yn colli golwg ar y ffaith bod pobl go iawn yn rhan o’r broses.

Ar hyn o bryd, er mwyn cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd, rhaid i bobl draws gael diagnosis o ‘ddysfforia rhywedd’ (sy’n cael ei ystyried yn salwch meddwl ar hyn o bryd). Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd fyw yn eu ‘rhywedd caffaeledig’ am ddwy flynedd – gan gasglu tystiolaeth, fel lluniau ohonyn nhw’u hunain mewn digwyddiadau – er mwyn ceisio darbwyllo panel o glinigwyr meddygol a chyfreithwyr (na fydd yn cwrdd â nhw) eu bod yn unigolyn traws. Yng Nghymru a Lloegr, os ydyn nhw’n briod, mae’n rhaid iddyn nhw hefyd gael cydsyniad eu priod cyn y gallan nhw fwrw ymlaen.

Beth sy’n bod ar y broses yma?

Mae llawer yn bod arni: mae’n broses gyfrinachol, sy’n gwahaniaethu, ac mae’n trin bod yn draws fel salwch meddwl. Mae hefyd yn gallu cymryd sawl blwyddyn i fynd drwy’r broses, mae’n costio llawer o arian ac mae’n llanast gweinyddol sy’n llawn biwrocratiaeth ac asesiadau meddygol ymwthgar. Mae hefyd wedi’i chyfyngu i ganiatáu i bobl newid o un rhywedd deuaidd i’r llall – o fod yn wrywaidd i fod yn fenywaidd, neu fel arall – sy’n golygu nad yw’n gweithio o gwbl ar gyfer pobl anneuaidd nad ydyn nhw’n arddel yr un o’r ddwy hunaniaeth honno.

Mae’r holl broses mor ddirdynnol a diraddiol fel bod llawer o bobl yn methu wynebu’r broses o gwbl. Does dim angen i bethau fod fel hyn. Mae llawer o wledydd eraill, gan gynnwys Iwerddon, wedi diwygio’r broses yma yn barod, ac (ar adeg ysgrifennu hyn) mae’r byd yn dal heb ddymchwel o’u cwmpas.

Mae gallu cael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd yn fater o bwys. Mae’n golygu y gallwch gael tystysgrif geni sy’n cynnwys y rhywedd cywir. Mae’n helpu i wneud trefnu eich bywyd yn haws, gan ei gwneud yn broses syml cael pasbort sy’n cynnwys y rhywedd cywir fel y gallwch deithio’n haws. Ond yn bennaf, mae’n golygu y gallwch, fel person traws, gael y darn papur yna sy’n dangos bod y wladwriaeth yn derbyn mai chi ydych chi. Fel pob dinesydd arall. Mae hynny’n beth pwysig.

Mae ymgynghoriad ar ddiwygio’r Ddeddf wedi digwydd yn yr Alban yn barod, ac rydyn ni’n disgwyl ymgynghoriad yng Nghymru a Lloegr yn fuan. Rydyn ni’n ymgyrchu dros newid y gyfraith er mwyn caniatáu i bobl draws allu datgan eu rhywedd eu hunain heb fynd drwy brofion meddygol, cydnabod pobl anneuaidd a gostwng yr oedran pan all rhywun ddatgan eu rhywedd eu hunain i 16 oed.

Mae angen eich cymorth chi i wneud hyn – darllenwch sut.

Os bydd y newid yma i’r gyfraith yn digwydd, beth fydd hyn yn ei olygu i fi a fy nheulu?

Os ydych chi’n gydryweddol, fydd hyn prin yn effeithio arnoch chi o gwbl. Unig ganlyniad hyn yw y bydd pobl draws yng ngwledydd Prydain yn gallu byw eu bywydau ychydig yn haws. Fodd bynnag, bydd yn golygu y byddwch chi a’ch teulu yn byw mewn cymdeithas decach, lle gall pobl – gan gynnwys pobl rydych chi eich hunan yn eu caru ac yn poeni amdanynt – fod yn rhydd i fyw’r bywyd yr hoffen nhw ei fyw, heb y gamdriniaeth a’r gwahaniaethu sy’n rhan o fywydau bob dydd llawer o bobl draws ar hyn o bryd.

Os ydych chi’n berson traws, bydd yn golygu y gallwch chi gael cydnabyddiaeth i’ch rhywedd gan y wladwriaeth heb orfod mynd drwy broses wahaniaethol, ddiraddiol a diangen.

Bydd athrawon a meddygon sy’n siarad am faterion traws yn gwneud i ragor o blant a phobl ifanc ddrysu a meddwl trwy gamgymeriad eu bod nhw’n draws?

Na fydd. Mae’r ffaith bod athrawon, meddygon, teuluoedd a gofalwyr yn siarad mwy am faterion rhywedd yn beth da. Mae’n golygu bod plant wedi’u grymuso’n fwy a’u bod yn fwy abl i archwilio eu hunaniaeth wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion. Bydd hefyd yn eu helpu i ddeall a derbyn gwahaniaeth.

Mae pobl plentyn a pherson ifanc yn haeddu’r hawl i fod yn hapus ac i fod yn nhw eu hunain. Rydyn ni i gyd yn archwilio gwahanol elfennau o’n hunaniaeth wrth i ni ddatblygu – mae’n rhan o dyfu’n oedolyn.

Pan fydd pobl ifanc yn mynd i gael cymorth, dyna’n union maen nhw’n chwilio amdano: cymorth. Maen nhw eisiau rhywun i drafod gyda nhw, rhywun sy’n gallu deall eu meddyliau a’u teimladau, a’u helpu i gael y sgyrsiau hynny. O blith y bobl ifanc dan sylw, mae’n bosib y bydd nifer fach yn arddel hunaniaeth draws yn y pen draw, ond fydd hynny ddim yn wir am lawer mwy ohonyn nhw. Llwyddiant yw hynny, sy’n dangos pwysigrwydd gwrando ar bobl ifanc a siarad gyda nhw.

I’r rhai sy’n ei chael yn amhosib cysoni pwy ydyn nhw gyda’r categori rhyw a roddwyd iddyn nhw pan gawson nhw’u geni, mae gofal a chymorth parhaus sy’n addas i’w hoedran yn hollbwysig.

Ond beth am dai bach cyhoeddus?

Mae pobl draws yn gallu defnyddio tai bach sy’n cyd-fynd â’u rhywedd ac wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd heb drafferth. ‘Trafodaeth’ arall sydd wedi’i chreu gan y cyfryngau yw hon, ac mae’n cael effaith negyddol ar bobl gydryweddol hefyd; yn gynyddol, mae pobl sy’n edrych yn wahanol i’r ystrydeb o rywun gwrywaidd neu fenywaidd yn cael eu herio am ddim byd ond mynd i dŷ bach cyhoeddus.

Mae sicrhau cyfleusterau y gall unrhyw un eu defnyddio – tai bach ac ystafelloedd newid gyda gofod preifat – yn beth call iawn, ac mae llawer o fusnesau a sefydliadau wedi mabwysiadu’r arfer hwnnw heb broblem ers amser maith bellach.

A ddylid caniatáu menywod traws mewn llochesi menywod?

Mae llochesi yn bodoli er mwyn cefnogi menywod bregus sy’n gadael sefyllfaoedd anniogel. Mae 41 y cant o bobl draws wedi profi trosedd casineb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae dros chwarter y bobl draws sydd mewn perthynas wedi profi cam-drin domestig gan eu partner. Mae dioddef trais ac wedyn cael eich troi i ffwrdd a chithau angen cymorth yn brofiad torcalonnus.

Mae llawer o lochesi yn rhoi cymorth i fenywod traws sy’n dianc rhag camdriniaeth yn barod, ac mae hynny’n gweithio’n dda iawn – yn wir, mae mwyafrif gwasanaethau trais domestig yr Alban wedi bod yn eu derbyn ers bron i ddeng mlynedd (gallwch ddarllen datganiad gan sefydliadau menywod yn yr Alban yma). Mae’n rhaid i ni ymddiried yn y ffaith bod y bobl sy’n rhedeg y gwasanaethau yma yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud. Wedi’r cwbl, nhw ydy’r arbenigwyr ar roi cymorth i ferched yn y gwasanaethau yma.

Mae llochesi yn wynebu prinder cefnogaeth a chyllid difrifol ar hyn o bryd, sy’n golygu bod mwy a mwy o ddioddefwyr trais domestig sydd angen cymorth yn cael eu troi i ffwrdd. Mae hynny’n rhywbeth y dylen ni i gyd fod yn gweithio i’w ddatrys.

Dylai menywod traws allu eistedd ar banel menywod yn unig neu fod ar restr fer menywod yn unig?

Dylen, wrth gwrs. Menywod yw menywod traws, ac mae’n rhesymol y dylen nhw gael yr un cyfle i fod yn rhan o drafodaethau ag unrhyw fenywod eraill. Nod paneli a rhestrau byrion menywod yn unig yw ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb rhywedd sy’n wynebu pob menyw – gan gynnwys menywod traws – bob dydd.

Bydd paneli a rhestrau byrion yn gryfach pan fyddan nhw’n cydnabod ac yn cynrychioli amrywiaeth eang o brofiadau a chefndiroedd menywod, gan gynnwys menywod traws, sy’n brin iawn o gynrychiolaeth weledol mewn safleoedd o rym.

Beth mae camenwi a chamryweddu yn ei olygu?

Camenwi yw pan fydd pobl yn cyfeirio at berson traws gan ddefnyddio’r enw oedd ganddyn nhw cyn iddyn nhw drawsnewid. Camryweddu yw pan fydd rhywun yn cyfeirio at rywun traws gan ddefnyddio’r categori rhywedd roddwyd iddyn nhw pan gawson nhw’u geni yn hytrach na’u rhywedd go iawn.

Pan fydd hyn yn cael ei wneud yn fwriadol, mae’r ddau yn gallu brifo pobl draws yn fawr. Os byddwch chi’n clywed pobl yn gwneud hyn, byddwch yn gynghreiriad a heriwch y person sy’n ei ddweud, os yw’n ddiogel gwneud hynny. Gallwch gael cyngor ar herio bwlio trawsffobaidd yma.

Pam fod pobl sy’n cefnogi cydraddoldeb traws yn gwrthod mynd ar raglenni panel i drafod rhywedd? Onid ydych chi’n cau’r drafodaeth i lawr?

Mae pobl draws a’u cynghreiriaid yn awyddus i gael trafodaethau cadarn a gonest ynghylch sut i droi cydraddoldeb traws yn realiti yng ngwledydd Prydain. Ond dydyn nhw ddim yn fodlon trafod a oes ganddyn nhw hawl i fod yn nhw eu hunain, neu i gael hawliau fel dinasyddion yn ôl y gyfraith. Rydyn ni wrthi’n gweithio gyda phobl yn y cyfryngau er mwyn eu helpu nhw i ddeall hyn, ac er mwyn symud y drafodaeth ymlaen at sut y gallwn ni gydweithio er mwyn taclo trawsffobia a brwydro i sicrhau bod pobl draws yn cael eu derbyn yn ddieithriad.

Beth alla i ei wneud i fod yn gynghreiriad i bobl draws?

Mae mwy a mwy o bobl a sefydliadau yn cydnabod pwysigrwydd camu i’r adwy a bod yn llafar fel cynghreiriad i bobl draws. Mae unigolion amlwg ym myd gwleidyddiaeth a’r cyfryngau yn gwneud hynny’n barod, yn ogystal â sefydliadau o bob math, o Grŵp Bancio Lloyds, i Tesco, i gwmnïau cyfreithiol mawr.

Ond mae llawer o gamau bach y gallwch eu cymryd hefyd i fod yn gynghreiriad i bobl draws. Boed hynny ar-lein neu mewn bywyd go iawn, mae rhywbeth mor syml â gwrando ar leisiau pobl draws – a’u cefnogi – yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch beth arall y gallwch ei wneud, ewch i’n tudalen ymgyrch Dewch Allan dros Gydraddoldeb Traws. Cofrestrwch i gael y wybodaeth ddiweddaraf, darllenwch ein cynllun pum mlynedd Gweledigaeth dros Newid ac ymunwch yn y gwaith!