Llywodraeth y DU yn Cyhoeddi Ymgynghoriad Therapi Trosi: Beth mae'n ei olygu i Gymru? | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
A white man walks down a sunny street, back to the camera, head looking down at the pavement

Llywodraeth y DU yn Cyhoeddi Ymgynghoriad Therapi Trosi: Beth mae'n ei olygu i Gymru?

Mae "therapi trosi” honedig yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ymyriadau eang sydd â’r bwriad o newid cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd person.

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu eu cynigion i wahardd therapi trosi yng Nghymru a Lloegr. Mae eu cynlluniau'n eistedd ochr yn ochr ag ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos, a fydd yn dod i ben ar 10 Rhagfyr.

Rydym wedi llunio'r blog hwn i wneud synnwyr o'r hyn y mae hyn yn ei olygu i bawb yng Nghymru ac i'ch helpu i ystyried sut y gallwch ymateb i sicrhau bod yr arfer niweidiol a diraddiol o therapi trosi yn cael ei wahardd am byth. Nid oes esgus dros gam-drin.

Bydd y gwaharddiad arfaethedig yn cynnwys Cymru a Lloegr, er bod elfennau y gallai fod yn rhaid i Gymru eu deddfu i sicrhau bod pob man lle y gellir therapi trosi yng Nghymru yn cael ei ddiogelu.

Y Cynigion

Mae'r cynigion gan Lywodraeth y DU yn gam enfawr ymlaen, drwy gynnig trosedd newydd ar gyfer therapi trosi "siarad" nad yw'n gorfforol a chyflwyno codiadau dedfrydu ar gyfer troseddau corfforol a threisgar presennol. Byddai'r cynigion yn darparu pecyn cymorth i ddioddefwyr therapi trosi a gorchmynion cyflwyno ar gyfer dioddefwyr posibl. Yn bwysig, mae'r mesurau'n cynrychioli gwaharddiad ar therapi trosi ei hun, sy'n cwmpasu cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn ogystal â gwahardd hyrwyddo, cymeradwyo a hysbysebu 'therapïau trosi' fel y'u gelwir.

Sut y gallant wella?

Er bod y cynigion yn gryf, credwn y gellir eu gwella. Yn gyntaf, gellir eu gwella drwy sicrhau eu bod yn dileu'r egwyddor y gall oedolion 'gydsynio' i therapi trosi. Mae therapi trosi yn ei hanfod yn beryglus ac yn dreisar, a felly, ni ellir cydsynio'n ystyrlon iddo. Bydd llawer o bobl ddim yn cael eu diogelu gan y ddeddfwriaeth os na chaiff hyn ei newid, yn enwedig y rhai sy'n cael therapi trosi mewn lleoliadau crefyddol a ffydd, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o therapi trosi yn y DU.

Dylai'r newidiadau hefyd gynnwys diffiniad mwy cynhwysfawr o therapi trosi na'r hyn sy’n bresennol ar hyn o bryd, yn seiliedig ar wahardd pob ymgais nid yn unig i 'newid' cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth rhywedd person, ond hefyd atal y rhain. Dylid ehangu cynigion hefyd i gynnwys pobl arywiol, pobl anneuaidd a phobl rhyngrywiol.

Y Darlun yng Nghymru

Yma yng Nghymru, ymrwymodd pob plaid wleidyddol a fynychodd ein digwyddiad holi ac ateb cyn Etholiadau'r Senedd i roi terfyn ar therapi trosi yng Nghymru. Mae hwn hefyd yn ymrwymiad allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ drafft.

Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at eu safbwynt ar y cynigion yn ogystal â'r hyn y bydd angen ei wneud yn y Senedd i sicrhau bod pob person LHDTC+ yng Nghymru yn cael ei ddiogelu.

Beth alla i ei wneud?

Gallwch helpu i gefnogi gwahardd therapi trosi drwy ymateb i'r ymgynghoriad, gan amlinellu eich safbwynt a'ch profiad yn y broses, yn ogystal â'ch barn ynghylch a yw cynlluniau llywodraeth y DU yn mynd yn ddigon pell.

Mae'r ymgynghoriad ei hun yn cynnwys 14 o gwestiynau amlddewis a 7 cwestiwn testun agored, er na fydd angen i chi eu hateb i gyd. Mae llawer o'r cwestiynau yn eich galluogi i roi eich barn a rhoi mewnbwn i'ch profiadau i'r broses. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau defnyddiol ar gyfer ymateb i'r ymgynghoriad ar wefan y glymblaid Gwahardd Therapi Trosi yma.

Gallwch hefyd ysgrifennu at eich Aelodau o'r Senedd. Gallwch ddod o hyd i'ch aelodau yma. Gofynnwch iddyn nhw gefnogi'r gwaharddiad ar therapi trosi.

Allwn ni ddim aros. Gyda'n gilydd gallwn roi terfyn ar therapi trosi.