Black History Month x Stonewall
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Stonewall's BAME/PoC network

Mis Hanes Pobl Dduon x Stonewall

Eleni bydd Stonewall yn dathlu Mis Hanes Pobl Dduon drwy rannu'r profiadau a safbwyntiau o Pobl liw Cwiar, Traws ac Rhyngryw, neu QTIPOC fel gwelir yn aml yn y Saesneg.

Yr Hydref yma dathlwn Fis Hanes pobl Dduon chymherwn yr amser i gofio Hanes Pobl Ddu LHDT.

Mae’r rôl ganolog y mae pobl du LHDT o fewn hanes LHDT Gorllewinol y byd wedi ei gofnodi ond yn aml yn cael ei anghofio. O Marsha P. Johnson a Stormé DeLarverie, rhaio brif ffigurau yn nherfysgoedd 1969 Stonewall, i arweinwyr LHDT fodern fel Munroe Bergdorf a Lady Phyll, mae pobl ddu wastad wedi paratoi’r ffordd i ryddid LHDT. Ond mae pobl ddu LHDT hefyd wastad wedi bodoli tu allan i gyd-destun y Gorllewin. Anaml y caiff hanes cyfoethog Affrica o wahanol gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaethau rhywedd ei addysgu na'i drafod mewn ysgolion.

Hyd yn oed yn 2019, mae pobl LHDT Du yn dioddef lefelau eithafol o wahaniaethu. Mae 51 y cant o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig LHDT wedi adrodd eu bod wedi profi hiliaeth o fewn y gymuned LHDT+. Mae hyn yn cynyddu i 61 y cant i bobl LHDT du.

Mae’n bwysig bod unrhyw un sydd eisiau bod yn gynghreiriad i bobl Ddu LHDT yn

  • Gwrando ar leisiau’r gymuned sydd wedi, yn hanesyddol eu dileu
  • Cefnogi’r cymunedau drwy cydnabod y fraint sydd ganddynt ac i’w defnyddio er mwyn gwneud yn siŵr fod holl aelodau’r gymuned LHDT yn cael eu cynnwys
  • Arddangos y gymuned, boed yn y gweithle, mewn cylchoedd cymdeithasol neu o fewn eich bywyd personol.

Isod gwelir rhai o’r adnoddau sy’n trafod profiadau pobl LHDT Du yn ogystal â phobl groenliw.

Yn anffodus nid yw'r cynnwys isod ar gael yn y Gymraeg.