Come Out For LGBT | Linda
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran

Linda Riley

CYHOEDDWR CYLCHGRAWN DIVA

Fe ddes i allan ddiwedd y saithdegau. Mae cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws wedi datblygu'n sylweddol ers hynny. Mae gyda ni briodasau cyfartal, mwy o hawliau cyflogaeth, hawliau ar gyfer rhieni sy'n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu'n draws - 30 mlynedd yn ôl, doedd yr hawliau yna ddim yn bodoli.

Byddai cyplau yn gwahanu, a fyddai dim hawliau gan y rhiant oedd ddim yn rhiant biolegol. Erbyn hyn, os yw cyplau lesbiaidd yn gwahanu, mae gan y rhiant sydd ddim yn rhiant biolegol lawer iawn mwy o hawliau a gallan nhw gael eu cynnwys ar y dystysgrif geni. Mae hynny'n ddatblygiad cymharol ddiweddar.

Ro'n i'n 15 oed pan ddes i allan. Ces i ddau ddewis gan fy nheulu: therapi electrogynhyrfol neu gael fy nhaflu allan o'r tŷ. Fe adawais i.

Fe fydden i wedi cael problemau enfawr, ond fe ges i lety a lle i fyw gan ddwy lesbiad o'r gymuned. Allan o garedigrwydd pur - ro'n i'n 15 oed, doedd gen i ddim incwm a dim arian i dalu rhent. Edrychodd y gymuned ar fy ôl i, ac rwy'n cofio hynny bob amser. Roedd yn teimlo fel mai'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws oedd fy nheulu.

Mae'r hyn ddigwyddodd i fi bryd hynny yn dal i ddigwydd i bobl heddiw. Mae'n dorcalonnus. Wnewch chi fyth ddod dros y peth.

Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgyrch yma'n rhoi cyfle i bawb weld mwy o fodelau rôl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws a gwybod ei bod hi'n iawn i fod yn chi eich hunan.