Gwirfoddolwch gyda ni | Cymru
Mewngofnodi
Chwaraewch Ran
Volunteer With Us

Gwirfoddolwch gyda ni

Mae Stonewall Cymru bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd!

Faint bynnag o amser sydd gennych i'w roi, pa bynnag sgiliau sydd gennych, bydd bob amser lle i chi wirfoddoli gyda ni.

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n anelu i gynnig y profiad gwirfoddoli gorau posibl. Mae gyda ni ystod eang o gyfleoedd, a gellir eu teilwra i gyd-fynd â'ch sgiliau a'ch nodau personol. Mae gwirfoddoli yn broses ddwyffordd yn ein barn ni - rydych chi'n ein helpu ni drwy roi o'ch amser, ac rydyn ni'n cynnig cyfleoedd i chi ddysgu pethau newydd, datblygu sgiliau newydd, ac ennill gwobrau am eich ymrwymiad.

 

Gwirfoddolwr Gwasanaeth Gwybodaeth

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Stonewall Cymru yn ymateb i ymholiadau gan bobl sydd angen gwybodaeth frys am hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Mae nifer fawr o bobl sy'n cysylltu â ni wedi profi gwahaniaethu ac angen gwybod sut i weithredu. Mae pobl eraill am ddechrau teulu neu briodi ac angen atebion i gwestiynau am y ddeddfwriaeth berthnasol. Gwirfoddolwyr yw asgwrn cefn y gwasanaeth, a nhw sy'n darparu ymatebion manwl ac yn cyfeirio pobl tuag at ymgynghorwyr cyfreithiol, cynghorwyr a grwpiau cymunedol.

Nid oes angen profiad blaenorol arnoch chi. Mae gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant a chymorth parhaus. Byddwch chi'n dysgu llawer ac yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru. Bydd gofyn i wirfoddolwyr gyflawni o leiaf un shifft bob pythefnos.

Gwirfoddolwr Digwyddiadau  

Bydd y gwirfoddolwyr yn cefnogi staff mewn digwyddiadau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Balchderau rhanbarthol a'r Eisteddfodau, yn ogystal â mynd i ddigwyddiadau llai heb aelodau o staff. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gwerthu cynnyrch, siarad gyda chefnogwyr am ein gwaith a dosbarthu adnoddau. Bydd cyfle hefyd i wirfoddolwyr drefnu eu digwyddiadau eu hunain ac ymgyrchoedd codi arian er budd Stonewall Cymru.

Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Bydd y cyfle hwn yn ddelfrydol os nad oes gennych lawer o amser, neu eich bod am gyflawni gwaith gwirfoddol y tu allan i ymrwymiadau gwaith.

Gwirfoddolwr Prosiect

Bydd y gwirfoddolwyr yn cefnogi staff gydag unrhyw dasgau sy’n ymwneud â phrosiectau. Gall hwn cynnwys gwaith gweinyddol, paratoi ar gyfer digwyddiadau, cyfryngau cymdeithasol ayyb.

Bydd y cyfle hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sydd eisiau cefnogi’r sefydliad bob hyn a hyn. Er bydd nifer o’r shifftiau yn ystod oriau swyddfa ac wedi’i leoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, gall fod cyfleoedd tu allan i‘r amseroedd yma.

Cysylltwch â ni