In-House Workshops | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Gweithdai digidol

Mae gweithdai Stonewall yn rhoi cyfle i fynychwyr ddysgu'r arferion gorau diweddaraf. Maen nhw wedi cael eu llunio gan ddefnyddio'r arbenigedd rydyn ni wedi'i gael o weithio gyda dros 900 o gyflogwyr blaenllaw yng ngwledydd Prydain a ledled y byd.

Rydyn ni'n defnyddio agwedd sy'n grymuso ar gyfer ein holl sesiynau dysgu. Mae'r gweithdai yn rhyngweithiol iawn ac yn cyfuno tasgau ymarferol a rhannu gwybodaeth er mwyn gweddu i wahanol arddulliau dysgu. Rydyn ni'n credu'n gryf bod unigolion yn creu diwylliannau mwy cynhwysol wrth i fynychwyr rannu eu profiadau a'u syniadau, fel bod pawb yn gadael gyda ffyrdd ymarferol o wneud gwahaniaeth yn eu swydd.

Bydd ein dewis o weithdai rhagarweiniol yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref yn eich sefydliad. Maen nhw'n rhoi cyfle gwerthfawr i ymgysylltu ac addysgu'r holl staff. I'r rhai sy'n arwain ar gynhwysiant LHDT, byddan nhw'n cynnig syniadau ymarferol i ddatblygu cynllun gweithredu sy'n gweithio.

Mae ein gweithdai uwch yn mynd yn ddyfnach i mewn i bynciau penodol. Bydd rhai sesiynau, gan gynnwys y rhai ar iechyd meddwl LHDT, yn addysgu eich staff ymhellach, tra bydd rhai eraill yn cynnig fframwaith i dimau ddysgu a chynllunio mewn pynciau penodol fel darparu gwasanaethau neu gefnogi cydweithwyr.

Gweithdai Rhagarweiniol 

Camau cyntaf delfrydol ar eich taith tuag at gynhwysiant LHDT neu ffordd wych o ymgysylltu â'r sefydliad ehangach

Y camau cyntaf tuag at gynhwysiant LHDT

Nodau'r sesiwn:

  • Dysgu mwy am effaith cynhwysiant LHDT yn y gweithle
  • Deall y camau ymarferol y gall sefydliad eu cymryd i fod yn fwy cynhwysol o bobl LHDT
  • Trafod sut i weithredu hyn yng nghyd-destun eich sefydliad chi

Perffaith ar gyfer:

Y rhai sy'n gweithio'n agosach ar gynhwysiant LHDT, e.e. swyddogion proffesiynol ym maes adnoddau dynol neu amrywiaeth a chynhwysiant, hyrwyddwyr ar lefel uwch, grwpiau rhwydwaith LHDT mwy newydd.

Y camau cyntaf tuag at gynhwysiant traws

Nodau'r sesiwn:

  • Dysgu mwy am hunaniaethau, terminoleg a phrofiadau pobl draws er mwyn gallu mynegi'r angen am gynhwysiant traws yn hyderus
  • Deall mwy am ffyrdd ymarferol o greu gweithle lle gall pob person traws gyflawni eu potensial
  • Ystyried sut gallech chi gamu i fyny a bod yn gynghreiriad gwell i bobl draws yn y gwaith

Perffaith ar gyfer:

Yr holl staff, grwpiau rhwydwaith sy'n ei chael hi'n anodd denu pobl draws, timau adnoddau dynol ac amrywiaeth a chynhwysiant. Ffordd ddelfrydol o lansio polisïau trawsnewid yn y gwaith.

Cyflwyniad i fod yn gynghreiriad

Nodau'r sesiwn:

  • Datblygu dealltwriaeth o hunaniaethau a phrofiadau LHDT er mwyn gallu eiriol yn hyderus dros gael gweithleoedd mwy cynhwysol
  • Deall pam mae cynhwysiant LHDT yn y gwaith yn bwysig a manteision creu diwylliant mwy cynhwysol i unigolion a sefydliadau
  • Archwilio ystyr y term cynghreiriad a nodi'r camau cyntaf i'w cymryd i fod yn gynghreiriad mwy egnïol a gweladwy

Perffaith ar gyfer:

Yr holl staff i ddysgu am eu rhan nhw yn y gwaith o greu sefydliad mwy cynhwysol.

Hyrwyddo cynhwysiant LHDT fel uwch arweinydd

Nodau'r sesiwn:

  • Datblygu dealltwriaeth o hunaniaethau a phrofiadau LHDT er mwyn gallu eiriol yn hyderus dros gael gweithleoedd mwy cynhwysol
  • Deall y rhan mae uwch arweinwyr yn ei chwarae yn y gwaith o greu amgylcheddau cynhwysol
  • Trafod sut gallwch chi fel tîm arwain gymryd camau ymarferol i wneud eich sefydliad yn fwy cynhwysol

Perffaith ar gyfer:

Uwch arweinwyr, hyrwyddwyr ar lefel uwch, timau arwain neu fyrddau.

 

Gweithdai uwch

Ffyrdd gwych o ddatblygu eich timau cynhwysiant neu o sicrhau bod eich tîm staff ehangach yn dysgu rhagor

Cyflwyno gwasanaethau cynhwysiant LHDT

Nodau'r sesiwn:

  • Deall sut i gasglu a monitro data ynghylch profiadau ac anghenion defnyddwyr gwasanaethau LHDT
  • Dysgu rhagor am rwystrau cyffredin sy'n atal pobl LHDT rhag ymgysylltu â gwasanaethaul
  • Trafod sut i ymgorffori cynhwysiant LHDT yn y ffordd rydych chi'n darparu gwasanaethau a sicrhau bod eich gwasanaethau'n dal i ymateb i'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu

Perffaith ar gyfer:

Timau adnoddau dynol ac amrywiaeth a chynhwysiant neu'r rhai sy'n arwain timau dylunio gwasanaethau neu dimau darparu gwasanaethau.

Caffael: ymgorffori LHDT yn eich cadwyn gyflenwi

Nodau'r sesiwn:

  • Deall buddion busnes sicrhau bod eich cyflenwyr yn LHDT-gynhwysol
  • Archwilio sut i ymgorffori cynhwysiant LHDT yn y broses gaffael a chefnogi cyflenwyr i wella eu gweithleoedd a'u gwasanaethau
  • Dysgu mwy am sut i hyfforddi'ch timau caffael a darparu'r adnoddau ymarferol iddynt i sicrhau safonau cyson uchel ymhlith cyflenwyr

Perffaith ar gyfer:

Timau adnoddau dynol ac amrywiaeth a chynhwysiant, rheolwyr swyddfa, timau caffael.

Bod yn gynghreiriad gwell i bobl groenliw LHDT

Nodau'r sesiwn:

  • Deall mwy am brofiadau Pobl Groenliw LHDT yn y gweithle ac mewn bywyd bob dydd
  • Trafod rhyngblethu a braint, eu hystyr yn ymarferol a sut maen nhw'n effeithio ar brofiadau pobl yn y gwaith
  • Datblygu syniadau i gamu i fyny fel cynghreiriad i Bobl Groenliw LHDT a sicrhau bod eich gwaith yn gynhwysol

Perffaith ar gyfer:

Yr holl staff. Arbennig o ddefnyddiol ar gyfer grwpiau rhwydwaith LHDT, ac yn gyfle gwych i gydweithio â grwpiau rhwydwaith pobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME)

Iechyd meddwl LHDT: cefnogi'ch cydweithwyr

Nodau'r sesiwn:

  • Deall mwy am brofiadau pobl LHDT o les a iechyd meddwl
  • Trafod y rhwystrau sy'n atal sgyrsiau rhag digwydd a gweithio ar sicrhau bod iechyd meddwl yn cynnwys pobl LHDT
  • Archwilio ffyrdd ymarferol o adlewyrchu a chefnogi profiadau pobl LHDT yn eich gwaith iechyd meddwl

Perffaith ar gyfer:

Yr holl staff. Arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ar fentrau iechyd meddwl ac ar gyfer grwpiau rhwydwaith LHDT

Creu sefydliad sy'n gynhwysol o bobl ddeurywiol

Nodau'r sesiwn:

  • Deall hunaniaethau deurywiol a datblygu'r hyder i fynegi'r angen i gynnwys pobl ddeurywiol yn y gweithle ac i'w gwneud yn weladwy
  • Magu dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu pobl ddeurywiol yn y gwaith a'r effaith maen nhw'n gallu ei chael
  • Archwilio ffyrdd ymarferol o gymryd camau i wneud eich gwaith presennol yn gynhwysol o bobl ddeurywiol gan ymgymryd â gwaith deurywiol-benodol

Perffaith ar gyfer:

Yr holl staff. Arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ar fentrau cynhwysiant deurywiol ac ar gyfer grwpiau rhwydwaith LHDT

 

Cyflwyno

Cyflwynir y sesiynau ar-lein gan hwylusydd hyfforddedig o Stonewall.

Fel arfer, caiff y sesiynau eu cyflwyno ar Zoom ar gyfer hyd at 50 aelod o staff, heblaw am Hyrwyddo cynhwysiant LHDT fel uwch arweinydd sydd wedi'i gyfyngu i 12.

Cyflwynir y sesiynau ar Zoom ac mae rhai sesiynau'n defnyddio offer eraill fel Mural a Sli.do er mwyn ennyn diddordeb cyfranogwyr. Gallwn fod yn hyblyg ar y llwyfannau rydyn ni'n eu defnyddio ac fe wnawn ni weithio gyda chi i ddarparu sesiynau mewn ffordd sy'n adlewyrchu'ch systemau lle bo hynny'n bosib ac yn gweithio i'ch staff.

 

Mynychwyr

Mae Gweithdai Digidol yn ffordd wych o ymgysylltu, sydd wedi'u dylunio ar gyfer yr holl staff. Maen nhw'n arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n gweithio'n agos ar gynhwysiant LHDT, hyrwyddwyr ar lefel uwch a grwpiau rhwydwaith LHDT.

Rydyn ni eisiau clywed gan weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o weithleoedd. Rydyn ni'n annog amrywiaeth ar draws ein rhaglenni, o ran cefndiroedd ethnig, pobl â ffydd, pobl anabl a menywod - a'r rhai lle mae'r hunaniaethau yma'n rhyngblethu.

 

Archebu

Gweithdai Digidol Mewnol

Rydyn ni'n cynnig rhaglenni mewnol ar gyfer grwpiau o staff o sefydliad. E-bostiwch empowerment@stonewall.org.uk i archebu nawr neu i gael rhagor o wybodaeth.

Costau

Safonol: £900

Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth y Sector Preifat: £750

Aelodau Hyrwyddwyr Amrywiaeth y Sector Cyhoeddus a'r Trydydd Sector: £550

 

Nid yw'r prisiau hyn yn cynnwys TAW.

Rydyn ni'n cynnig gostyngiadau pellach i elusennau ac i rai sy'n gwneud sawl archeb. Anfonwch e-bost aton ni drwy empowerment@stonewall.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

 

Gweithdai Digidol Agored

We have 3 open workshops happening in the next few months.

Follow the links to book your place 

October: Being a better ally to LGBT people of colour I 29th October BOOK HERE

November: First steps to trans inclusion I 18th November BOOK HERE

February: Introduction to LGBT allyship I 3rd February BOOK HERE

Costs

Standard: £70

Private Sector Diversity Champion members: £60

Public and Third Sector Diversity Champion members: £40

Student/unwaged: £10

 

Cancellation policy 

Please see our cancellation policy here.