An LGBTQ+ Equality Action Plan for Wales | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
People walk up the steps to the Senedd on a clear blue day.

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb LHDTC+ i Gymru

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+ sydd ar y gweill. Mae’r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i sefydliadau a’r cyhoedd i ddweud eich dweud ar y Cynllun fel ag y mae ar hyn o bryd, yn ogystal â chynnig gwelliannau a rhannu’ch profiadau yn rhan o’r broses.

Mae’r cynllun gweithredu’n cynnwys rhestr o gamau y dylai Llywodraeth Cymru a phartneriaid eu rhoi ar waith i wella cydraddoldeb LHDTC+ a phrofiadau pobl LHDTC+ yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae unigolion a chynrychiolwyr o sefydliadau LHDTC+ megis Pride Cymru, Glitter Cymru a Stonewall Cymru wedi bod yn gwrando ar brofiadau pobl LHDTC+ o bob rhan o Gymru, i ddeall ymhellach yr heriau, y gwahaniaethu a’r anghydraddoldeb sy’n dal i fodoli, ac i ddysgu beth ddylai gael ei gynnwys yn y Cynllun er mwyn gwella cydraddoldeb LHDTC+ a’n hawliau cymaint ag sy’n bosibl. Cafodd y profiadau hynny eu cynnwys mewn Adroddiad Panel Arbenigwyr Annibynnol, wnaeth lywio Cynllun Gweithredu LHDTC+ y Llywodraeth.

Wrth drafod y cynllun, dywedodd Davinia-Louise Green, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru:

'Mae’r tymor Pride hwn wedi dangos na allwn laesu dwylo ar y daith at gydraddoldeb llawn LHDTC+. Ers datganoli, gwelwyd llawer o gerrig milltir allweddol o ran gwella cydraddoldeb LHDTC+; o lansiad Gwasanaeth Rhywedd Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn gynhwysol o bobol LHDTC+. Fodd bynnag, fel mae ein hymchwil a’r penawdau newyddion diweddaraf wedi dangos, yn anffodus mae dal gwaith i’w wneud nes bod pawb yn gallu bod yn rhydd i fod pwy ydyn nhw.

'Roedd gweithio ochr yn ochr â llawer o arweinwyr LHDTC+ gwybodus ac arweiniol wrth lywio’r cynllun hwn yn ysbrydoledig. Rydym yn falch o ddweud bod y Cynllun hwn wedi deillio’n uniongyrchol o drafodaethau a gafwyd gyda phobl LHDTC+ ledled Cymru. Dros y misoedd nesaf, bydd Stonewall Cymru’n canolbwyntio ar graffu’r Cynllun, a’i drafod gyda phobl sydd wedi ymrwymo i wella hawliau pobl LHDTC+ ledled Cymru. Mae’n adeg gyffrous iawn i bolisi LHDTC+ yng Nghymru.'

Mae’r Cynllun ei hun yn eang, ac mae’n cyflwyno argymhellion mewn meysydd megis; addysg, y celfyddydau a diwylliant, y gweithle, troseddau casineb a chydlyniad cymunedol ac iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Cynllun yn cynrychioli cyfle go iawn i fwrw ymlaen â chynhwysiant a hawliau LHDTC+ ar draws holl feysydd y Llywodraeth.

Mae Stonewall Cymru’n falch bod rhan fwyaf yr argymhellion a ddatblygwyd yn rhan o’r Grŵp Arbenigwyr Arbenigol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn: cydnabod pobl anneuaidd ledled Cymru, ymrwymiad i adolygu’r llwybr Hunaniaeth Rywedd i blant a phobl ifanc, a chynnig buddsoddiad strategol a chynhwysfawr i ddysgu a hyfforddiant proffesiynol ar ddylunio cwricwlwm sy’n hollol gynhwysol o ran LHDTC+. Mae’n wych gweld y 61 cam gweithredu cynhwysfawr a nodwyd, ac mae’n bwysig nawr i bobl a chynghreiriaid LHDTC+ yng Nghymru gael dweud eu dweud.

Mae’r holl fanylion ar y Cynllun drafft, adroddiad y Panel Annibynnol a sut gallwch ymateb i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.