Strategaeth Stonewall: Rhydd i Fod | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Two people wearing white t-shirts, hugging and smiling, against a salmon-coloured wall

Strategaeth Stonewall: Rhydd i Fod

Ymunwch â ni i greu byd lle mae pawb LHDTC+ yn rhydd i fod.

Yn Stonewall, rydyn ni’n sefyll dros bob person lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws, cwiar, cwestiynu, ac ace (LHDTC+).

Rydyn ni’n dychmygu byd lle mae pobl LHDTC+ ym mhob man yn rhydd i fod yn nhw eu hunain ac yn gallu byw eu bywydau i’r eithaf.

Rydyn ni’n gwybod, fel rhan o ymgyrch fyd-eang dros newid sy’n cynnwys pobl LHDTC+, ein cynghreiriaid, ein teuluoedd, a’n ffrindiau, y byddwn ni’n llwyddo. Gyda’n gilydd.

Strategaeth Stonewall: Rhydd i Fod

Yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi helpu i greu newid trawsnewidiol ym mywydau pobl LHDTC+ ar draws cymunedau yn y DU. Rydyn ni wedi teithio llwybr o Adran 28, a phan oedd hunaniaethau LHDTC+ wedi’u hatal yn llwyr mewn ysgolion, i bob plentyn yn dysgu am ein bywydau, ein teuluoedd a’n perthnasau fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol yn y rhan fwyaf o’r DU. Mae’r un llwybr wedi mynd â ni o fyd lle roedd ein perthnasau ni’n drosedd, i un lle mae ganddon ni hawliau teg i garu. Ac, i’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny, hawliau teg i briodi, neu i gael plant.

Rydyn ni’n falch o bwy ydyn ni, a’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd, ac rydyn ni’n gwybod bod wirioneddol angen mwy o newid.

Ym mhob cymuned yn y DU, a ledled y byd, mae pobl LHDTC+ yn dal i gael eu cam-drin, eu taflu o’u cartrefi, a’u bwlio yn yr ysgol a’r gweithle. Yn rhy aml mae’r sefydliadau a ddylai ein diogelu – ein llywodraethau, ein cymunedau, ein sefydliadau ffydd a’n teuluoedd – yn aros yn dawel, neu yn ein niweidio ni.

Ac i rai pobl LHDTC+, mae’r niwed yma’n arbennig o wael. O hiliaeth i ablaeth, misogynistiaeth i wahaniaethu ar sail dosbarth cymdeithasol, mae pobl groenliw LHDTC+, menywod LHDTC+, pobl LHDTC+ sy’n anabl, y rhai ohonon ni sy’n byw mewn tlodi, sydd â ffydd, a llawer mwy ohonon ni, yn cael ein dal yn ôl a’n gwthio o’r neilltu drwy ein bywydau.

Ry’n ni’n sefyll dros rhyddid, tegwch a photensial pob person LHDTC+. Rydym wedi trefnu ein nodau o dan y pileri hyn i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau a gwella bywydau pobl LHDTC+ yn y DU a ledled y byd. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy a lawrlwytho'r strategaeth lawn.

Allwn ni ddim creu'r byd rydyn ni'n ei ddychmygu, y byd y mae ein cymunedau'n ei haeddu, hebddoch chi.

Ymunwch â ni.

Tegwch.

Byddwn yn ymgyrchu dros:

  • Gwaharddiad a gaiff ei orfodi â chyfraith ar therapi trosi ledled y DU, gyda chefnogaeth i oroeswyr a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol rheng flaen.
  • Deddfau troseddau casineb a iaith casineb yn y DU sy’n diogelu cymunedau LHDTC+, ynghyd ag eirioli dros ddulliau adferol.
  • Canllawiau gwell gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHRC) ar ddull penderfynu ar geisiadau am loches gan bobl LHDTC+, a chanlyniadau mwy teg i ffoaduriaid LHDTC+ yma yn y DU.
  • Cydnabyddiaeth gyfreithiol gynhwysol sy’n parchu ac yn diogelu pwy ydyn ni, a’n cydberthnasau.

Tegwch.

Fe wnawn ni:

  • Ymgyrchu dros ofal iechyd hygyrch o ansawdd uchel i bob person LHDTC+.
  • Sicrhau ein bod ni’n cefnogi ac yn gweithio ochr yn ochr mewn modd priodol â phobl o liw LHDTC+.
  • Meithrin cysylltiadau cryf gyda chymunedau ffydd cynhwysol i helpu pobl LHDTC+ â ffydd i ffynnu.
  • Creu sail dystiolaeth gref i gefnogi gwaith ymgyrchu sy’n taclo’r anghydraddoldebau dwfn yn ein cymunedau.
  • Cefnogi pobl LHDTC+ drwy eu bywydau, o’u hamseroedd yn yr ysgol i ymddeol a thu hwnt.

Potensial

Fe wnawn ni:

  • Ehangu a gwella ein rhaglenni gweithle ledled y byd. Drwy ein Hyrwyddwyr Amrywiaeth a’n Hyrwyddwyr Amrywiaeth Byd-eang, byddwn ni’n parhau i greu newid mewn sefydliadau – tan fod pob person LHDTC+ yn cael ei dderbyn a’i ddathlu yn y gwaith, ble bynnag rydyn ni’n gweithio.
  • Ehangu ein rhaglenni grymuso fel bod modd i fwy o bobl LHDTC+ a’u cynghreiriaid gamu i’r bwlch fel arweinwyr, modelau rôl, ac ymgyrchwyr yn eu cymunedau nhw.
  • Hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ ar draws ysgolion a cholegau drwy weithio hefo sefydliadau addysgiadol ar draws y DU.
  • Ymgyrchu dros gynhwysiant LHDTC+ ar draws chwaraeon ledled y byd. Dylai pob person LHDTC+ deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus yn cymryd rhan yn y chwaraeon a’r gweithgarwch corfforol maen nhw’n eu hoffi.
  • Cefnogi Pride yn ei holl ffurfiau. Mae gan bob person LHDTC+ hawl i brotestio, dathlu, a chysylltu mewn gofodau diogel a chefnogol.

 

Donate today

We imagine a world where LGBTQ+ people everywhere are free to be themselves. Your donation will help us get there. Donate today.