Stonewall yn croesawi adroddiad Estyn ar addysg LHDT cynhwysol | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Stonewall yn croesawi adroddiad Estyn ar addysg LHDT cynhwysol

Rydym yn croesawu adroddiad Estyn sy'n amlinellu arfer da ar gyfer cefnogi dysgwyr LHDT mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn gosod cyfres o safonau i ysgolion yng Nghymru weithio tuag ati i greu system addysg wirioneddol gynhwysol lle gall pob dysgwr ffynnu, bod yn nhw eu hunain a llwyddo. 

Amlygodd Adroddiad Ysgol Stonewall Cymru yn 2017 i ba raddau y mae angen i ddarparwyr addysg yng Nghymru fynd i gefnogi eu disgyblion LHDT, gyda mwy na hanner y bobl ifanc LHDT (54 y cant) yng Nghymru a 73 y cant o bobl ifanc traws wedi wynebu bwlio mewn ysgolion am fod yn nhw eu hunain.

Gwaethygu mae'r darlun wrth ystyried y ffaith bod mwyafrif y disgyblion yng Nghymru (62 y cant) wedi dweud nad oes oedolyn yn eu hysgolion y gallant siarad â nhw am fod yn LHDT.  

Mae adroddiad Estyn yn tynnu sylw at yr angen i ysgolion a cholegau sicrhau bod addysgu amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys hunaniaethau LHDT, yn cael ei integreiddio i brofiadau dysgu; bod bwlio homoffobaidd, deuffobaidd a thrawsffobaidd yn cael ei gofnodi a gweithredu arno; a sicrhau bod yr holl staff yn cymryd rhan mewn hyfforddiant rheolaidd i fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth.

Yr ydym yn cefnogi'r holl ddatblygiadau hyn yn gryf ac maent yn argymhellion pwerus a allai baratoi'r ffordd i newid bywydau. Pe bai holl ysgolion a cholegau Cymru yn gweithredu'r argymhellion hyn byddai'n trawsnewid profiadau pobl ifanc LHDT mewn addysg. 

Yr ydym yn falch o weld bod pwysigrwydd yn cael ei roi ar yr angen i sicrhau bod dysgu yn dathlu amrywiaeth ac yn mynd ati i hyrwyddo cynhwysiant.

Dim ond drwy ddeall a darparu gwybodaeth y gallwn fynd i'r afael â cham-driniaeth a gwahaniaethu'r dyfodol.

Mae gan bob person ifanc yng Nghymru yr hawl i gael addysg sy'n eu paratoi ar gyfer bywyd yn y Gymru fodern ac mae'n hanfodol bod eu haddysg a'u cwricwlwm yn adlewyrchu amrywiaeth llawn y byd y maent yn byw ynddo.